English

Mae Fortnite yn gêm fideo ar-lein am ddim a grëwyd gan Epic Games, sydd ar gael ar yr holl brif gonsolau gemau fideo a dyfeisiau. Mae’r gêm yn cynnwys amrywiaeth o foddau chwarae. Mae rhai ohonyn nhw’n canolbwyntio ar chwaraewyr yn brwydro i fod yr olaf i oroesi, tra mae rhai eraill yn ymwneud ag adeiladu a chreadigrwydd. Er bod mwyafrif gemau Fortnite yn rhai aml-chwaraewr ar-lein, mae rhai moddau y gellir eu chwarae’n unigol.

Mae gan Fortnite sgôr PEGI 12+. Serch hynny, mae Fortnite yn caniatáu i blant dan 13 oed chwarae’r gêm cyn belled â bod ganddyn nhw ganiatâd gan eu rhieni. Bydd plant dan 13 oed yn cael cyfrif cyfyngedig yn awtomatig wrth gofrestru ar gyfer Epic Games. Mae hyn yn cyfyngu ar lawer o nodweddion fel cyfathrebu â chwaraewyr eraill. Ni all y plentyn dynnu’r cyfyngiadau hyn.

Bydd pobl ifanc ond yn cael cyfrif cyfyngedig (cabined account) os byddan nhw’n rhoi oedran dan 13 oed wrth gofrestru. Os byddan nhw’n honni eu bod yn hŷn, gallan nhw greu cyfrif safonol heb gyfyngiadau. Nid oes proses gwirio oedran i atal hyn. Er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn elwa ar ddiogelwch cyfrif cyfyngedig, dylech greu ei gyfrif gyda’ch gilydd os yw dan 13 oed.

Battle Pass

Tanysgrifiad ar gyfer Fortnite mae’n rhaid talu amdano sy’n gwobrwyo chwaraewyr am yr amser maen nhw’n ei dreulio yn chwarae’r gêm trwy roi eitemau sy’n newid golwg eu cymeriad iddyn nhw.

Battle Royale

Y modd mwyaf poblogaidd yn y gêm, sy’n caniatáu i chwaraewyr gystadlu i fod y chwaraewr olaf sy’n weddill.

Cabined account

Cyfrif cyfyngedig i ddefnyddwyr dan 13 oed. Nid yw’r cyfrif hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio’r cyfleuster sgwrsio na gwneud microdrafodion. 

Chat

Yn galluogi chwaraewyr i gyfathrebu â’i gilydd.

Creative

Gall chwaraewyr ddefnyddio’r modd Creative i ddylunio eu hynys eu hunain, lle gallan nhw greu eu gemau eu hunain i’w ffrindiau neu bobl eraill eu chwarae.

Emotes

Symudiadau dawns a symudiadau eraill y gall cymeriadau eu perfformio. Gall y rhain gael eu datgloi neu eu prynu â V-Bucks (arian cyfred Fortnite yn y gêm).

FNCS

Twrnamaint wyneb-yn-wyneb yw ‘Fortnite Champion Series’, lle mae chwaraewyr Fortnite mwyaf nodedig yn cystadlu mewn gêm Battle Royale. 

Fortnite Leaderboard

Nodwedd ar gyfer Discord a grëwyd gan Epic Games, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr weld eu hystadegau Fortnite o’u cymharu â’u ffrindiau ar Discord.

Lobby

Yr ystafell lle mae chwaraewyr yn aros tra mae’r gêm yn casglu 100 o chwaraewyr cyn dechrau. Gall yr ystafelloedd hyn gael eu haddasu gan chwaraewyr a’u rhannu â defnyddwyr eraill. Mae proses adolygu drylwyr ar waith i sicrhau nad oes unrhyw gynnwys amhriodol neu niweidiol ar gael.

Rocket Racing

Math o gêm Fortnite a grëwyd ar y cyd â Rocket League. Mae chwaraewyr yn rasio cerbydau wedi’u haddasu ar draws ystod eang o draciau. 

Skins

Gwisgoedd y gellir eu prynu gan ddefnyddio V-Bucks. Maen nhw’n newid golwg cymeriad y chwaraewr.

Social tags

Tagiau sy’n disgrifio sut mae defnyddwyr yn chwarae’r gêm y gall chwaraewyr eu hychwanegu at eu proffil. Gallan nhw ddisgrifio eu hoff fodd, ffordd o chwarae neu eu dewisiadau cystadlu.

V-Bucks

Arian cyfred Fortnite yn y gêm. Gellir eu defnyddio i brynu gwisgoedd, emotes ac ychwanegiadau eraill yn y gêm.

AFK

Byrfodd ar gyfer ‘away from keyboard’, sy’n golygu bod angen i’r chwaraewr adael y gêm am gyfnod byr.

Back bling

Gwarbaciau y gall chwaraewyr eu prynu i’w cymeriadau eu gwisgo. Yn aml, mae’n rhaid prynu’r rhain gan ddefnyddio V-Bucks.

PvP

Pan fydd chwaraewyr yn cystadlu mewn brwydr yn erbyn chwaraewyr eraill.

Mynegiant creadigol

Mae Fortnite yn canolbwyntio’n fawr ar grefftio a gall chwaraewyr adeiladu strwythurau yn ystod gemau a chreu eu hynysoedd a’u gemau eu hunain, hyd yn oed, yn y modd Creative. Mae hyn yn eu hannog i ddatrys problemau ac yn gallu dysgu hanfodion dylunio gemau, gan y gall defnyddiwr ddod â’u syniadau’n fyw.

Cysylltiad cymdeithasol

Mae llawer o’r gemau yn Fortnite yn cynnwys chwarae’n rhan o dîm â chwaraewyr eraill. Gall hyn helpu i feithrin eu sgiliau cymdeithasu a gwaith tîm wrth iddyn nhw gydweithio â’i gilydd tuag at nod cyffredin. 

Adloniant

Mae gan Fortnite amrywiaeth o gemau a chydweithrediadau â brandiau a all apelio at bobl ifanc. Gyda diweddariadau’n cael eu cyhoeddi’n rheolaidd, mae rhywbeth newydd i’w wneud ar y platfform bob amser.

Cysylltiad â phobl ddieithr

Mae mwyafrif gemau Fortnite yn gemau aml-chwaraewr ar-lein, sy’n golygu y bydd defnyddwyr yn chwarae â llawer o bobl ddieithr. Gallai rhai o’r pobl ddieithr hyn geisio achosi niwed. Mae’r cyfleuster sgwrsio wedi’i ddiffodd ar gyfer chwaraewyr dan 13 oed sydd â chyfrifon cyfyngedig, ond gellir cysylltu â phlant hŷn. Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu’ch plentyn pan fydd yn chwarae Fortnite.

Addasu’r gosodiadau preifatrwydd

Mae rheolyddion rhieni Fortnite yn eich galluogi i ddiffodd sgwrs testun a llais i’ch plentyn wrth chwarae. Mae hyn yn lleihau’r siawns y bydd eich plentyn yn gweld neu’n clywed iaith aeddfed yn y cyfleuster sgwrsio neu y bydd rhywun yn cysylltu ag ef. 

Hyd yn oed os ydych chi’n diffodd y cyfleuster sgwrsio o fewn Fortnite, mae’n bosibl y bydd eich plentyn yn gallu defnyddio cyfleuster sgwrsio’i gonsol. Fodd bynnag, gallwch guddio enw defnyddiwr eich plentyn o fewn gosodiadau negeseua’r consol, fel nad yw unrhyw un yn gallu ceisio ei ychwanegu fel ffrind nac anfon negeseuon ato.

Adolygu’r rhestr ffrindiau

Ewch drwy restr ffrindiau eich plentyn gyda’ch gilydd a dilëwch unrhyw un nad yw eich plentyn yn ei adnabod ac yn ymddiried ynddo mewn bywyd go iawn. 

Mae hyn yn lleihau’r siawns y bydd pobl ddieithr yn anfon negeseuon at eich plentyn.

Siarad am ei fywyd digidol

Gall cael sgyrsiau rheolaidd am fywyd digidol eich plentyn, yn debyg i’r ffordd rydych chi’n siarad am ei fywyd all-lein, roi cipolwg i chi ar beth mae’n ei wneud ar-lein. Gallai hyn wneud eich plentyn yn fwy tebygol o ddweud wrthych chi am unrhyw brofiadau drwg y mae wedi’u cael â phobl ddieithr neu unrhyw ffrindiau newydd sydd ganddo ar-lein. 

Archwilio’r offer riportio a blocio

Bydd dangos i’ch plentyn sut i ddefnyddio’r offer riportio a blocio yn eu grymuso i ddefnyddio’r nodweddion hyn os bydd rhywun yn ymddwyn yn amhriodol.

Gormod o amser o flaen sgrin 

Mae nodweddion dylunio fel heriau dyddiol, gwobrau ar gyfer rhesi o lwyddiannau a digwyddiadau sy’n para am gyfnod cyfyngedig i gyd wedi’u bwriadu i gynyddu amser o flaen sgrin, a gallai pobl ifanc gael trafferth rheoli’r amser y maen nhw’n ei dreulio yn y gêm.

Mae yna gamau y gallwch chi a’ch plentyn eu cymryd i reoli eu hamser o flaen sgrin.

Gosod terfynau amser o flaen sgrin

Yn y gosodiadau rheolyddion rhieni ar Fortnite, gallwch osod terfynau amser o flaen sgrin i atal eich plentyn rhag treulio gormod o amser yn y gêm. 

Gellir creu amserlen deilwredig, gyda’r gallu i osod terfynau gwahanol ar gyfer pob diwrnod o’r wythnos. 

Monitro amser o flaen sgrin

Gallwch ddewis cael adroddiadau wythnosol ar amser sgrin, sy’n rhoi cipolwg i chi ar ba mor aml y mae’ch plentyn yn chwarae. Gall hyn eich helpu i gydbwyso amser eich plentyn o flaen sgrin.

Cytuno ar derfynau clir

Gall fod yn ddefnyddiol cytuno ar derfynau ynghylch pa bryd y bydd eich plentyn yn chwarae. Gall cytuno ar reolau, fel peidio â chwarae yn ei ystafell wely, helpu i ddiogelu faint o amser y mae’n ei gael o flaen sgrin, ei gwsg a’i gysylltiad â phobl ddieithr.

Gorwario

Gall fod yn demtasiwn i bobl ifanc wario arian go iawn ar V-Bucks i brynu ategolion ac emotes yn y gêm. Yn aml, maen nhw am brynu’r eitemau hyn i gadw i fyny â’u ffrindiau a chwaraewyr eraill.

Mae gan Fortnite fodel tanysgrifio hefyd, sy’n annog chwaraewyr i wario arian ar yr ap.

Mae yna ffyrdd y gallwch chi reoli gwariant eich plentyn.

Addasu’r rheolyddion rhieni

Mae gosodiadau rheolyddion rhieni Epic Games yn caniatáu i chi gyfyngu ar wariant yn Fortnite. Gallwch olygu’r gosodiadau fel bod angen rhoi PIN rhiant ar gyfer popeth sy’n cael ei brynu yn y gêm. Trwy wneud hyn, dim ond gyda’ch caniatâd chi y bydd eich plentyn yn gallu gwneud microdrafodion.

Trafod gwario

Gall cael sgwrs am wario helpu eich plentyn i ddeall gwerth arian. Cymharwch bris V Bucks â phris pethau eraill y gallai’ch plentyn eu prynu i’w helpu i sylweddoli bod arian sy’n cael ei wario’n rhithwir yn arian go iawn o hyd. Yna, gallech siarad am y gost hon yn gysylltiedig â’i arian poced neu lwfans.

Os ydych chi’n fodlon i’ch plentyn wario arian ar Fortnite, efallai yr hoffech chi drafod gwneud hyn gyda’ch plentyn. Gallech chi roi terfyn gwario misol iddo ar gyfer Fortnite. Mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb iddo, ond yn cyfyngu ar ei wariant. 

Os yw’ch plentyn eisiau chwarae Fortnite, gall y gosodiadau hyn sicrhau bod ei amser yn y gêm yn brofiad mwy diogel. 

Gosod rheolyddion rheini

O brif ddewislen Fortnite:

  • dewiswch y 3 llinell lorweddol yn y gornel uchaf
  • dewiswch eicon y gêr
  • dewiswch ‘Parental Controls’ a rhowch PIN 6 digid

Mae rheolyddion rhieni yn cynnwys y canlynol.

Rheoli’r cyfleuster sgwrsio

Gall chwaraewyr ddefnyddio’r sianeli sgwrsio testun a llais i gyfathrebu â’i gilydd wrth chwarae. Mae’r gosodiadau rheolyddion rhieni yn eich galluogi i ddiffodd y sgyrsiau hyn neu newid pwy all eich plentyn siarad â nhw.

I wneud hyn, o brif ddewislen Fortnite:

  • dewiswch y 3 llinell lorweddol yn y gornel uchaf.
  • dewiswch eicon y gêr a dewiswch ‘Parental Controls’.
  • wrth ochr yr opsiynau Text Chat a Voice Chat, dewiswch pwy all eich plentyn gyfathrebu â nhw drwy’r cyfleuster sgwrsio:
    • Everybody: gall eich plentyn sgwrsio ag unrhyw un arall ar Fortnite
    • Friends & Teammates: gall eich plentyn sgwrsio â’r rhai y mae wedi’u hychwanegu fel ffrindiau a’r rhai y mae’n ymuno â nhw mewn sgwad
    • Friends Only: gall eich plentyn sgwrsio â’r rhai y mae wedi’u hychwanegu fel ffrindiau
    • Nobody: ni all eich plentyn sgwrsio ag unrhyw un

Cyfyngu ar amser o flaen sgrin

Mae Fortnite wedi’i ddylunio i annog chwaraewyr i ddal ati i fewngofnodi ac ymuno â gemau. Gall hyn arwain at eich plentyn yn treulio llawer o amser yn y gêm. 

I reoli ei amser o flaen sgrin:

  • o brif ddewislen Fortnite, dewiswch eicon y gêm ac yna ‘Parent Controls’
  • ewch i ‘Time Limits’ a dewiswch ‘open’
  • symudwch i’r chwith a’r dde ar y rhes uchaf i ddewis rhwng:
    • Dim terfynau amser
    • Yr un terfyn bob dydd
    • Amserlen wedi’i haddasu sydd â therfynau gwahanol bob dydd

Archwilio nodweddion blocio a riportio

Gall defnyddwyr flocio neu riportio chwaraewyr eraill sy’n ymddwyn yn amhriodol neu’n niweidiol ar y platfform. Bydd hyn yn eu hatal rhag cysylltu yn y dyfodol a gall eu cyfrifon gael eu gwahardd fel na allan nhw achosi niwed i bobl eraill. Gall chwaraewyr sydd wedi’u blocio ymddangos yn yr un lobi gyhoeddus o hyd, ond ni allan nhw gysylltu â’r chwaraewr sydd wedi’i flocio.

Blocio chwaraewr

  • Dewiswch eicon Proffil y Chwaraewr a dewiswch y botwm ‘Social’.
  • Chwiliwch am enw defnyddiwr y chwaraewr rydych chi am ei flocio ac yna ei ddewis.
  • Dewiswch ‘More Options’.
  • Dewiswch ‘Block’, a’i ddewis eto i gadarnhau.

Riportio chwaraewr yn ystod gêm

  • Dewiswch y ddewislen ac yna ‘Reporting or Feedback’.
  • Yn y tab adborth, dewiswch ‘Report Player’ ac yna dewiswch y rheswm a’r chwaraewr.
  • O dan y tab ‘Submit’, dewiswch ‘Accept’ ac yna ‘Send Report’.

Riportio chwaraewr o’i broffil

  • Dewiswch broffil y chwaraewr.
  • Ar ei broffil, dewiswch ‘Report’ a’r rheswm dros wneud hynny.
  • O dan y tab ‘Submit’, dewiswch ‘Accept’ ac yna ‘Send Report’.