English

Gêm ar thema’r gofod yw Among Us, lle mae hyd at 15 o chwaraewyr yn chwarae gyda’i gilydd fel ‘Crewmates’ (aelodau’r criw) neu ‘Impostors’ (cogwyr). Y nod yw bod aelodau’r criw yn ceisio adnabod y chwaraewyr sy’n cogio cyn i’r cogwyr allu tanseilio eu tasgau a lladd aelodau’r criw fesul un.

Pan fydd aelod o’r criw yn cael ei ladd a’r corff marw yn cael ei riportio, bydd gweddill aelodau’r criw yn trafod pwy maen nhw’n meddwl yw’r cogiwr ac yn ei bleidleisio allan o’r gêm. Mae’r gêm yn ymwneud â chyfathrebu a strategaeth.

Mae Among Us ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, ond mae angen i ddefnyddwyr Nintendo Switch brynu’r gêm. Mae gan Among Us fersiwn realiti rhithwir o’r gêm hefyd, sef Among Us VR, sydd ar gael ar Meta Quest, Rift a Steam VR.

Mae gan Among Us sgôr PEGI 7 oherwydd yr elfennau trais ysgafn a’r elfennau rhyngweithio ar-lein.

Os bydd eich plentyn yn rhoi oedran dan 13 oed wrth greu ei gyfrif, bydd angen iddo roi eich cyfeiriad e-bost chi. Byddwch yn cael neges e-bost i gadarnhau’r cyfrif a gosod nodweddion caniatâd. Mae cyfyngiadau diogelwch yn cael eu gosod ar gyfrifon plant dan 13 oed yn awtomatig, fel peidio â gallu defnyddio’r cyfleuster sgwrsio am ddim.

Nid yw oedran yn cael ei wirio wrth greu cyfrif, felly dylech oruchwylio eich plentyn er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi’r dyddiad geni cywir.

Beans

Arian cyfred y gêm y gellir ei gael trwy chwarae’r gêm.

Crewmate ac Impostor

Y rolau gwahanol sy’n cael eu rhoi i chwaraewyr yn y gêm.

Emergency meetings

Lle mae aelodau’r criw yn dod at ei gilydd i bleidleisio ar bwy sy’n cogio.

Free chat

Gall deiliaid cyfrifon dros 13 oed ddewis sgwrsio gan ddefnyddio ‘Free chat’. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddrafftio eu sylwadau a’u negeseuon eu hunain.

Friend code

Codau unigryw sy’n cael eu creu ar hap y gall chwaraewyr eu defnyddio i ychwanegu ei gilydd yn y gêm.

Ghosts

Aelodau o’r criw sydd wedi cael eu lladd ond sy’n dal i allu chwarae a helpu’r chwaraewyr byw ar eu tîm trwy gwblhau eu tasgau.

Lobbies

Yr ystafelloedd aros lle mae chwaraewyr yn ymgynnull ac yn rhyngweithio cyn dechrau gêm.

Quick chat

Dyma’r opsiwn sgwrsio diofyn ar gyfer deiliaid cyfrifon dan 13 oed. Mae’r modd hwn yn caniatáu i chwaraewyr sgwrsio trwy ddewis sylwadau a chwestiynau o restr barod yn unig, yn hytrach nag ysgrifennu eu rhai eu hunain.

Stars

Arian cyfred yn y gêm y gellir ei brynu ag arian go iawn yn unig.

Gwaith tîm

Rhaid i chwaraewyr weithio fel tîm i adnabod y sawl sy’n cogio, a rhaid iddyn nhw gyfleu eu barn yn glir a chydweithio â’i gilydd ar dasgau.

Meddwl yn feirniadol

Rhaid i ddefnyddwyr geisio darganfod pwy sy’n cogio trwy ddadansoddi patrymau ymddygiad a sylwi ar unrhyw beth anarferol.

Cysylltiad niweidiol â phobl eraill

Y risg fwyaf sylweddol yn Among Us yw chwarae’n gyhoeddus â defnyddwyr anhysbys. Mae’r nodwedd gyhoeddus yn caniatáu i’r gêm gael ei chwarae’n gyhoeddus gan hyd at 15 o bobl ar-lein. Gall y bobl hyn fod yn ddieithriaid. 

Gallai’ch plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y cyfleuster sgwrsio yn y gêm, na fydd yr hidlydd sgwrsio yn ei chanfod o bosibl. Hefyd, efallai y bydd pobl ddieithr yn ceisio cysylltu â’ch plentyn a symud y sgwrs i blatfform arall.

Gallwch leihau’r risg o ddod i gysylltiad â phobl ddieithr trwy gymryd y camau canlynol.

Addasu’r gosodiadau

Os yw’ch plentyn yn 13 oed neu’n hŷn, gallwch ychwanegu hidlwyr at y cyfleuster sgwrsio yng ngosodiadau’r gêm, gan helpu i’w cyfyngu rhag gweld iaith amhriodol. 

Osgoi chwarae â phobl ddieithr

Mae nodwedd gwesteia ar Among us yn caniatáu i ‘westeiwyr’ (‘hosts’) greu gêm gyda’u ffrindiau. Maen nhw’n creu cod sy’n cael ei rannu â chwaraewyr eraill maen nhw’n eu hadnabod fel y gallan nhw ymuno â’r gêm. 

Dylech annog eich plentyn i chwarae’r gêm mewn sesiynau gemau preifat gyda ffrindiau y mae’n eu hadnabod, fel nad yw’n rhyngweithio â phobl ddieithr. Addysgwch eich plentyn i beidio â derbyn cod mynediad neu gais ffrind sy’n cael ei rannu gan rywun nad yw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo go iawn.

Defnyddio’r offer blocio a riportio

Bydd annog eich plentyn i ddefnyddio’r nodweddion blocio a riportio yn helpu i ddod â chysylltiad ag unrhyw chwaraewyr niweidiol i ben a gall wneud y gêm yn fwy diogel i bawb. 

Gorwario

Mae gan Among Us siop lle gall chwaraewyr brynu eitemau cosmetig i addasu golwg eu cymeriadau. Gallai’r eitemau cosmetig hyn gael eu prynu gan ddefnyddio’r arian cyfred yn y gêm, y gellir ond ei brynu ag arian go iawn. Yn aml, bydd Among Us yn hysbysebu eitemau newydd sydd ar gael i’w prynu’n syth ar ôl agor y gêm, sy’n gallu temtio chwaraewyr i brynu’r eitemau hyn. 

Gall y camau hyn helpu i atal eich plentyn rhag gorwario.

Gosod cyfyngiadau gwario

Yng ngosodiadau dyfais eich plentyn, gosodwch gyfyngiadau gwario ar gyfer apiau fel bod angen iddyn nhw gael eich caniatâd chi cyn gallu prynu.

Trafod gwario

Addysgwch eich plentyn fod arian sy’n cael ei wario ar ficrodrafodion yn y gêm yn arian go iawn. Gallwch eu helpu i ddeall y gwerth trwy gymharu’r arian y mae’n ei wario yn y gêm â phethau y gallan nhw eu prynu all-lein am yr un swm.

Os yw’ch plentyn yn chwarae Among Us, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n ddiogel. 

Sensro’r cyfleuster sgwrsio

  • Ar y brif ddewislen, dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Censor Chat’ a newidiwch y togl i ‘On’.

Offer riportio a blocio

Riportio defnyddiwr

  • Agorwch y ddewislen ‘Kick’ (eicon yr esgid) yn y cyfleuster sgwrsio.
  • Dewiswch y chwaraewr i’w riportio.
  • Dewiswch yr opsiwn ‘Report’.

Blocio defnyddiwr

  • Agorwch y rhestr ffrindiau trwy ddewis ‘Friends’ yng nghornel dde uchaf y brif ddewislen.
  • Dewiswch naill ai ‘Recently Played With’ neu ‘Friends List’ i ddod o hyd i’r chwaraewr yr hoffech ei flocio.
  • Dewiswch aelod y criw â’r arwydd ‘restricted’ a dewiswch ‘Confirm’.

Analluogi prynu eitemau 

Analluogi prynu eitemau yn yr ap (ar iOS)

  • Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
  • Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
  • Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
  • Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
  • Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.

Analluogi prynu eitemau yn yr ap (ar Android)

  • Ewch i’r ap ‘Google Play Store’.
  • Dewiswch eicon y proffil.
  • Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
  • Dewiswch ‘Purchase verification’.
  • Dewsiwch ‘Verification frequency’.
  • Dewiswch ‘Always’ a phwyswch ‘OK’.