English

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Gall y rhyngrwyd gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar ein hiechyd meddwl a lles. Gall y rhyngrwyd ddarparu cyfleoedd gwerthfawr i gadw cysylltiad a darganfod meysydd diddordeb newydd a allai wella’n lles corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, gall rhai rhyngweithiadau neu brofiadau ar-lein gael effaith negyddol arnom.

Gellir cysylltu iechyd meddwl gwael â gormod o ddefnydd neu ddefnydd problematig o dechnoleg, problemau ynghylch delwedd corff neu hunan-barch isel, neu ddod i gysylltiad â chynnwys annymunol neu bryderus.

Mae’n bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu strategaethau i gadw eu profiadau ar-lein yn rhai cadarnhaol a’u bod yn gwybod ble i gael cymorth gyda’u hiechyd meddwl pe bai angen.

Barn yr arbenigwyr

Effaith y cyfryngau cymdeithasol ar hunan-barch a sut i helpu

Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, Pro-Mo Cymru


Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein

Weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu'r argraff orau o'n bywydau ar-lein. Dyma rai cynghorion syml i gael profiad cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol.


Deunyddiau gweithdy i rieni a gofalwyr

Deunyddiau i ysgol gynnal gweithdy i rieni a gofalwyr ar hunan-barch a lles mewn byd digidol.