Wizz
Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Wizz', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
- Rhan o
Sut mae Wizz yn gweithio
Mae Wizz yn ap rhwydweithio cymdeithasol i ddefnyddwyr ddod o hyd i bobl newydd i sgwrsio gyda nhw ar-lein. Mae’r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr edrych drwy’r proffiliau a darganfod rhywun yr hoffen nhw sgwrsio â nhw.
I greu cyfrif Wizz, rhaid i ddefnyddwyr ychwanegu eu dyddiad geni a rhannu ffotograff ohonyn nhw eu hunain. Trwy weithio mewn partneriaeth â Yoti, sef ap adnabod wynebau, mae Wizz yn gwirio oedran pob defnyddiwr. I ddilysu cyfrif, mae’n rhaid i ddefnyddwyr dynnu hunlun. Os bydd y llun yn cyfateb i’r llun ar ei broffil, bydd y cyfrif yn cael ei ddilysu. Os na ellir dilysu defnyddiwr, neu os darganfyddir bod defnyddiwr yn defnyddio oedran ffug, ni all sgwrsio â phobl eraill.
Mae defnyddio ap adnabod wynebau i ddilysu cyfrifon yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ddefnyddwyr greu cyfrifon ffug. Ar ôl i gyfrif defnyddiwr gael ei ddilysu, mae defnyddwyr yn cael eu categoreiddio yn ôl oedran a gallan nhw gysylltu â phobl o fewn ystod oedran debyg yn unig, a dim ond pobl o fewn ystod oedran debyg all gysylltu â nhw.
Mae Wizz yn datgan eu bod yn cynnal gwiriadau dilysu rheolaidd a’u bod yn monitro unrhyw broffiliau sydd wedi dangos anghysondebau mewn oedran wrth gofrestru, ym mhroffil y defnyddiwr, neu yn ystod rhyngweithiadau â defnyddwyr eraill.
Oedran isaf gofynnol
Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i ddefnyddio Wizz ac ni allan nhw fod dros 34 oed. Fodd bynnag, er bod caniatâd i bobl ifanc 13 oed ddefnyddio’r ap, mae risgiau ar y platfform a allai ei gwneud hi’n amhriodol iddyn nhw ei ddefnyddio. Nodir y risgiau hyn yn yr adran Rheoli risgiau.
Nodweddion
Admirer
Mae’n gadael i chi weld pwy sydd wedi edrych ar eich proffil.
Bulk Chat
Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr anfon sgwrs at y 100 proffil ar yr un pryd.
Friends
Y cysylltiadau y mae defnyddiwr wedi eu derbyn i weld eu proffil. Gall y rhain fod yn bobl maen nhw’n eu hadnabod go iawn, yn ogystal â phobl maen nhw wedi cwrdd â nhw ar-lein yn unig.
Games
Gemau yn yr ap y gall defnyddwyr eu chwarae gyda defnyddwyr eraill.
Queue
Y llinell proffiliau sy’n aros i’w dangos i ddefnyddwyr. Dim ond un proffil mewn ciw y gall defnyddwyr edrych arno ar y tro.
Requests
Neges sy’n cael ei hanfon oddi wrth ddefnyddiwr arall sydd eisiau siarad neu efallai fod yn ffrindiau.
Secret Chat
Sgwrs sy’n cael ei chuddio ac sydd ond ar gael heb hysbysebion trwy WizzGold, y nodwedd bremiwm y mae’n rhaid talu amdani. Fel arall, gall defnyddwyr wylio hysbyseb er mwyn gweld Secret Chat.
Skip the line neu Boost
Hwb 30 munud i broffil, am dâl, sy’n cynyddu’r siawns y bydd defnyddwyr eraill yn darganfod y proffil sydd wedi cael hwb.
Super Chat
Sgwrs sy’n aros ar frig rhestr sgyrsiau defnyddiwr.
WiCoins
Arian o fewn yr ap sy’n cael ei ddefnyddio i brynu pethau, fel hwb i broffil neu ‘super chat’.
WizzGold
Nodwedd bremiwm Wizz, y mae’n rhaid talu amdani, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gael at lawer o nodweddion, fel y gallu i:
- roi hwb i’w proffil, gan ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr eraill eu darganfod
- pori proffiliau heb hysbysebion
- datgelu Secret Chats
Rheoli risgiau
Cyswllt niweidiol gan eraill
Mae Wizz wedi’i seilio ar gyfarfod a rhyngweithio â phobl ddieithr, a gall hyn golygu bod plentyn yn wynebu niwed posibl. Gallai defnyddwyr eraill fod wedi dweud celwydd am eu hoedran ac am bwy ydyn nhw, a gallen nhw geisio meithrin perthynas amhriodol â’ch plentyn, ei orfodi i wneud rhywbeth, ei sgamio neu’i fwlio.
Mae camau y gallwch eu cymryd i leihau risg niwed gan bobl ddieithr.
Addasu gosodiadau
Yng ngosodiadau’r cyfrif, gallwch addasu’r gosodiadau gwelededd fel na all defnyddwyr eraill weld statws gweithgarwch eich plentyn. Mae hyn yn golygu na fydd eich plentyn i’w weld yn yr adran ‘Find new friends’.
Siarad am gymdeithasu diogel
Goruchwyliwch eich plentyn tra bydd yn sefydlu ei gyfrif i sicrhau nad yw’n cynnwys gwybodaeth breifat yn ei fywgraffiad. Siaradwch ag ef am beth sy’n iawn i’w rannu ar-lein, neu beth na ddylai ei rhannu.
Dysgwch eich plentyn sut i adnabod cyfrifon ffug a defnyddwyr sydd am wneud niwed ar y platfform.
Gofynnwch am y bobl mae’n siarad â nhw ar yr ap a rhowch wybod y gall droi atoch i ofyn am gymorth os bydd unrhyw un yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus ar-lein.
Edrych ar yr offer riportio a blocio
Anogwch eich plentyn i ddefnyddio’r nodweddion riportio a blocio i ddod â chysylltiad ag unrhyw un sy’n ei wneud yn anghyfforddus i ben. Bydd hyn yn gwneud y platfform yn fwy diogel i bawb.
Cysylltu â’r heddlu
Os ydych chi’n amau bod rhywun yn ceisio meithrin perthynas amhriodol â’ch plentyn, dylech arbed unrhyw dystiolaeth a rhoi gwybod i’r heddlu amdano.
Gorwario
Mae mân-drafodion ar Wizz ac mae defnyddwyr yn aml yn gweld hysbysebion naid sy’n eu hannog i brynu tanysgrifiadau a cheiniogau fel maen nhw’n gallu rhoi hwb i’w proffiliau a chael mwy o geisiadau i sgwrsio. Gallai plant deimlo bod rhaid iddyn nhw brynu’r rhain i gwrdd â phobl ar yr ap a gall hyn arwain at orwario.
Gall y camau canlynol helpu i atal gorwario ar Wizz.
Trafod gwariant
Trafodwch gyda’ch plentyn ynghylch yr hyn y gellir ei brynu yn yr ap a sicrhau ei fod yn deall mai arian go iawn sy’n cael ei ddefnyddio i brynu’r pethau hyn.
Gosod rheolyddion prynu
Newidiwch y gosodiadau ar ddyfais eich plentyn fel bod angen ichi ganiatáu unrhyw bryniadau. Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag prynu pethau yn yr ap heb ganiatâd.
Gosodiadau i ddiogelu’ch plentyn
Os byddwch chi’n gadael i’ch plentyn ddefnyddio Wizz, gall y gosodiadau hyn helpu i wneud eu profiad yn fwy diogel.
Addasu gosodiadau preifatrwydd
- Ar ap Wizz, dewiswch eicon y person ar y dde ar yr ochr waelod.
- Dewiswch eicon y gêr ar yr ochr dde ar y brig.
- O dan ‘Visibility’, defnyddiwch y togl i ddiffodd ‘Show my State’ a ‘Visible in Find new friends’.
Offer blocio a riportio
Blocio defnyddiwr
- Ar broffil y defnyddiwr, dewiswch y 3 dot fertigol ar y brig ar y dde.
- Dewiswch ‘Block’.
- Dewiswch ‘Yes’ i gadarnhau.
Riportio defnyddiwr
- Ar broffil y defnyddiwr, dewiswch y 3 dot fertigol ar y brig ar y dde.
- Dewiswch ‘Report’.
- Dewiswch y rheswm pam rydych chi am ei riportio.
- Dewiswch ‘Yes’ i gadarnhau’r adroddiad a blocio’r defnyddiwr.
Analluogi prynu
Analluogi pryniadau o fewn apiau (ar iOS)
- Galluogwch amser sgrin, yna mynd i ‘Settings’.
- Agorwch ‘Screen Time’ a dewis ‘Content & Privacy Restrictions’.
- Trowch y togl wrth ymyl ‘Content & Privacy Restrictions’ ymlaen.
- Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
- Dewiswch In-app Purchases a dewiswch ‘Don't Allow’.
Analluogi pryniadau o fewn apiau (ar Android)
- Ewch i ap ‘Google Play Store’.
- Dewiswch eicon y proffil.
- Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
- Dewiswch ‘Purchase verification’.
- Dewiswch ‘Verification frequency’.
- Newidiwch hwn i ‘Always’ a dewiswch ‘OK’.