Problemau a phryderon ar-lein: AI cynhyrchiol
Gwybodaeth i bobl ifanc ddeall beth yw AI a rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt.
4. Sgwrsfotiaid yn y byd ar-lein
Mae amgylchedd rhithwir yn rhywle lle gall pobl ryngweithio a rhannu gyda phobl eraill o bob rhan o'r byd. Mae sgwrsfot, neu gyfaill rhithwir, yn offeryn AI a all wneud yr un pethau yn yr amgylcheddau rhithwir hynny hefyd.
Gallwch ofyn cwestiynau i sgwrsfot ac anfon negeseuon ato fel petai’n berson go iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud hyn ar-lein trwy eu ffonau, tabledi neu gyfrifiaduron, ond gallwch hefyd ddod ar draws cyfeillion rhithwir mewn seinyddion clyfar, clustffonau realiti rhithwir a dyfeisiau digidol eraill. Fodd bynnag, fyddan nhw ddim bob amser yn edrych yr un fath.
Er enghraifft, bydd sgwrsfotiaid mewn siop ar-lein yn gofyn i chi deipio cwestiynau er mwyn iddyn nhw ryngweithio â chi. Ond gyda seinyddion clyfar, gallwch ofyn cwestiynau i’r cynorthwyydd rhithwir heb fod angen ysgrifennu unrhyw beth.
Sut mae amgylcheddau rhithwir yn defnyddio sgwrsfotiaid
Bydd pob amgylchedd rhithwir sy'n defnyddio sgwrsfot yn gwneud hynny mewn gwahanol ffyrdd. Dyma rai o’r ffyrdd hynny.
Cynorthwywyr gwe
Os ydych chi'n defnyddio gwefan ac angen help, bydd gan rai gwefannau sgwrsfot i ateb cwestiynau syml. Efallai y bydd rhai siopau neu fanciau ar-lein yn defnyddio cynorthwywyr gwe fel hyn.
Ffrindiau rhithwir
Mae rhai platfformau gemau fideo a chyfryngau cymdeithasol yn ychwanegu sgwrsfotiaid AI at eu gwasanaeth i helpu pobl i deimlo eu bod yn siarad â ffrind.
Gwasanaethau cymorth
Mewn rhai achosion, gall cyfeillion rhithwir gynnig cymorth i ddefnyddwyr gyda'u hiechyd meddwl trwy sgwrsio â nhw, eu rhoi mewn cysylltiad â llefydd i gael cymorth neu gynnig cyngor ac adnoddau i'w cefnogi.
Peiriannau chwilio
Gall offer AI cynhyrchiol fel Google Gemini gynnig atebion i gwestiynau fel y byddai peiriant chwilio yn ei wneud. Gall yr offer hwn chwilio'r rhyngrwyd yn gyflym am yr ateb a hyd yn oed cynnig ffynonellau fel y gallwch ddysgu mwy am yr hyn rydych chi wedi chwilio amdano.
Wrth i amser fynd rhagddo ac i sgwrsfotiaid ddod yn well fyth, efallai y byddwn yn eu gweld mewn llawer mwy o amgylcheddau rhithwir.
Beth yw manteision a risgiau sgwrsfotiaid?
Fel gydag unrhyw beth sydd ar-lein, mae manteision a risgiau i ddefnyddio sgwrsfotiaid AI. Felly, mae'n bwysig defnyddio offer sy'n addas ar gyfer eich oedran yn unig ac y mae eich rhiant, gofalwr, athro neu athrawes wedi rhoi caniatâd i chi ei ddefnyddio.
Manteision
Cwmnïaeth
Efallai na fydd gan rai pobl lawer o ffrindiau i siarad â nhw. Gall hyn wneud iddyn nhw deimlo'n unig ac yn drist iawn. Ond gall sgwrsfotiaid helpu, oherwydd maen nhw'n gwneud i chi deimlo fel eich bod chi'n siarad â pherson go iawn, a all helpu rhai pobl i deimlo'n llai unig.
Sgiliau cyfathrebu
Os yw rhywun yn cael trafferth siarad ag eraill oherwydd eu bod yn teimlo'n swil neu'n bryderus, neu oherwydd bod ganddyn nhw anabledd, gall sgwrsfotiaid eu helpu i ymarfer a magu hyder.
Dysgu
Gall rhai sgwrsfotiaid eich helpu i ddysgu pethau newydd trwy ateb eich cwestiynau ac esbonio sut i wneud pethau. Er enghraifft, gallai sgwrsfot ddweud wrthych ble rydych chi wedi defnyddio atalnodi anghywir, neu ble rydych chi wedi mynd o'i le ar broblem mathemateg. Gallai hefyd roi awgrymiadau i chi am bethau newydd i'w dysgu yn seiliedig ar eich diddordebau.
Hwyl
Gallwch ddefnyddio sgwrsfotiaid i chwarae gemau, dweud jôcs neu ysgrifennu straeon gwirion. Gallwch hyd yn oed wneud pethau fel cyfweld â'ch hoff gymeriad llyfr neu ffilm, neu greu byd ffuglennol i ddychmygu ynddo.
Risgiau
Camwybodaeth
Cofiwch y bydd AI weithiau'n cael pethau'n anghywir. Felly, os ydych chi'n gofyn cwestiynau i sgwrsfot neu am help gyda rhywbeth, bydd angen i chi wirio ei ateb yn rhywle arall. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio peiriant chwilio gwahanol neu ofyn i oedolyn gerllaw y gallwch ymddiried ynddo.
Colli allan ar sgiliau
Er y gall sgwrsfotiaid AI eich helpu i feithrin rhai sgiliau, gall eich rhwystro rhag cael sgiliau eraill. Er enghraifft, pe bai rhywun yn gofyn i sgwrsfotiaid am atebion yn lle help ar sut i wneud rhywbeth, fydden nhw byth yn dysgu gwneud y dasg heb y sgwrsfot. Mae angen i ni ddefnyddio ein sgiliau meddwl beirniadol i helpu i ddatblygu ein hymennydd, felly ddylen ni ddim treulio gormod o amser yn dibynnu ar sgwrsfotiaid.
Gor-rannu gwybodaeth breifat
Cofiwch fod offer AI fel sgwrsfotiaid yn dysgu o’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi iddyn nhw. Felly, os byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol iddo fel eich ysgol, enw neu unrhyw beth arall na fyddech chi’n ei roi i ddieithryn, bydd yn cofio, ac o bosibl yn defnyddio'r wybodaeth honno i ddysgu. Nid ydych chi am ei rannu’n ddamweiniol â rhywun arall sy'n defnyddio'r sgwrsfot!
Sut i ddefnyddio sgwrsfot mewn ffordd gyfrifol
Gallwch wneud yn siŵr eich bod chi'n ddiogel wrth ddefnyddio cyfeillion rhithwir trwy gofio'r pethau canlynol.
Gosodwch reolau
Gyda rhiant neu ofalwr, penderfynwch pa sgwrsfotiaid y gallwch eu defnyddio, sut y gallwch eu defnyddio a phryd y gallwch eu defnyddio. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i ddod yn ddefnyddiwr sgwrsfot cyfrifol.
Siaradwch ag oedolion
Os nad ydych chi'n siŵr am rywbeth mae sgwrsfot yn ei ddweud, siaradwch ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw fel rhiant, gofalwr, athro, athrawes neu oedolyn arall gartref. Cofiwch ei bod bob amser yn well gofyn cwestiynau i gadw’ch hun ac eraill yn ddiogel.
Cadwch wybodaeth bersonol yn breifat
Gyda'ch rhiant neu ofalwr, penderfynwch pa wybodaeth ddylai aros yn breifat bob amser. Dylai hyn gynnwys manylion fel eich cyfeiriad, rhif ffôn, ysgol a hyd yn oed enwau eich ffrindiau neu aelodau o'ch teulu. Byddai hyn hefyd yn cynnwys lluniau ohonoch chi neu eraill! Yna, cofiwch beidio byth â rhannu'r wybodaeth honno gyda sgwrsfot.
Meddyliwch yn feirniadol bob amser
Dim ots sut rydych chi'n defnyddio sgwrsfot, cofiwch feddwl yn feirniadol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth rydych chi’n ei derbyn, ond hefyd y math o sgwrsfot rydych chi'n ei ddefnyddio. Nid yw’r ffaith bod un ar eich hoff lwyfan yn golygu y dylech chi ei ddefnyddio! Siaradwch ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo ac ymchwilio cyn defnyddio rhywbeth newydd.
Sut i feddwl yn feirniadol
Gall meddwl yn feirniadol am yr wybodaeth y mae sgwrsfot yn ei rhannu eich helpu i ddysgu’r gwahaniaeth rhwng y gwir a’r gau, neu beth sy’n wir a beth sydd ddim yn wir, a bydd yn eich helpu i sicrhau nad ydych chi'n rhannu gwybodaeth anghywir ag eraill.
Beth i'w wneud wrth feddwl yn feirniadol am wybodaeth
Gwiriwch y ffynhonnell
Pwy greodd yr wybodaeth? A yw'n dod o ffynhonnell ddibynadwy? Os nad yw'r sgwrsfot yn rhoi'r ffynhonnell, bydd angen i chi ganolbwyntio mwy ar y camau nesaf.
Chwiliwch am dystiolaeth
Defnyddiwch beiriant chwilio neu adnoddau yn llyfrgell eich ysgol i ddod o hyd i brawf bod yr wybodaeth yn wir. Gallai hyn fod yn erthyglau newyddion, gwyddoniaduron neu wefannau dysgu.
Ystyriwch y diben
Os byddwch yn dod o hyd i dystiolaeth bod yr wybodaeth yn gywir, gwiriwch y ffynhonnell. Os yw’n dod o rywle sy’n anghyfarwydd neu nad ydych chi’n siŵr amdano, meddyliwch am y rheswm y tu ôl i'r wybodaeth. A yw'n rhoi un safbwynt yn unig neu a yw'n dangos y ddwy ochr? Os yw’n rhoi un safbwynt yn unig, efallai na fydd yn ddibynadwy.
Cymharwch ffynonellau
Allwch chi ddod o hyd i'r un wybodaeth mewn mwy nag un lle dibynadwy? Gwiriwch a yw'r ffynonellau i gyd yn dweud yr un peth. Os yw'r wybodaeth yr un peth ond bod y ffordd y mae’n cael ei dweud yn wahanol, yna gallwch deimlo'n hyderus ei bod yn wir. Fodd bynnag, os yw'r holl ffynonellau'n ymddangos fel bod yr wybodaeth wedi cael ei chopïo a'i gludo, efallai y bydd angen i chi wirio ychydig mwy.
Cofiwch y gall sgwrsfotiaid AI fod yn hwyl ac yn ddefnyddiol, ond mae'n bwysig eu defnyddio'n gyfrifol a meddwl yn feirniadol am yr wybodaeth rydych chi’n dod o hyd iddi ar-lein. Os ydych chi angen ail bâr o lygaid, gofynnwch i oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo ef neu hi am help.