Problemau a phryderon ar-lein: AI cynhyrchiol
Gwybodaeth i bobl ifanc ddeall beth yw AI a rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt.
1. Beth yw AI?
Deall AI ac AI cynhyrchiol
Mae AI yn sefyll am ‘artificial intelligence’, sef deallusrwydd artiffisial. Mae 'artiffisial' yn golygu 'ddim yn real', felly nid yw'n 'ddeallus' neu'n glyfar mewn gwirionedd, mae'n ymddangos felly oherwydd sut mae bodau dynol wedi'i adeiladu.
Mae yna lawer o wahanol fathau o AI, felly gall hyn fod ychydig yn ddryslyd. Y math mwyaf cyffredin o AI y mae pobl yn ei ddefnyddio yw AI cynhyrchiol. Mae math cyffredin arall o AI yn cael ei alw’n algorithm ac, er nad ydych chi'n defnyddio'r un yma mewn gwirionedd, mae'n pweru pethau rydyn ni'n eu defnyddio'n rheolaidd.
Gadewch i ni ddysgu ychydig mwy am hyn i gyd.
Sut mae AI yn gweithio
Mae AI yn 'dysgu' o’r wybodaeth y mae pobl yn ei rhoi iddo. Er enghraifft, os oes angen i AI wybod sut mae cathod yn edrych, bydd peiriannydd yn rhannu miloedd o ddelweddau digidol o gathod sydd ar-lein fel ei fod yn gallu dysgu.
Gall offer AI cynhyrchiol greu rhywbeth newydd o’r wybodaeth hon. Er enghraifft, pe baech yn gofyn i offeryn AI cynhyrchiol fel ChatGPT greu delwedd o gath yn yr haul, byddai'n 'meddwl' am y miloedd o luniau o gathod a rannodd y peiriannydd ag ef, yn ogystal â delweddau sy'n cynnwys yr haul, i greu delwedd newydd.
Oherwydd nad yw'n ddeallus mewn gwirionedd, weithiau nid yw'r delweddau'n edrych yn iawn. Efallai fod gan y gath un goes yn ormod. Neu efallai fod yr AI yn camddeall beth oedd ystyr 'yn yr haul' a rhoi llun o gath y tu mewn i'r haul go iawn yn y gofod!
O ran lluniau o bobl, mae'n gyffredin i offer AI cynhyrchiol wneud i ddwylo edrych yn rhyfedd iawn.
Dysgu peirianyddol
Math o AI sy'n caniatáu i gyfrifiaduron ddefnyddio data i wella eu perfformiad dros amser.
Meddyliwch amdano fel mathemateg: i ddechrau, efallai eich bod ddim ond yn gwybod bod 1 + 1 = 2. Ond ar ôl llawer o wersi mathemateg ac ymarfer, gallwch luosi rhifau mwy ac ateb problemau anoddach.
Felly, er efallai na fydd offeryn AI cynhyrchiol yn cael delwedd y gath yn iawn ar y dechrau, gall adborth gan bobl sy'n defnyddio'r offeryn ei helpu i wella.
Gall offer AI cynhyrchiol hefyd greu llawer o bethau eraill y tu hwnt i ddelweddau, er enghraifft:
- ymatebion i gwestiynau rydych chi'n eu gofyn iddo
- gwybodaeth am sut i ddatrys problem mathemateg
- cerdd neu gân am bron unrhyw beth
- gemau
- cynlluniau ar gyfer prosiectau mawr
Ar gyfer yr holl bethau hyn a mwy, mae AI cynhyrchiol yn defnyddio gwybodaeth y mae pobl wedi'i rhoi iddo. Heb yr wybodaeth honno, ni allai greu unrhyw beth.
Enghreifftiau o AI cynhyrchiol
Efallai eich bod wedi clywed am rai offer AI cynhyrchiol sy'n boblogaidd iawn ar hyn o bryd fel ChatGPT, ond mae AI cynhyrchiol wedi bod o gwmpas yn hirach na hynny.
Gallwch ddod o hyd i AI cynhyrchiol mewn sgwrsfotiaid, cynorthwywyr lleisiol fel Siri ac Alexa, ac offer cyfieithu ar-lein.
Yna, os edrychwch ar AI yn unig, fe welwch ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn llawer o bethau eraill fel argymhellion YouTube ac apiau llywio, sy'n dysgu o ddata pobl (fel eu hoff bethau a'r pethau maen nhw'n eu gwneud ar-lein neu mewn apiau).
Mae algorithmau yn fath o AI sy'n helpu platfformau i argymell cynnwys newydd. Mae'r math hwn o AI yn boblogaidd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Snapchat, platfformau rhannu fideos fel YouTube a TikTok, a hyd yn oed gwasanaethau ffrydio fel Netflix. Y nod yw cadw eich diddordeb trwy ddangos y cynnwys rydych chi'n fwyaf tebygol o'i fwynhau, ond nid yw'r algorithm bob amser yn ei gael yn iawn. Meddyliwch sut mae'r argymhellion hyn yn dylanwadu arnoch chi. Ydyn nhw'n ehangu eich gorwelion neu ddim ond yn dangos yr un mathau o gynnwys i chi?
Gallwch ddysgu am algorithmau yn yr adran AI ac algorithmau.