English

Mae meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn broses lle mae rhywun yn dod yn ffrind i berson arall ar-lein ac yn meithrin eu hymddiriedaeth gyda'r bwriad o:

  • fanipiwleiddio
  • ecsbloetio
  • achosi niwed

Mae pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn targedu pobl a allai fod:

  • yn teimlo'n unig
  • yn teimlo'n ynysig
  • yn cael trafferth gyda hunan-barch neu gynnal perthynas

Gallai'r person sy'n gwneud hyn fod yn rhywun y mae'r dioddefwr yn ei adnabod neu'n ddieithryn llwyr.

Rhybudd

Os ydych chi’n pryderu bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein neu’n cam-fanteisio’n rhywiol arno, cysylltwch â’r heddlu neu’r NSPCC yn syth. Gellir cyflwyno pryderon am feithrin perthynas amhriodol ar-lein a cham-drin rhywiol i’r CEOP hefyd (Saesneg yn unig).

Mae'r sawl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol yn aml yn cysylltu â llawer o bobl ar unwaith, gan obeithio y bydd rhai yn ymateb.

Bydd y sawl sy'n ceisio meithrin perthynas amhriodol ar-lein yn aml yn:

  • defnyddio sawl llwyfan i gychwyn y cysylltiad
  • mynnu bod sgyrsiau'n cael eu cadw'n gyfrinachol
  • ceisio darganfod mwy, megis a yw eu targed ar ei ben ei hun
  • anfon negeseuon rhywiol, a allai fod yn gynnil i ddechrau, fel canmol sut mae'r person yn edrych
  • gofyn am wybodaeth bersonol fel manylion am leoliad eu targed, ei ysgol neu goleg
  • defnyddio blacmel er mwyn rheoli

Os yw'r targed wedi anfon delweddau, efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn bygwth eu rhannu'n gyhoeddus oni bai bod mwy o ddelweddau yn cael eu hanfon. Pan fydd y bygwth hwn yn cynnwys galwadau am arian, fe'i gelwir yn flacmel rhywiol.

Efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol yn ceisio argyhoeddi pobl ifanc eu bod yn cyfathrebu â rhywun yr un oed â nhw trwy ddefnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial i greu'r canlynol yn realistig:

  • proffil
  • delweddau
  • sgwrs

Efallai y bydd y sawl sy'n meithrin perthynas amhriodol hefyd yn defnyddio technoleg deallusrwydd artiffisial i greu delweddau ffug (gan gynnwys lluniau noeth) i dwyllo, manipiwleiddio neu orfodi dioddefwyr.

Nid yw bob amser yn amlwg bod rhywun yn meithrin perthynas amhriodol â pherson ifanc. Fodd bynnag, efallai y bydd ambell arwydd sy'n awgrymu nad yw popeth yn iawn. Efallai y byddan nhw, er enghraifft:

  • yn cadw'u hunain atyn nhw'u hunain, yn ymddangos yn anhapus ac yn cadw cyfrinachau
  • yn treulio mwy o amser yn siarad ar y rhyngrwyd, gan gadw eu gweithgareddau ar-lein yn breifat
  • yn stopio gwneud pethau maen nhw fel arfer yn eu mwynhau, fel cwrdd yn gymdeithasol â ffrindiau
  • bydd ganddyn nhw eitemau newydd, fel dillad neu ffôn symudol, heb ddweud o ble maen nhw'n dod neu'n rhoi esboniad credadwy.

Y chi sydd yn y sefyllfa orau i wybod a yw person ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn yn wahanol. Gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch ar eich pryderon.

Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn teimlo y gallan nhw ofyn am help oherwydd:

  • nad ydyn nhw’n ymwybodol eu bod mewn perthynas amhriodol
  • maen nhw'n credu eu bod mewn perthynas ofalgar ac yn poeni am ei pheryglu
  • efallai eu bod yn ofni beth fydd y person sy'n meithrin perthynas amhriodol yn ei wneud os ydyn nhw'n dweud wrth rywun
  • dydyn nhw ddim eisiau gweld y person sy'n meithrin perthynas amhriodol mewn trafferth
  • maen nhw'n teimlo eu bod nhw ar fai
  • maen nhw'n teimlo embaras

Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc yn gallu adnabod arwyddion perthynas amhriodol a cham-drin a theimlo'n hyderus yn dweud wrth rywun. Gallwch eu cefnogi drwy:

  • eu haddysgu nhw am berthnasoedd iach
  • cael sgyrsiau am breifatrwydd a pham y dylen nhw fod yn ofalus gyda'u gwybodaeth bersonol
  • dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy all weld eu cynnwys
  • esbonio pam na ddylen nhw dderbyn cais ffrind gan ddieithriaid neu siarad â dieithriaid mewn sgyrsiau preifat
  • dysgu iddyn nhw fod yn wyliadwrus o organmol, rhoddion a chynigion sy'n ymddangos yn 'rhy dda i fod yn wir'
  • eu helpu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gadw'n ddiogel ar-lein
  • eu hannog i ddod i wybod am bobl ddibynadwy a lleoedd diogel y gallan nhw fynd iddyn nhw am gymorth
  • eu hannog i roi gwybod am ymddygiad amheus
  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.