English

Ydych chi erioed wedi ceisio sgrolio i waelod tudalen cyfryngau cymdeithasol ond wedi canfod ei bod yn mynd ymlaen am byth? ‘Sgrolio diddiwedd’ yw hyn.

Mae sgrolio diddiwedd yn dechneg sy’n cael ei defnyddio gan rai llwyfannau a gwasanaethau ar-lein i gadw eich sylw a’ch annog i aros ar y gwasanaeth am gyfnod hirach. Nod y llwyfan yw eich cadw chi’n brysur drwy ddefnyddio nodwedd sy’n darparu cynnwys mewn ffrwd o bostiadau ‘diddiwedd’. Wrth i chi dreulio mwy o amser yn pori, mae’n rhoi mwy o gyfle i'r gwasanaeth ddangos hysbysebion i chi a chasglu eich data, gan arwain at fwy o refeniw ar gyfer y gwasanaeth. Mae’n un o nifer o dechnegau dylunio perswadiol sy’n cael eu defnyddio gan wasanaethau
ar-lein a gwneuthurwyr dyfeisiau i’ch annog i dreulio mwy o amser gyda’u cynnyrch.

Mae sgrolio diddiwedd a nodweddion dylunio perswadiol eraill fel hysbysiadau, lliw, gwobrwyon amrywiol a thynnu i adnewyddu wedi cael eu creu’n ofalus gan ddefnyddio seicoleg i ddylunio rhyngweithiadau mwy diddorol. Mae’n seiliedig ar yr hyn sy’n ein cymell, y ffordd mae ein hymennydd yn prosesu gwybodaeth ac yn blaenoriaethu ein sylw. Mae nodweddion fel hysbysiadau, lle bydd eich dyfais yn eich atgoffa gyda synau a nodweddion gweledol, wedi’u dylunio i dynnu ein sylw’n ôl at ap neu ddyfais.

Mae sgrolio diddiwedd yn dechneg sy’n annog defnyddwyr i barhau i ddefnyddio gwasanaeth drwy ‘gwobrwyon amrywiol’. Mae’n dechneg ddylunio boblogaidd sy’n cael ei defnyddio gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Gallai sgrolio drwy ffrwd cyfryngau cymdeithasol ein harwain at rywbeth cyffrous neu annisgwyl, ond dydyn ni byth yn gwybod pryd gallai hyn ddigwydd. Mae’r ffaith ein bod yn disgwyl gweld rhywbeth diddorol neu’r ‘ofn o golli allan’ yn ein hannog i ddal ati i sgrolio yn yr un ffordd â dileu ‘arwyddion atal’ (fel diwedd tudalen) sy’n ein helpu ni i wybod pan fyddwn wedi cwblhau gweithgaredd.

Mae’r nodweddion hyn yn ysgogi ein hymennydd i gynhyrchu dopamin, sef niwrodrosglwyddydd cemegol sy’n ein gwobrwyo am ymddygiad buddiol ac yn ein cymell i’w ailadrodd (Haynes, T., 2018, ‘Dopamine, Smartphones & You: A battle for your time’). Mae chwilio am yr hapusrwydd hwn yn gallu arwain at dreulio gormod o amser o flaen sgrin, sy’n effeithio’n negyddol ar agweddau ar fywyd bob dydd fel cwsg, iechyd corfforol a lles meddyliol.

Gallwch ddod o hyd i sgrolio diddiwedd a nodweddion dylunio perswadiol eraill mewn amrywiaeth eang o apiau, gwasanaethau a dyfeisiau y gall plant a phobl ifanc eu defnyddio.

  • Siaradwch â’ch plentyn am y nodweddion hyn a pham eu bod yn cael eu defnyddio (ar gyfer refeniw). Bydd eu helpu i adnabod y nodweddion hyn yn eu galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o sut mae’r technegau dylunio bwriadol hyn yn dylanwadu ar ymddygiad.
  • Edrych ar y gosodiadau a’r nodweddion mae llawer o apiau a dyfeisiau wedi’u cyflwyno er mwyn i chi neu’ch plentyn allu rheoli eich defnydd o dechnoleg. Er enghraifft, mae ffonau a thabledi yn aml yn cynnwys gosodiadau sy’n gadael i chi ddiffodd hysbysiadau ar gyfer apiau. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfryngau cymdeithasol, gemau ac apiau eraill, darllenwch ein canllawiau ‘Bydd wybodus’. Mae pob canllaw yn cynnwys trosolwg manwl o’r ap, gan amlinellu’r sgôr oedran a’r derminoleg allweddol y dylai teuluoedd fod yn ymwybodol ohoni.
  • Cael cydbwysedd iach drwy sefydlu disgwyliadau gyda’ch plentyn ynglŷn â sut mae defnyddio technoleg mewn ffordd gadarnhaol. Gall cydbwyso eu gweithgareddau ar-lein â diddordebau all-lein ac ymarfer corff fod yn ddefnyddiol, yn ogystal â chytuno ar rai rheolau fel teulu. Bydd modelu cydbwysedd digidol da yn gosod esiampl dda.

Yn y DU, mae rheoliadau newydd wedi cael eu cyflwyno yn y diwydiant technoleg. Mae’r rhain yn mynnu bod gwasanaethau ar-lein yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros les a diogelwch plant a phobl ifanc a’u data. Mae hyn yn cynnwys peidio â defnyddio nodweddion dylunio perswadiol (a elwir hefyd yn dechnegau gwthio) mewn gwasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant a phobl ifanc. Daeth y Cod Plant i rym ym mis Medi 2021. Mae’r cod yn amlinellu’r safonau y mae angen i wasanaethau ar-lein eu dilyn. Mae’r cod yn mynnu bod gwasanaethau
ar-lein yn gweithredu er budd gorau’r plentyn, gan ddiogelu plant ar yr un pryd â chaniatáu iddyn nhw archwilio a datblygu ar-lein.

Os oes gennych bryderon am ddefnydd eich plentyn o dechnoleg, dylech bob amser ofyn am gyngor a chymorth. Gall hyn fod gan yr ysgol, eich meddyg teulu neu sefydliad arall sy’n cynnig cefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael ar-lein.

Dylech atgoffa eich plentyn y gall hefyd gysylltu â Meic, sy’n cynnig gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ffonio Meic am ddim ar 080 880 23456, anfon neges destun at 84001 neu siarad â rhywun ar-lein yn www.meic.cymru. Mae’r gwasanaeth ar agor o 8 a.m. tan hanner nos 7, diwrnod o'r wythnos.

Mae canllawiau ac awgrymiadau ar amser o flaen sgrin ar gyfer grwpiau oedran gwahanol ar gael ar wefan Internet Matters neu yn yr adnoddau hyn yn yr ardal ‘Cadw’n ddiogel ar-lein’ ar Hwb.