English

Mae blacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol yn fath o flacmel. Mae troseddwyr yn bygwth rhannu ar-lein ddelweddau neu fideos noeth neu hanner noeth neu fanylion rhywun, a hynny er mwyn cael arian. Efallai y byddan nhw hefyd yn ecsbloetio eu dioddefwr mewn ffordd arall, megis drwy eu cael i rannu rhagor o ddelweddau.

Mae blacmel rhywiol yn drosedd sy'n peri gofid a all ddigwydd yn aml yn sgil swyno trwy dwyll, sef pan fo person yn defnyddio hunaniaeth ffug i ennill ymddiriedaeth. Mae'n drosedd a all gael ei chyflawni gan unigolion neu grŵp o bobl sy'n gweithio gyda'i gilydd. 

Mae'n bwysig pwysleisio'r angen i fod yn wyliadwrus a chefnogi dioddefwyr.

Ffoniwch 101 neu 999 os oes risg uniongyrchol o niwed. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Ddiogelwch CEOP (Saesneg yn unig) i roi gwybod am flacmel ar-lein a chael mynediad at gymorth mewn perthynas â hyn.

Mae'n bwysig cofio nad yw dioddefwr byth ar fai os ydyn nhw wedi dioddef blacmel ar-lein. Byddan nhw wedi cael eu twyllo, eu meithrin yn amhriodol neu eu perswadio i rannu delwedd.

Os yw plentyn eisoes wedi rhannu delwedd â rhywun sy'n ceisio eu hecsbloetio, cyngor yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yw cymryd y camau canlynol: 

  • Rhoi sicrwydd i’r plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych chi.
  • Gwneud yn siŵr fod y plentyn yn gwybod nad oes bai arno am yr hyn a ddigwyddodd a'i fod wedi gwneud y peth iawn yn gofyn am eich help.
  • Rhoi gwybod am unrhyw ddelweddau neu fideos sydd wedi'u rhannu.

Sut i gael gwared ar ddelwedd o blentyn a rannwyd ar-lein heb gydsyniad

Os rhannwyd delwedd neu fideo y plentyn heb ei gydsyniad a bod y plentyn o dan 18 oed, gallwch ei helpu i gael gwared ar y ddelwedd neu’r fideo:

  • Defnyddiwch Report Remove (Saesneg yn unig), adnodd gan Childline ac Internet Watch Foundation i gael gwared ar ddelweddau sydd wedi'u rhannu neu a allai fod wedi'u rhannu.
  • Defnyddiwch Take It Down (Saesneg yn unig), adnodd gan National Center for Missing and Exploited Children, i gael gwared ar ddelweddau neu fideos sydd wedi'u rhannu ar-lein, neu i stopio hynny rhag digwydd.
  • Rhowch wybod i'r platfform neu'r ap pan fo digwyddiad wedi digwydd.

Mae rhagor o ganllawiau isod er mwyn:

  • helpu i adnabod yr arwyddion rhybudd 
  • cael sgyrsiau sensitif, cefnogol gyda phlant a phobl ifanc am y mater hwn
  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.

Mae Llywodraeth Cymru a Hwb yn bartneriaid balch i IWF (Saesneg yn unig). Mae IWF yn sefydliad nid-er-elw ac yn elusen gofrestredig. Mae’n bodoli i ddileu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) o'r rhyngrwyd, a gall gefnogi dioddefwyr blacmel rhywiol.