Y cyfryngau cymdeithasol
Canllawiau a gwybodaeth i helpu i ddeall y cyfryngau cymdeithasol gyda phlant a phobl ifanc.
- Rhan o
Trosolwg
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig llawer o fanteision fel helpu pobl i wneud y canlynol:
- cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu
- gwneud ffrindiau newydd drwy gysylltu â chymunedau ac unigolion o'r un anian
- dod o hyd i gymorth a chyngor defnyddiol
- cefnogi a dylanwadu achosion
- cael y newyddion diweddaraf
Fodd bynnag, mae anfanteision i'r cyfryngau cymdeithasol. Ymysg y rhain mae:
- pwysau cymdeithasol
- dirnadaeth wyrdroëdig o realiti a chymharu ein bywyd ag eraill
- teimlo'n unig, yn ynysig ac allan ohoni
- anodd cael y cydbwysedd cywir rhwng gweithgareddau ar-lein ac all-lein
- dod i gysylltiad â chynnwys niweidiol
- dod i gysylltiad â phobl â bwriadau drwg
AI cynhyrchiol
Mae llawer o gwmnïau cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau integreiddio offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI cynhyrchiol) i'w platfformau i ddefnyddwyr er mwyn creu:
- delweddau
- testun
- cyfryngau eraill
Mae AI cynhyrchiol hefyd yn personoli eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol drwy ddewis cynnwys yn seiliedig ar eich hanes pori.
Dylanwadwyr
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig y potensial i ddal sylw cynulleidfa fawr. Gall pobl ddod yn enwogion neu'n frandiau, a elwir yn 'ddylanwadwyr'.
Gall dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml:
- hyrwyddo cynhyrchion, ffyrdd o fyw neu agweddau penodol
- perswadio eraill i weithredu ar sail eu hargymhellion
Mae rhai dylanwadwyr wedi dod yn enwog drwy wneud y canlynol:
- tynnu sylw at faterion ac achosion cymdeithasol pwysig
- rhannu gwybodaeth a safbwyntiau cytbwys
Mae eraill yn defnyddio eu platfform i hyrwyddo ffyrdd o fyw uchelgeisiol, er enghraifft gyda chynnwys ynghylch:
- ffitrwydd
- ffasiwn
- dylunio mewnol
Mae hefyd ddylanwadwyr sydd wedi dod yn adnabyddus am rannu barn eithafol a niweidiol. Gall y rhain effeithio'n negyddol ar eu dilynwyr drwy gamliwio eu safbwyntiau.
Mae'n bwysig cofio bod dylanwadwyr yn rhannu cynnwys sydd wedi'i ddewis yn fwriadol a dyna yn aml yw eu gwaith. Mae'n hawdd cymharu eich bywyd â'r delweddau wedi'u saernïo'n ofalus a welwn ar-lein. Fodd bynnag, mae'n bwysig meddwl yn feirniadol am y cynnwys rydych chi'n ei weld.
Os yw'r cynnwys yn hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth, er enghraifft ffasiwn, teithio neu gemau, ystyriwch:
- a yw'n hysbysiad neu'n waith hyrwyddo am dâl?
- a yw'r dylanwadwr yn hyrwyddo dim ond am ei fod wedi cael ei dalu i wneud hynny?
- a yw'r delweddau'n realistig?
- a yw'r cynnyrch neu'r gwasanaeth hwn yn angenrheidiol?
- a oes adolygiadau o'r cynnyrch neu'r gwasanaeth yn rhywle arall?
- a oes dewis arall rhatach?
- a yw'r un cynnyrch neu wasanaeth yn rhatach yn rhywle arall?
Os yw'r cynnwys yn rhannu safbwynt neu farn, ystyriwch:
- pam mae'r cynnwys wedi'i greu?
- a oes cymhelliad y tu ôl i'r cynnwys hwn?
- a yw'r cynnwys wedi'i olygu neu ei lunio mewn ffordd benodol?
- pa mor realistig yw'r delweddau?
- a yw'r safbwyntiau yn rhai cytbwys?
- a oes unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau hyn (er enghraifft gan ddarparwyr newyddion mawr neu wefannau ag enw da)?
- sut mae'r cynnwys yn gwneud i chi deimlo?
- ar bwy neu beth mae'r cynnwys hwn yn ceisio dylanwadu?
Rheoli effaith dylanwadwyr
Gall fod yn anodd llywio'r ymddygiadau cadarnhaol a negyddol sy'n cael eu harddangos gan ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Ceisiwch gofio'r canlynol:
- Gall bywyd dylanwadwyr ymddangos yn ddymunol. Fodd bynnag, dim ond cyfran fach o'u bywyd maen nhw'n ei dangos. Dyma'r rhannau o'u bywydau maen nhw fel arfer yn cael eu talu i'w rhannu. Os yw cynnwys gan ddylanwadwr penodol yn effeithio ar eich hunan-barch neu'ch iechyd meddwl, dylech roi'r gorau i'w dilyn. Yna, dylech geisio cymorth gan weithiwr proffesiynol neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
- Pan ydyn ni'n gweld postiadau sy'n ein dychryn, sy'n gwneud inni chwerthin, sy'n gwneud inni deimlo'n flin neu'n drist, dyna pryd ydyn ni fwyaf agored i niwed. Gall hyn ein gwneud yn agored i gredu barn neu safbwyntiau rhagfarnllyd a gwneud pryniannau diangen. Edrychwch am safbwyntiau, cynnwys neu gynhyrchion amgen o ffynonellau dibynadwy i sicrhau bod gennych safbwynt cytbwys. Yna gallwch wneud eich penderfyniadau eich hun a llunio eich barn eich hun.
- Gall clicio 'rhannu' neu 'hoffi' ar bostiad dadleuol achosi niwed i eraill drwy ledaenu casineb neu gamwybodaeth. Meddyliwch am eich ôl-troed digidol eich hun.
Cadw eich profiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn un cadarnhaol
Mae'n naturiol bod eisiau rhannu darnau gorau eich bywyd gyda theulu a ffrindiau. Fodd bynnag, weithiau mae'n bosibl y byddwch yn eich cael eich hun yn edrych ar gynnwys sy'n gwneud ichi deimlo:
- yn annigonol
- yn ddig
- yn bryderus
- dan bwysau
Gall hyn gynyddu a dechrau cael effaith negyddol ar eich llesiant corfforol a meddyliol lle rydych:
- yn poeni am eich ymddangosiad
- yn profi ofn colli allan (FOMO)
- yn profi ynysigrwydd cymdeithasol
Mae help ar gael os ydych chi neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn aml:
- wedi eich gorlethu
- yn teimlo'n bryderus
- yn ei chael yn anodd ymdopi
Mae ein tudalen cymorth a chefnogaeth yn cynnwys gwybodaeth am sut i gael mynediad at gyngor a chymorth cyfrinachol am ddim.
Ffrydio'n fyw ar y cyfryngau cymdeithasol
Ffrydio byw yw darlledu fideo byw amser real gan ddefnyddio'r rhyngrwyd. Gall pobl ifanc ddefnyddio gwasanaethau ffrydio byw i greu eu darllediad eu hunain neu gallan nhw wylio eraill yn ffrydio'n fyw. Gall hyn gynnwys enwogion, blogwyr fideo (neu 'flogwyr') a 'chwaraewyr gemau', yn ogystal â ffrindiau a theulu.
Gall ffrydio byw fod yn ffordd gadarnhaol o fynegi eich hun a chysylltu â phobl sydd â diddordebau tebyg. Fodd bynnag, gall hefyd arwain at ganlyniadau difrifol.
Mae'n bwysig deall goblygiadau preifatrwydd rhannu cynnwys.
Cyn ffrydio'n fyw, ystyriwch:
- yr hyn rydych chi'n ei ddarlledu
- pwy all weld eich darllediad
- gwybodaeth bersonol neu eich lleoliad y gallech fod am eu cuddio
- y gosodiadau ar y gwasanaeth ffrydio byw rydych chi'n ei ddefnyddio i sicrhau eu bod yn iawn i chi
Heriau a straeon celwydd ar-lein feirol
Mae heriau ar-lein fel arfer yn ymwneud â defnyddwyr yn recordio eu hunain yn cymryd rhan mewn her. Yna maen nhw'n rhannu'r recordiad ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn annog neu'n herio eraill i ailadrodd yr her. Bwriad straeon celwydd ar-lein yw ymddangos yn rhai gwir ac yn aml gallan nhw fod ar ffurf:
- stori ddychrynllyd
- ffotograff
- erthygl newyddion
- fideo
- memyn (meme)
Os ydych chi'n dod yn ymwybodol o her neu stori gelwydd niweidiol, mae'n hanfodol nad ydych chi'n gwneud unrhyw beth sy'n codi ymwybyddiaeth ohoni yn anfwriadol.
Cyfyngu ar ledaenu
Pan welwch her neu stori gelwydd ar-lein, eich greddf o bosibl fydd rhybuddio eraill. Fodd bynnag, gall hyn gynyddu chwilfrydedd pobl eraill ac achosi iddyn nhw chwilio am y cynnwys niweidiol.
Osgoi enwi'r cynnwys niweidiol
Gallai enwi her neu stori gelwydd niweidiol ar-lein achosi'r risg o ledaenu cyrhaeddiad y cynnwys ymhellach. Mae'n well peidio â chanolbwyntio ar fanylion un her neu stori gelwydd benodol. Yn lle hynny, rhowch arweiniad cyffredinol ar gyfer delio â phroblemau ar-lein.
Cael sgyrsiau agored lle rydych chi'n siarad ac yn gwrando
Gall heriau ar-lein a chynnwys sy'n achos pryder godi'r angen i siarad am faterion difrifol eraill fel:
- hunan-niweidio
- hunanladdiad
Osgoi dangos cynnwys sy'n achosi gofid neu fraw
Mae'n bwysig cofio, hyd yn oed pan fydd rhywbeth yn mynd yn feirol ar-lein, nid yw'n golygu bod pob person ifanc wedi ei weld neu wedi clywed amdano. Ceisiwch gael sgyrsiau agored am risgiau heriau a straeon celwydd ar-lein:
- heb ddangos unrhyw enghreifftiau
- heb roi manylion penodol
Pwysau gan gyfoedion
Weithiau gall pobl gael eu denu i ymgymryd â heriau oherwydd mai dyna mae eu ffrindiau yn ei wneud neu mae'n ymddangos mai dyna maen nhw'n ei wneud. Gall dweud 'na' ymddangos yn beth anodd iawn i'w wneud.
Cymorth i bobl ifanc
-
Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein
Yn egluro rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw a lle i fynd am help.
Cymorth i ysgolion
-
Adnoddau dysgu ac addysgu
Adnoddau i gefnogi gwersi am y cyfryngau cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth.
-
Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
Ffyrdd posibl i ysgolion ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
-
Hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i ysgolion
Fideo i helpu ysgolion i ddeall canllawiau ar bolisïau ac arferion cyfryngau cymdeithasol.
Cymorth i deuluoedd
-
Canllawiau ynghylch apiau
Canllawiau ar apiau poblogaidd y gall plant a phobl ifanc fod yn eu defnyddio.
-
Tynnu sylw at y cyfryngau cymdeithasol
Canllaw cyflym ar y cyfryngau cymdeithasol i rieni a gofalwyr.
Barn yr arbenigwyr
-
Beth yw heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein, a beth ddylem ni fod yn ei wneud yn eu cylch?
Yn rhannu canfyddiadau ymchwil ar sut mae pobl ifanc yn ymwneud â heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein.
-
Rheoli'ch ôl troed digidol a'ch enw da
Yn edrych sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eich cyflogaeth yn y dyfodol.
-
Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein
Yn sôn am yr effaith niweidiol y gall rhai personoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein ei chael, a sut i gefnogi rhywun sydd wedi dod ar draws cynnwys o'r fath.
-
Blacmel rhywiol
Yn egluro beth yw blacmel rhywiol, a beth i'w wneud os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ddioddefwr.
-
Canllawiau i rieni a gofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol
Yn amlinellu'r dirwedd bresennol o ran y cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi cyngor i rieni a gofalwyr ar helpu pobl ifanc i reoli risgiau cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol.
-
Goblygiadau deallusrwydd artiffisial i blant a phobl ifanc mewn ysgolion
Trafod rhai o'r pryderon ynghylch technolegau AI a sut i helpu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am AI a'i ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol a moesegol.
-
Dechrau sgyrsiau am sgamiau ar-lein
Tynnu sylw at ymchwil i sgamiau ar-lein.
-
Pobl ifanc yn dweud wrthym am y byd ar-lein maen nhw’n byw ynddo
Rhannu canfyddiadau blynyddol Cybersurvey sy'n dangos bod nifer sylweddol o bobl ifanc yn gweld cynnwys niweidiol dro ar ôl tro heb chwilio amdano.
Help a chefnogaeth
-
Help a chefnogaeth
Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.