English

Gellir rhannu gwersi wedi'u recordio ymlaen llaw gyda dysgwyr ar adeg a dyddiad penodol a nodwyd ymlaen llaw neu fel rhan o gyfres o weithgareddau dysgu.

Mae recordio gwersi ymlaen llaw yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys:

  • rhoi amser i chi baratoi
  • y gallu i ail-recordio yn ôl yr angen

Mae recordiadau fideo o wersi yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, gan eu galluogi i:

  • gael mynediad at wersi ar adegau cyfleus
  • edrych yn ôl dros wersi yn ôl y gofyn

Gall ymarferwyr ddefnyddio amrywiaeth o offer o fewn Hwb i greu fideos.

Mae dewis y botwm 'Calendr ' o fewn Teams yn caniatáu i ddefnyddwyr 'Cyfarfod nawr'. Gall ymarferwyr 'ymuno' â chyfarfod heb orfod gwahodd unrhyw un arall. Mae gan y bar dewislen canolog dri dot (...) ar gyfer 'mwy o gamau' sy'n caniatáu i ddefnyddwyr 'dechrau recordio' y sesiwn. Mae gan y bar dewislen hefyd yr opsiwn 'rhannu'. Mae dewis hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr ddangos eu bwrdd gwaith neu ffeil ar eu cyfrifiadur.

Bydd eich trwydded Microsoft Hwb yn effeithio ar ba opsiynau recordio sydd ar gael i chi.

  1. Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Google for Education.
  2. O'r ddewislen waffl, dewiswch 'Meet’.
  3. Dewiswch 'New meeting'. 
  4. Dewiswch 'Start an instant meeting'. 
  5. Gallwch ddewis llysenw ar gyfer y cyfarfod, neu adael y blwch yn wag. Byddwch yn ymwybodol y gallai pobl eraill gael mynediad at gyfarfodydd os yw’r llysenw yr un peth â'r llysenw a ddewiswyd gan ddefnyddiwr arall.  Am y rheswm hwn, byddem yn argymell gadael y blwch yn wag.
  6. Dewiswch 'Join now’
  7. Dewiswch y tri dot fertigol ('More options') i ddewis y swyddogaeth 'Record meeting'
  8. Dewiswch 'Start’
  9. Dewiswch 'Present now' o'r ddewislen i rannu eich sgrin (e.e. PowerPoint)
  10. Dewiswch y tri dot fertigol ('More options') i stopio recordio.

Ar ôl i chi orffen recordio, bydd angen i chi aros i ffeil y recordiad gael ei chynhyrchu a'i chadw i'ch ffolder Google My Drive > Meet Recordings.

Mae Flip yn platfform rhannu fideos sydd bellach yn cynnwys recordio sgrin (Saseneg yn unig). Mae athrawon yn llofnodi wrth ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb ac yn dewis 'Camera’ i ddechrau recordio fideo.

Mae defnyddwyr yn dewis y tri dot llorweddol (...) ar y dudalen gofnodi i weld yr opsiwn ar gyfer 'record screen'.

Mae'r fideos yn cael eu cadw yn Flip ac yna gellir eu rhannu gyda dysgwyr drwy Flip, neu gall yr athro eu lawrlwytho er mwyn eu rhannu.

Gall athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer Microsoft Office diweddaraf am ddim. Mae gan yr ap PowerPoint offeryn recordio sgrin. Pan fydd defnyddwyr yn dewis y tab 'Mewnosod' yn y rhuban ar frig y sgrin, bydd opsiwn ar gyfer 'Recordiad Sgrin' yn ymddangos.

Bydd recordiadau sgrin yn ymddangos yn awtomatig o fewn y PowerPoint fel ffeil fideo.

Mae hwn yn estyniad recordio sgrin y gellir ei gyrchu pan fydd defnyddwyr yn mewngofnodi i Google Chrome gan ddefnyddio eu manylion mewngofnodi Hwb.

Mae recordiadau sgrin yn cael eu cadw yn Google Drive.

Adobe Creative Cloud Express Video

Mae Adobe Creative Cloud Express for Education ar gael i bob athro a dysgwr fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb. Gellir mynd at Adobe Creative Cloud Express Video drwy ddefnyddio porwr neu iPad/iPhone a’ch manylion mewngofnodi Hwb.

Gellir rhannu recordiadau drwy URL neu e-bost neu drwy eu cyhoeddi’n uniongyrchol i Google Classroom.