Problemau a phryderon ar-lein: AI cynhyrchiol
Gwybodaeth i bobl ifanc ddeall beth yw AI a rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt.
3. AI ac algorithmau
Mae algorithm yn rhywbeth y mae llwyfannau ar-lein yn ei ddefnyddio i awgrymu cynnwys newydd. Mae'n defnyddio AI i ddysgu o'ch gweithgaredd i wneud hyn.
Sut mae algorithmau'n dysgu
Ydych chi erioed wedi gwylio fideos o gemau o’r dechrau i’r diwedd ar YouTube? Ar ôl i chi orffen gwylio'r fideos hynny, efallai y byddwch chi'n gweld argymhellion ar gyfer fideos gemau ar-lein eraill, neu gynnwys arall gan yr un crëwr. Mae hyn oherwydd bod yr algorithm wedi dysgu eich bod chi'n hoffi'r math hwnnw o gynnwys.
Mae algorithmau'n casglu gwybodaeth i awgrymu cynnwys newydd mewn gwahanol ffyrdd.
Cynnwys rydych chi (ac eraill) yn ei weld neu'n ei ddilyn
Un o'r pethau mwyaf y mae algorithmau'n dysgu ohono yw'r cynnwys rydych chi'n ei wylio. Felly, os ydych chi'n gwylio fideos am grefftau, mae'n debyg y byddwch chi'n gweld awgrymiadau am fideos crefftio eraill.
Os ydych chi'n gwylio cynnwys gan yr un crëwr yn aml, bydd yr algorithm yn dangos crewyr tebyg i chi. Ond mae'n gwneud hyn trwy gymharu eich gweithgaredd â gweithgaredd pobl eraill. Felly, efallai y byddwch yn cael awgrymiadau rhyfedd weithiau.
Er enghraifft, os yw rhywun yn gwylio'r un crëwr crefftio mor aml â chi, ond maen nhw hefyd yn gwylio llawer o gynnwys gan gefnogwr beiciau modur, efallai y byddwch chi’n gweld awgrym ar gyfer cynnwys beiciau modur. Mae hynny oherwydd bod yr algorithm yn dysgu gan bawb, nid dim ond chi.
Mewn rhai achosion, gall hyn arwain at awgrymu cynnwys rhyfedd neu amhriodol i chi. Y peth gorau y gallwch chi ei wneud os yw hyn yn digwydd yw rhoi gwybod am unrhyw gynnwys sy'n torri'r rheolau a dweud wrth yr algorithm nad ydych chi am weld y cynnwys hwnnw.
I wneud hyn ar YouTube pan fyddwch chi'n gwylio fideo yn yr adran Shorts:
- tapiwch y 3 dot yn y gornel dde uchaf
- dewiswch ‘Not interested' a 'Don’t recommend this channel'
Ar gyfer fideo arferol, fe welwch argymhellion ar eich hafan neu o dan fideo rydych chi'n ei wylio. Gallwch farcio'r fideos hynny yn yr un modd drwy dapio'r 3 dot wrth ymyl y teitl.
Mae gan lwyfannau eraill nodweddion tebyg y gallwch eu defnyddio i ddweud wrth yr algorithm nad ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwnnw.
Ond cofiwch eich bod chi'n dysgu'r algorithm pan fyddwch chi'n gwneud hyn. Fel dysgu rhywbeth newydd yn yr ysgol, bydd angen i chi ymarfer ychydig o weithiau cyn i chi gael yr wybodaeth. Felly, efallai y byddwch chi'n dal i weld cynnwys nad ydych chi eisiau ei weld ac efallai y bydd angen i chi atgoffa'r algorithm nad oes gennych chi ddiddordeb.
Mae llwyfannau fel YouTube hefyd yn gadael i chi ddiffodd argymhellion fel nad yw'r algorithm yn dysgu gennych chi o gwbl. Gallwch weld sut i wneud hyn ar YouTube drwy glicio ar sut i ddiffodd a dileu eich hanes gwylio (Saesneg yn unig).
Cynnwys rydych chi'n rhyngweithio ag ef
Mae rhyngweithio â chynnwys yn cynnwys hoffi, rhannu, rhoi sylwadau a gwylio lluniau neu fideos. Ni all yr algorithm ddeall a ydych chi'n hoffi neu ddim yn hoffi cynnwys, felly mae'n meddwl os ydych chi'n rhyngweithio gyda’r cynnwys, fod hynny'n golygu eich bod chi'n ei hoffi.
Gall hyn achosi problemau os ydych chi'n clicio’n ddamweiniol ar fideo nad ydych chi am ei weld neu’n rhoi sylwadau ar rywbeth sydd wedi’ch gwneud chi'n ddig. Os gwnaethoch chi glicio neu wneud sylwadau ar fideo, mae'r algorithm yn meddwl bod yn rhaid eich bod chi’n ei hoffi.
Felly, os ydych chi'n gweld fideo sy'n lledaenu camwybodaeth ac rydych chi’n ceisio rhoi gwybod i bobl yn y blwch sylwadau bod yr wybodaeth yn anghywir, efallai y byddwch chi'n dechrau gweld mwy o'r un camwybodaeth.
Dyna pam ei fod yn well osgoi gwneud sylwadau neu ymateb. Yn hytrach, defnyddiwch yr offeryn 'not interested' sydd ar gael ar blatfformau. Ac, os yw cynnwys rhywun yn lledaenu gwybodaeth anghywir, rhowch wybod i'r platfform fel y gall ei adolygu a'i ddileu.
Cofiwch nad yw AI yn glyfar mewn gwirionedd, ac nad yw ond yn gallu dysgu o'r hyn y mae bodau dynol yn ei ddweud wrtho. Oherwydd bod algorithm yn defnyddio AI, nid yw’n gwybod dim mwy na beth rydych chi’n ei ddweud wrtho. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud wrtho pan nad ydych chi'n hoffi cynnwys trwy farcio fideos fel 'not interested', dad-ddilyn crewyr sy'n lledaenu negyddiaeth, adrodd am gynnwys a allai achosi niwed a blocio defnyddwyr neu grewyr nad ydych eisiau eu gweld.
Mae hefyd yn bwysig gwylio llawer o wahanol fathau o gynnwys. Bydd hyn yn helpu'r algorithm i awgrymu ystod eang o safbwyntiau a gallai hyd yn oed eich helpu i ddysgu rhywbeth newydd. Mae hyn hefyd yn eich helpu i osgoi rhywbeth o'r enw siambrau adlais.
Beth yw siambr adlais?
Dychmygwch eich bod yn cerdded i lawr coridor hir, gwag. Mor uchel ag y gallwch, rydych chi'n gweiddi, "Rwy'n casáu brocoli!” Mae eich llais yn bownsio oddi ar waliau'r coridor a gallwch glywed 2 neu 3 adlais o "Rwy'n casáu brocoli" yr holl ffordd i lawr y coridor. Ond, rydych chi’n meddwl mai pobl eraill sy'n cytuno â chi.
Mae rhywun mewn ystafell gyfagos yn clywed gwahanol bobl (chi a'ch adleisiau) yn dweud "Rwy'n casáu brocoli" o'r coridor. Maen nhw’n cytuno, felly mae’n mynd i mewn i'r coridor a hefyd yn gweiddi, "Rwy'n casáu brocoli!” Mae eu llais nhw’n adleisio 2 neu 3 gwaith hefyd
Mae hyn yn digwydd ychydig mwy o weithiau nes y cyfan y gallwch chi ei glywed yn y coridor yw cannoedd o bobl yn gweiddi am faint maen nhw'n casáu'r llysieuyn arbennig hwn. Felly, pan fydd rhywun newydd yn cerdded heibio, y cyfan y gallan nhw ei glywed yw casineb at frocoli. Efallai y gwnawn nhw feddwl "waw, mae’n rhaid bod rhywbeth mawr o'i le ar frocoli os yw cymaint o bobl yn ei gasáu!"
Mewn gwirionedd, efallai mai dim ond llond llaw o bobl sy'n gweiddi am eu diflastod, ond mae'n ymddangos fel llawer mwy, ac mae hynny'n gwneud iddi deimlo bod llawer o bobl yn rhannu'r un gred. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i eraill ymuno a chytuno.
Mewn ffordd, dyma sut mae siambrau adlais yn gweithio ar-lein, ac yn aml gallan nhw fod yn llawer mwy niweidiol na chasáu llysieuyn.
Sut mae siambrau adlais yn cael eu creu
Gall siambrau adlais ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- gwylio'r un math o gynnwys bob amser
- gwylio cynnwys gan grëwr sy'n dweud pethau nad ydych chi'n cytuno â nhw
- dilyn crewyr sy'n rhannu safbwyntiau niweidiol
- anwybyddu cynnwys niweidiol yn lle dweud amdano
- rhyngweithio â chynnwys niweidiol, megis trwy roi sylwadau yn lle adrodd amdano neu ei rwystro
Gallai algorithmau hefyd awgrymu cynnwys i ddemograffeg benodol yn seiliedig ar arferion eraill yn y demograffig.
Er enghraifft, os yw bachgen yn ei arddegau o'r enw Ben ond yn gwylio fideos o gasgliadau o glipiau teledu neu ffilm ar y platfform o’i ddewis, gallai ymddangos yn rhyfedd ei fod yn sydyn yn cael argymhelliad ar gyfer fideo sy'n dangos pobl yn ymladd. Wedi’r cyfan, nid yw Ben erioed wedi gwylio'r mathau hynny o fideos o'r blaen. Fodd bynnag, efallai y byddai'r algorithm yn meddwl y byddai Ben yn hoffi'r cynnwys oherwydd bod rhai dynion ifanc eraill wedi ei wylio.
Gall y math hwn o awgrym ledaenu cynnwys niweidiol a siambrau adlais i bobl eraill. Pe bai Ben yn gwylio'r fideo hwnnw ar ddamwain, neu’n ychwanegu sylw yn dweud pa mor anghywir yw’r fideo, efallai y byddai’r algorithm yn meddwl ei fod wedi gwneud awgrym da, gan ddod â mwy o'r un cynnwys i'w ffrwd.
Effaith siambrau adlais
Y broblem fwyaf gyda siambrau adlais yw, pan fyddwch chi mewn un, efallai na fyddwch chi'n gwybod hynny. Fel plentyn neu rywun yn ei arddegau, rydych chi'n dal i ddarganfod pwy rydych chi am fod a beth yw eich credoau. Os ydych chi'n syrthio i siambr adlais heb yn wybod, efallai y byddwch chi'n mynd yn ddig am y byd ac yn credu pethau sy'n niweidiol iawn i chi ac i eraill.
Cofiwch, mewn siambr adlais, mae’r credoau’n ymddangos yn fwy cyffredin ac yn fwy nag ydyn nhw mewn gwirionedd – yn union fel yr adlais yn y coridor. Felly, mae'n anodd gwybod pan fyddwch chi'n sownd mewn un.
Gall rhai arwyddion gynnwys:
- teimlo'n ddig tuag at fath o berson neu grŵp o bobl
- teimlo'n isel neu'n bryderus amdanoch chi'ch hun (fel gyda'ch ymddangosiad, eich doniau neu’ch profiadau) ond yn rhoi’r bai ar rywun arall; er enghraifft, un gred y gwyddon ni sydd mewn siambrau adlais yw bod y ffaith bod gan fenywod hawliau yn gwneud y byd yn anoddach i ddynion, ac nid yw hynny’n wir
- pawb yn dweud yr un peth yn yr adran sylwadau, neu, os yw rhywun yn dweud rhywbeth gwahanol, pobl eraill yn eu targedu gyda negeseuon creulon neu ddig
- allwch chi ddim cofio'r tro diwethaf i chi weld fideo neu neges am safbwynt gwahanol
Cofiwch y gallwch reoli eich ffrwd. Os ydych chi'n meddwl eich bod chi mewn siambr adlais, trowch yr argymhellion i ffwrdd, dilëwch eich hanes gwylio a cheisiwch ddod o hyd i gynnwys gyda gwahanol safbwyntiau.
Gallwch hefyd:
- adrodd am gynnwys sy'n atgas neu'n niweidiol i'r platfform (gall hyn helpu cymedrolwyr i gael gwared ar y cynnwys)
- os nad ydych chi'n hoffi’r cynnwys rydych chi'n ei weld, tapiwch y 3 dot ar y cynnwys i'w farcio fel 'I don’t want to see this' neu 'not interested'