English

Mae nifer yr achosion o heriau a storïau celwydd ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol wedi parhau i gynyddu, ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn blatfform perffaith i ledaenu heriau a  storïau celwydd yn gyflym.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae rhai heriau feirol a storïau celwydd ar-lein wedi achosi pryder eang am y potensial i achosi niwed difrifol.

Mae deall ac ymateb yn ofalus i'r tueddiadau hyn yn hanfodol er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein.

Nod y cyngor hwn yw cynorthwyo ysgolion i gynllunio eu dull gweithredu a'u hymateb i achosion lle mae heriau niweidiol neu storïau celwydd ar-lein yn mynd yn feirol. Mae'n berthnasol i'r holl staff mewn ysgol ac yn berthnasol iawn i bersonau diogelu dynodedig a'r uwch-dîm arwain.

Yn gyffredinol, mae her ar-lein yn golygu bod defnyddwyr yn recordio eu hunain yn ymateb i her, ac yna'n rhannu'r fideo ar y cyfryngau cymdeithasol gan annog neu herio eraill i roi cynnig ar yr her. Mae sawl enghraifft o heriau ar-lein. Gall rhai gael effaith gadarnhaol drwy hybu ymwybyddiaeth o fater neu godi arian at elusen neu waith ymchwil, fel Her Bwced Iâ'r ALS a helpodd i godi $115 miliwn yn 2014. Fodd bynnag, gall heriau eraill gael effeithiau negyddol neu hyd yn oed niweidiol, ac mae'r cynnwys yn gallu peri gofid neu ddychryn, gan arwain at anaf corfforol i'r rhai sy'n cymryd rhan weithiau.

Celwydd bwriadol a gynlluniwyd i ymddangos fel y gwir yw stori gelwydd, ac mae'n gallu bod yn stori ddychryn, yn ffotograff, yn erthygl newyddion, yn fideo neu'n meme ar-lein. Mae adroddiad ‘Digital Ghost Stories (Saesneg yn unig) yn archwilio enghreifftiau diweddar o straeon dychryn ar-lein sydd wedi mynd yn feirol, ac yn archwilio sut mae sefydliadau yn gallu cynyddu peryglon ac effaith yr achosion hyn yn anfwriadol. Mae'r adroddiad yn esbonio bod cyhoeddi rhybuddion a rhannu gwybodaeth am stori gelwydd yn gallu codi ymwybyddiaeth a chwilfrydedd yn anfwriadol, sydd yn ei dro yn golygu bod mwy o bobl yn gweld yr union gynnwys sy'n peri pryder.

Waeth a yw'r cynnwys feirol yn her wirioneddol neu'n seiliedig ar sïon, mae'n bwysig bod ysgolion yn cymryd y camau cywir a bod ganddyn nhw’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i allu cefnogi dysgwyr.

Os yw eich ysgol yn derbyn rhybuddion am unrhyw gynnwys ar-lein sy'n ymwneud â heriau niweidiol neu storïau celwydd ar-lein posibl, mae'n hanfodol bod unrhyw gamau a gymerwch yn osgoi tynnu sylw at gynnwys niweidiol.

Dylid hysbysu'r pennaeth a'r berson diogelu dynodedig yn eich ysgol er mwyn arwain ymateb yr ysgol. Mae adran 'Rhagor o gymorth' ar gael ar ddiwedd y dudalen hon.

Wrth ymateb i heriau neu storïau celwydd, mae angen ystyried y canlynol.

Cyfyngu ar y lledaeniad

Pan ddaw heriau neu storïau celwydd ar-lein i’ch sylw mae'n bosibl mai eich greddf gyntaf fydd awydd i gyhoeddi rhybudd am her neu stori gelwydd ar-lein niweidiol newydd. Fodd bynnag, gallai rhannu neges o'r fath gynyddu chwilfrydedd yn anfwriadol gan arwain at fwy o ddysgwyr (a'u rhieni a'u gofalwyr) yn chwilio am y cynnwys niweidiol.

Atal panig

Mae natur heriau neu storïau celwydd ar-lein yn golygu y gallant fynd yn feirol yn gyflym ac achosi cynnwrf mawr yn y wasg a’r cyfryngau. Felly, mae'n bwysig atal panig a sicrhau bod gennych chi’r holl ffeithiau cyn cymryd unrhyw gamau fel y gallwch gefnogi’ch dysgwyr yn effeithiol. Mae'r Professionals Online Safety Helpline (Saesneg yn unig) yn darparu cymorth am ddim ar faterion diogelwch ar-lein i athrawon a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda dysgwyr.

Osgoi enwi heriau peryglus neu rai sy'n achosi pryder

Gallai enwi her neu stori gelwydd ar-lein niweidiol i ddysgwyr, rhieni a gofalwyr olygu bod perygl i’r cynnwys niweidiol ledaenu ymhellach. Gallai canolbwyntio ar fanylion un her neu stori gelwydd benodol arwain at fethu cyfle i ddarparu cyngor ac arweiniad i ddysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol ar sut i ddelio ag unrhyw her neu stori gelwydd ar-lein niweidiol a'u grymuso ym mhob agwedd ar eu bywydau ar-lein. Yn hytrach, dylech ddarparu cyngor ac arweiniad y gellir eu defnyddio os oes unrhyw beth yn digwydd ar-lein a allai boeni, cynhyrfu neu dramgwyddo dysgwyr.

Rhoi cyfleoedd i ddysgwyr siarad

Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cael cyfle i siarad â rhywun y maen nhw’n ymddiried ynddo yn yr ysgol neu yn rhywle arall am unrhyw beth sy'n peri pryder iddyn nhw, gan gynnwys materion ar-lein. Gall heriau ar-lein a chynnwys sy'n peri pryder godi'r angen i siarad am faterion eraill sy'n achosi pryder fel hunan-niweidio a hunanladdiad, felly mae'n bwysig bod dysgwyr yn gallu cael gafael ar y cymorth priodol sydd ei angen.

Osgoi dangos unrhyw gynnwys sy’n peri gofid neu’n dychryn

Hyd yn oed pan fydd rhywbeth yn mynd yn feirol ar-lein, nid yw'n golygu y bydd pob dysgwr wedi ei weld neu glywed amdano. Gallwch addysgu dysgwyr am beryglon heriau a storïau celwydd ar-lein heb ddangos unrhyw enghreifftiau iddyn nhw na rhoi manylion penodol. Yn hytrach, dylech ganolbwynt ar y cyngor a'r strategaethau allweddol sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddelio ag unrhyw risg ar-lein.

Siarad â ddysgwyr am adrodd a rhwystro

Mae'r cyfryngau cymdeithasol, gemau a phlatfformau fideo yn cynnig offer adrodd a rhwystro y gallwch annog dysgwyr i'w defnyddio. Wrth greu adroddiad, dylen nhw roi cymaint o gyd-destun â phosibl wrth riportio’n uniongyrchol y post, y neges neu'r cyfrif sy'n peri pryder. Mae rhagor o wybodaeth am sut i riportio ar gael ar wefan Childnet (Saesneg yn unig) ac ar wefan Report Harmful Content (Saesneg yn unig).

Trafod pwysau gan gyfoedion

Un o’r prif broblemau a godwyd mewn perthynas â heriau ar-lein yw pwysau gan gyfoedion trwy blatfformau digidol. Weithiau, mae dysgwyr yn cael eu denu at yr heriau hyn oherwydd mai dyna mae eu ffrindiau i gyd yn ei wneud, neu felly mae hi’n ymddangos, ac efallai ei bod hi'n anodd iawn dweud 'na'. 

Nod y canllawiau Cam-drin rhywiol, camfanteisio ac ymddygiad rhywiol niweidiol gan gyfoedion yw helpu lleoliadau addysg i atal a mynd i'r afael ag achosion o bwysau gan gyfoedion lle mae aflonyddu neu gam-drin rhywiol yn ffactor.

Hefyd, mae adnoddau ar gael i'ch helpu i hyrwyddo ymddygiad moesegol ar-lein ymysg dysgwyr a darparu strategaethau ar gyfer rheoli eu hamgylchedd ar-lein er mwyn lleihau'r risg o weld cynnwys annymunol.

Tynnu sylw at ffynonellau cymorth

Dylech sicrhau bod dysgwyr, rhieni a gofalwyr i gyd yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth. Gallai'r broses hon gynnwys eu cyfeirio at yr aelodau priodol o staff yn yr ysgol ac at linellau cymorth allweddol. I weld rhestr o wasanaethau cymorth a riportio gan gynnwys llinellau cymorth i ddysgwyr a'u rhieni a'u gofalwyr, ewch i'n hadran gwasanaethau cymorth ar Hwb.

Ymgysylltu'n briodol â rhieni a gofalwyr

Dylech ymgysylltu â rhieni a gofalwyr am beryglon diogelwch ar-lein a mynd ar drywydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ddysgwyr, gan osgoi rhannu cynnwys sy'n peri gofid neu enwi heriau sy'n peri pryder neu sy’n beryglus.   

Dylech ystyried cael trafodaethau gyda dysgwyr am y themâu sy'n gysylltiedig â'r cynnwys hwn, megis pwysau gan gyfoedion, lles meddwl, a bod yn ddiogel ar-lein.

Bod yn barod

Er bod angen ymdrin â phob her neu stori gelwydd feirol fesul achos, gallwch baratoi i sicrhau bod eich ysgol yn gallu cymryd camau gweithredu pwyllog a gofalus er mwyn ymateb yn effeithiol i unrhyw heriau neu storïau celwydd feirol yn y dyfodol. 

Datblygu dull ysgol gyfan

Argymhellir eich bod yn ystyried ac yn cynnwys sut i ymateb i heriau, storïau celwydd a chynnwys niweidiol arall ar-lein yn eich polisi diogelu yn unol â’r canllawiau statudol ar ddiogelu dysgwyr mewn addysg ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’. Dylai’r holl staff fod yn ymwybodol o’r polisi hwn a sut y bydd yr ysgol yn ymateb a deall hynny’n llawn.

Dylech hefyd ystyried cynnwys hyn mewn polisïau perthnasol eraill megis y polisi ymddygiad, diogelwch ar-lein ac mewn gwybodaeth ar wefan yr ysgol.

Mae dogfen ganllaw ‘Safonau a argymhellir ar gyfer hidlo'r we yn ysgolion’ yn darparu cyngor i ysgolion ac awdurdodau lleol ar ddulliau a argymhellir o hidlo'r we mewn lleoliadau addysgol. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall cyfyngiadau hidlo wrth ymdrin â heriau niweidiol ar-lein a storïau celwydd ar-lein.

Gall y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles helpu dysgwyr i ddeall rôl bwysig dylanwadau cymdeithasol ar eu bywydau. Mae’r dylanwadau hyn yn cynnwys rheolau, normau cymdeithasol, agweddau a gwerthoedd sy’n cael eu creu a’u hatgyfnerthu gan wahanol grwpiau cymdeithasol. Rydym yn profi’r dylanwadau hyn drwy ryngweithio â grwpiau cymdeithasol.

Bydd angen i ddysgwyr ymgysylltu’n feirniadol â’r dylanwadau cymdeithasol hyn o fewn eu diwylliant eu hunain, yn ogystal â dylanwadau diwylliannau eraill, er mwyn deall sut mae normau a gwerthoedd yn datblygu. Gall hyn eu galluogi i ddeall sut mae eu hymddygiad, perthnasoedd a phrofiadau eu hunain yn cael eu llunio.

Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn gwneud cyfraniad pwysig o ran diogelu ac amddiffyn holl ddysgwyr Cymru. Bydd gan ysgolion y potensial i greu amgylcheddau diogel a grymusol sy’n adeiladu ar ddysgu a phrofiadau ffurfiol ac anffurfiol dysgwyr, all-lein ac ar-lein. Dylai addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn rhan o ddull ysgol gyfan a chael ei gyfuno a’i gydgysylltu’n effeithiol ar draws y cwricwlwm.

Bydd addysgu dysgwyr am heriau, storïau celwydd a chynnwys niweidiol ar-lein yn cefnogi gallu dysgwyr i ymateb pe bai achos yn codi ac i lywio drwy’r byd ar-lein mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

Cyhoeddwyd y canllawiau a chod statudol drafft addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gyfer ymgynghori ym mis Mai 2021, a bydd canllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi yn Rhagfyr 2021.

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar gael i gefnogi ysgolion i ymgorffori cymhwysedd digidol ar draws pob maes dysgu a phrofiad. Mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu set o sgiliau, gwybodaeth ac agweddau i fod yn hyderus, yn greadigol ac yn feirniadol wrth ddefnyddio technolegau a systemau, yn cynnwys cadw eu hunain yn ddiogel ar-lein.

Mewn sefyllfaoedd lle mae heriau neu gynnwys ar-lein niweidiol yn targedu staff ysgol, mae’n bwysig sicrhau bod gan yr ysgol weithdrefnau priodol ar waith i ymateb a bod staff yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Gall y digwyddiadau hyn ymwneud â chynnwys sydd â’r bwriad o aflonyddu ar staff neu eu bwlio, neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol ffug wedi’u creu gan ddysgwyr. Efallai fod y cynnwys wedi’i fwriadu fel jôc ond i staff gall gael effaith ddifrifol ar eu lles a’u henw da proffesiynol.

Dylid rheoli unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn unol â pholisi ymddygiad yr ysgol.

Fel ymarferydd, os byddwch yn profi aflonyddu neu fwlio ar-lein, dylech ystyried y canlynol:

Peidiwch ag ymateb yn uniongyrchol

Bydd hyn yn osgoi pryfocio’r sawl sy’n gyfrifol i gyhoeddi rhagor o gynnwys niweidiol.

Ewch ati i gasglu tystiolaeth a rhoi gwybod am y digwyddiad

Tynnwch sgrinluniau o’r cynnwys gyda manylion fel enwau defnyddwyr a rhowch wybod am unrhyw gynnwys niweidiol i’r platfform digidol. 

Ceisiwch gyngor

Siaradwch ag uwch arweinydd yn eich ysgol i ofyn am gymorth a phenderfynwch ar y camau nesaf yn unol â pholisïau’ch ysgol.

Gall y Professionals Online Safety Helpline (Saesneg yn unig) helpu gyda materion yn ymwneud â’ch enw da yn ogystal ag amryw o faterion eraill yn ymwneud â diogelwch ar-lein. Mae ganddyn nhw ddull cysylltu carlam gyda darparwyr cyfryngau cymdeithasol a gallant gyfryngu ar eich rhan os oes angen. Ffoniwch 0344 381 4772 neu e-bostiwch helpline@saferinternet.org.uk.

Efallai yr hoffech hefyd gysylltu â'ch Undeb Llafur perthnasol am gyngor a chefnogaeth.

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw gynnwys niweidiol, gallwch ei riportio drwy fynd i wefan Report Harmful Content (Saesneg yn unig).

Heriau a storïau celwydd

Cefnogi dysgwyr

Gwybodaeth i'w rhannu gyda dysgwyr

Cefnogi ymarferwyr