English

Mae rhannu delweddau noeth a hanner noeth – sydd weithiau’n cael ei alw yn ‘secstio’ – yn cyfeirio at bobl ifanc o dan 18 oed yn creu ac/neu’n rhannu delweddau, fideos neu ffrydiau byw noeth neu hanner noeth. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn rhannu lluniau a fideos fel hyn drwy ddyfeisiau, llwyfannau ar-lein ac apiau negeseuon.


Efallai bod plentyn neu berson ifanc yn creu neu’n rhannu delweddau fel hyn am amrywiol resymau, er enghraifft:

  • fel math o fflyrtio
  • fel rhan o berthynas neu garwriaethol gydsyniol
  • o ganlyniad i bwysau gan gyfoedion, yn bartner neu’n ffrind(iau)
  • fel ffordd o archwilio eu teimladau rhywiol neu eu hunaniaeth rywiol
  • fel ffordd o gael sylw neu o ddilysu eu hunain
  • mewn ymateb i her o ganlyniad i orfodaeth neu ymddygiad bygythiol fel bwlio neu flacmel (sy’n aml yn cael ei alw’n ‘blacmel rhywiol’ neu 'sextortion’)  

Yng Nghymru a Lloegr, o dan Ddeddf Amddiffyn Plant 1978 mae’n drosedd cymryd, gwneud, dangos, dosbarthu neu feddu ar ddelweddau anweddus o unrhyw un o dan 18 oed.

Mae hon yn gallu bod yn sefyllfa ddryslyd iawn i blentyn neu berson ifanc. Os ydyn nhw wedi creu delwedd noeth ohonyn nhw eu hunain ac wedi’i chadw yn breifat ar eu dyfais, mae’n dal i fod yn drosedd, hyd yn oed os mai dim ond nhw sydd i'w gweld yn y ddelwedd.

Ond, erbyn hyn mae'r heddlu yn ystyried llawer o ddigwyddiadau o rannu delweddau noeth neu hanner noeth sydd ond yn cynnwys plant a phobl ifanc yn fater diogelu yn hytrach na throsedd. Heblaw mewn achosion eithriadol, nid gwneud plant a phobl ifanc sy'n creu ac yn rhannu delweddau noeth a hanner noeth ohonyn nhw’u hunain yn droseddwyr yw’r peth gorau o safbwynt lles y plant dan sylw na budd y cyhoedd.   

Mae hyn yn gallu creu sefyllfaoedd cymhleth i oedolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Os bydd digwyddiad sy'n cynnwys rhannu delweddau noeth a hanner noeth yn codi, dylech weithredu’n ofalus er mwyn gwneud yn siwr nad ydych chi’n gwneud unrhyw beth y gellid ei ystyried, mewn unrhyw ffordd, yn drosedd yn ymwneud â delweddau anweddus o blant.


Os ydych chi’n dod i wybod bod gan blentyn neu berson ifanc ddelweddau anweddus ohono’i hun neu rywun arall o dan 18 oed, mae’n bwysig eich bod yn gweithredu.

Yn gyntaf, peidiwch â chynhyrfu. Gallai ymateb yn fyrbwyll wneud y sefyllfa yn fwy anodd ei datrys. Gallai hefyd eich rhoi chi mewn sefyllfa anodd, yn broffesiynol ac yn bersonol.

Oni bai eich bod chi’n benodol gyfrifol am ddiogelu yn eich ysgol, y flaenoriaeth gyntaf yw dilyn gweithdrefnau diogelu eich ysgol a rhoi gwybod i'r Unigolyn Diogelu Dynodedig am y mater.

Mae'r ddogfen drosolwg, ‘Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: sut mae ymateb i ddigwyddiad’, sydd ar gael i'r holl staff yn rhoi crynodeb byr o beth i wneud os bydd digwyddiad yn dod i'ch sylw. Mae hon yn dod gyda’r canllawiau llawn, ‘Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc’. Bydd angen i bob Unigolyn Diogelu Dynodedig fod yn gyfarwydd â'r rhain.

Beth ddylech chi wneud os bydd digwyddiad yn dod i'ch sylw?

  • Peidiwch byth ag edrych ar y delweddau eich hun, eu llwytho i lawr na’u rhannu na gofyn i blentyn neu berson ifanc eu rhannu â chi neu eu llwytho i lawr ar ddyfais arall. Mae hyn yn anghyfreithlon, hyd yn oed os ydych chi'n gwneud hynny â'r bwriad gorau o helpu'r plentyn neu’r person ifanc â’i broblem.
  • Rhowch wybod i’r Unigolyn Diogelu Dynodedig os ydych chi wedi gweld y ddelwedd ar ddamwain (e.e. am fod plentyn neu berson ifanc wedi’i dangos i chi cyn i chi allu ei gynghori i beidio).
  • Peidiwch â dileu’r ddelwedd na gofyn i'r plentyn neu’r person ifanc ei dileu.
  • Peidiwch â gofyn i unrhyw blant neu bobl ifanc oedd yn rhan o’r digwyddiad ddatgelu gwybodaeth am y ddelwedd neu’r digwyddiad – cyfrifoldeb yr Unigolyn Diogelu Dynodedig yw hyn.
  • Esboniwch i'r plentyn neu’r bobl ifanc oedd yn rhan o'r digwyddiad bod angen i chi roi gwybod am y digwyddiad, a’u sicrhau y byddan nhw’n cael help a chefnogaeth gan yr Unigolyn Diogelu Dynodedig.
  • Parchwch gyfrinachedd mater diogelu o'r fath – ni ddylech rannu gwybodaeth am y digwyddiad ag aelodau eraill o staff, plant a phobl ifanc, nac â rhieni/gofalwyr.
  • Byddwch yn gefnogol i'r plentyn neu’r bobl ifanc sy'n rhan o'r digwyddiad – nid yw’n briodol gweld bai a chodi cywilydd mewn sefyllfa mor sensitif. Os oes angen rhoi cosb neu wneud atgyfeiriad i asiantaethau eraill bydd yr Unigolyn Diogelu Dynodedig ag arweinwyr uwch yn cytuno ar y rhain.
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn deall polisïau eich ysgol o ran atafaelu a chwilio. Ni ddylech geisio chwilio dyfais plentyn neu berson ifanc am ddelweddau noeth neu hanner noeth, hyd yn oed os mai chi sy’n gyfrifol am gynnal chwiliadau am gynnwys gwaharddedig arall yn yr ysgol. Mae hwn yn fater i’r heddlu.
  • Mae’n rhaid i chi roi gwybod i'r Unigolyn Diogelu Dynodedig ar unwaith os oes gennych chi unrhyw bryderon bod oedolyn wedi bod â rhan mewn creu, dosbarthu neu feddu ar ddelwedd anweddus o unrhyw un o dan 18 oed. Gallwch hefyd adrodd eich amheuon yn uniongyrchol i CEOP Command (Saesneg yn unig) yn Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU. 

Nid eich cyfrifoldeb chi yw ymchwilio i’r digwyddiad, na chymryd unrhyw gamau pellach sy’n ofynnol i ddiogelu plant neu bobl ifanc sy’n rhan o ddigwyddiad o rannu delweddau noeth a hanner noeth, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi eich dysgwyr.

Os bydd plentyn neu berson ifanc yn datgelu digwyddiad i chi, ceisiwch ei sicrhau y bydd yr Unigolyn Diogelu Dynodedig yn ei helpu a’i gefnogi. Dylech fabwysiadu agwedd anfeirniadol a pheidio â rhagdybio dim ynghylch beth sydd wedi digwydd neu bwy sydd â rhan yn y mater. 

Gan ddibynnu ar natur y digwyddiad, efallai y bydd y plentyn neu'r person ifanc yn troi atoch chi eto am fwy o gymorth â'r mater. Maen nhw wedi datgelu'r mater i chi oherwydd eu bod yn ymddiried ynoch chi. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth yr Unigolyn Diogelu Dynodedig os ydy'r plentyn neu'r person ifanc yn dymuno siarad ymhellach â chi am y digwyddiad. Wedyn, gall yr Unigolyn Diogelu Dynodedig eich cynghori ynghylch a yw hynny’n briodol ai peidio, a'r ffordd orau i hwyluso’r gefnogaeth honno. Er enghraifft, efallai y bydd y plentyn neu'r person ifanc yn awyddus i chi fod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd mae’n eu cael â'r Unigolyn Diogelu Dynodedig neu ag asiantaethau diogelu eraill, i fod yn gefn iddo.

Mae unrhyw ymwybyddiaeth sydd gennych chi o ddigwyddiad yn gallu bod yn bwysig, hyd yn oed ar ôl datrys y mater. Mae’n bosib y bydd y digwyddiad wedi effeithio ar y plentyn neu'r bobl ifanc oedd yn rhan ohono mewn sawl ffordd sydd wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, eu lles, eu perthynas â phobl eraill a’u henw da. Fel aelod o staff maen nhw’n ymddiried ynddo, bydd gennych ran bwysig i'w chwarae o ran eu helpu i gael eu hyder yn ôl, ailsefydlu eu perthynas â phobl eraill ac o safbwynt symud ymlaen ar ôl y digwyddiad.


Mae addysg yn gallu bod yn ddull ataliol pwysig. Mae’n rhoi cyfleoedd gwerthfawr i blant a phobl ifanc ddysgu a gofyn cwestiynau am y risgiau sydd ynghlwm â chreu a rhannu delweddau noeth a hanner noeth.

Wrth helpu eich dysgwyr i ddeall gweithdrefnau diogelu’r ysgol, gallwch gynyddu eu hyder o ran datgelu pryderon neu ddigwyddiadau. Drwy wneud yn siwr eu bod yn gwybod â phwy maen nhw’n gallu siarad ac y bydd unrhyw beth maen nhw’n ei ddatgelu yn cael ei drin â pharch ac yn gyfrinachol, byddwch yn chwalu unrhyw rwystrau i ofyn am help. Dangosodd adroddiad ymchwil Project deSHAME (Saesneg yn unig) mai'r rheswm pennaf pam nad oedd y plant a’r bobl ifanc oedd yn rhan o'r arolwg yn dweud wrth athro neu athrawes am aflonyddu rhywiol ar-lein oedd eu bod yn “poeni y byddai eu hysgol yn gorymateb”. Gallwch ddefnyddio'r adnoddau canlynol i helpu i addysgu plant a phobl ifanc am faterion yn ymwneud â rhannu delweddau noeth a hanner noeth.

Dysgwyr oed cynradd

Dysgwyr oed uwchradd


Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar dudalennau sefydliadau a phartneriaid dibynadwy neu wasanaethau cymorth os oes angen rhagor o ganllawiau, adnoddau a/neu gymorth arbenigol arnoch:

Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth cyfeirio ar gyfer sefydliadau fel Barnardo's, Childline, NSPCC, SchoolBeat Cymru, CEOP-Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (Gweler yn benodol y rhaglen addysg Thinkuknow), Stop it Now! Cymru ac eraill sydd ag arbenigedd yn y maes.

I gael rhagor o wybodaeth am gadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein, mae amrywiaeth eang o adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gael yn adran Cadw’n Ddiogel Ar-lein Hwb.