English

Drwy Hwb, mae gan staff fynediad at Microsoft 365 (M365) a Google Workspace for Education.

Gellir defnyddio Microsoft Teams a Google Meet i recordio gwersi.

Os ydych chi’n bwriadu recordio gwersi byw gyda dysgwyr cofiwch y canlynol.

  • Gall ymarferwyr recordio gwersi neu gyfarfodydd yn Microsoft Teams.
  • Ni all dysgwyr recordio gwersi.
  • Gall pob ymarferydd recordioCyfarfod nawr neu gyfarfod a drefnwyd y tu allan i’r Tîm.
  • O fewn Tîm, dim ond perchennog y Tîm all recordio Cyfarfod nawr neu gyfarfod a drefnwyd.

I gael rhagor o wybodaeth am recordio Cyfarfodydd Teams, cyfeiriwch at ein canllawiau ar Microsoft Teams.

Wrth recordio gwers Microsoft Teams, bydd lleoliad y recordiad yn dibynnu ar a yw’r wers wedi cychwyn o’r tu mewn i’r Tîm.

Recordio y tu allan i’r Tîm (Cyfarfod nawr neu gyfarfod a drefnwyd)

Wrth recordio y tu allan i’r Tîm, bydd y recordiad yn cael ei storio yn OneDrive personol y defnyddiwr sy’n recordio’r cyfarfod.   

Gall y defnyddiwr sy’n recordio’r wers neu’r cyfarfod gael mynediad at y recordiad yn eu OneDrive, a bydd ganddo fynediad llawn i rannu, dileu neu olygu’r recordiad. Mae ar gael yn y ffolder Recordings dan My Files

Unwaith y bydd y wers neu’r cyfarfod wedi dod i ben, bydd y recordiad yn weladwy i holl fynychwyr y Sgwrs Cyfarfod (neu Lif y Cyfarfod Tîm ar gyfer Dysgwyr). Gall yr holl fynychwyr glicio ar y recordiad yn y Sgwrs neu Glicio ar (…) a dewis Agor yn OneDrive (angen mewngofnod Hwb).

Dim ond y recordiad y bydd aelodau’r Cyfarfod Tîm yn gallu ei weld.

Wrth recordio o fewn Tîm, bydd y recordiad yn cael ei gadw yn safle SharePoint sianel y Tîm.

Unwaith y bydd y wers neu’r cyfarfod yn dod i ben, mae’r recordiad yn weladwy  i holl berchnogion ac aelodau’r cyfarfod tîm dan y tab Ffeiliau o fewn y Tîm. Bydd yn cael ei roi’n awtomatig yn yr is-ffolder View only dan y ffolder Recordings .

Mae’r recordiad yn weledol hefyd yn nhab Postiadau y Cyfarfod Tîm, lle gall holl berchnogion ac aelodau’r Tîm weld y recordiad. 

Bydd gan holl berchnogion y tîm fynediad llawn i rannu, dileu neu olygu’r recordiad.

Dim ond y recordiad y bydd aelodau’r Tîm yn gallu ei weld.

Eich cyfrifoldeb chi fel trefnydd y cyfarfod bob amser yw rheoli recordiadau'n ddiogel. 

Mae’n bwysig sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn ‘aelodau’ o dimau ac nad ydynt wedi’u priodoli’n ‘berchnogion’ tîm.    

Rhybudd

Byddwch yn ymwybodol, os byddwch yn clicio'r 3 dot (...) wrth ymyl y ddelwedd fideo yn y Sgwrs ac yn dewis Rhannu ... bydd hyn yn rhannu'r recordiad i bob defnyddiwr yn y sefydliad. Mae hyn yn golygu pob defnyddiwr Hwb ledled Cymru.

Sut ydw i'n cyfyngu dysgwyr rhag gwylio recordiadau gwersi?

Gall perchnogion y wers symud recordiad er mwyn cyfyngu ar allu dysgwyr i gael mynediad i’r recordiad drwy ddilyn y camau hyn:

  1. Cliciwch ar y tab Ffeiliau o fewn y Tîm.
  2. Dewiswch y Ffolder Recordings a chlicio ar yr is-ffolder View only.
  3. Dewiswch Agor yn SharePoint (bydd hyn yn agor y ffolder View only yn Sharepoint).
  4. Dewiswch y bocs ticio drws nesaf i’r recordiad rydych am ei gyfyngu.
  5. Cliciwch ar y 3 dot llorweddol.
  6. Dewiswch Symud i a chlicio ar Eich OneDrive.
  7. Dewiswch pa ffolder yn eich OneDrive i symud y recordiad iddo.
  8. Yna cliciwch Symud yma.

Sylwer:

Yna ni fydd y dysgwr ac aelodau eraill y Tîm yn:

  • Gallu gweld y recordiad yn SharePoint.
  • Gallu chwarae’r recordiad o’r Team Postiadau neu’r Team Ffeiliau.

I gael rhagor o wybodaeth am recordio gwersi Google Meet, cyfeiriwch at ein canllawiau Google Meet.

Ar ôl i chi orffen recordio, bydd angen i chi aros i ffeil y recordiad gael ei chynhyrchu a'i chadw i ffolder My Drive > Meet Recordings trefnydd y cyfarfod.

Anfonir e-bost gyda'r ddolen i’r recordiad at drefnydd y cyfarfod, a'r person a ddechreuodd y recordiad.

  • Eich cyfrifoldeb chi bob amser fel trefnydd y cyfarfod yw rheoli recordiadau yn ddiogel.
  • Mae recordiadau fideo o wersi yn cynnig hyblygrwydd i ddysgwyr, gan eu galluogi i fanteisio ar wersi ar adegau cyfleus neu i edrych yn ôl dros wersi i gael eglurhad neu i gadarnhau cynnwys.

Ewch i Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb i weld y canllawiau diweddaraf ar ffrydio byw a fideogynadledda sy'n cynnwys canllawiau ar recordio gwersi.