English

Aflonyddu rhywiol ar-lein yw unrhyw fath o ymddygiad rhywiol digroeso wedi’i dargedu atat ti sy’n digwydd ar-lein. Gall fod yn anodd deall sut i ddelio ag ef, yn enwedig pan mae’n cynnwys rhywun rwyt ti’n ei adnabod. Gellid ystyried unrhyw ymddygiad o natur rywiol sy’n anghyfeillgar, anghyfforddus neu sy’n gwneud i ti deimlo dan bwysau, cywilydd neu’n anniogel neu wedi dy fygwth yn aflonyddu rhywiol.

Gall ddigwydd mewn mannau cyhoeddus a phreifat ar-lein a gall gynnwys cynnwys digidol megis lluniau, fideos, sylwadau neu negeseuon.

Fel arfer, mae aflonyddu rhywiol wedi’i dargedu at fenywod a merched, ond gall pobl o bob hunaniaeth rywedd ddioddef. Gall fod yn gysylltiedig â bwlio ar-lein a chasineb ar-lein


Mae llawer o fathau o aflonyddu rhywiol ar-lein, ac yn aml defnyddir mwy nag un math. Gall hyn gynnwys: 

  • gwneud jôcs neu sylwadau rhywiol
  • gwneud sylwadau am gorff rhywun, y ffordd mae’n gwisgo neu’r ffordd mae’n edrych
  • gwneud sylwadau rhywiol am rywun mewn llun
  • tynnu a/neu rannu lluniau neu fideos preifat heb gydsyniad. Mae anfon neu dderbyn llun noeth o rywun dan 18 oed yn erbyn y gyfraith
  • gofyn neu roi pwysau ar rywun i rannu lluniau rhywiol neu luniau noeth neu gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol
  • bygwth yn rhywiol, er enghraifft trais
  • annog pobl eraill ar-lein i gyflawni trais rhywiol
  • lledaenu straeon neu gelwyddau am ymddygiad rhywiol rhywun
  • docsio – rhannu gwybodaeth bersonol heb gydsyniad i annog aflonyddu rhywiol
  • swyno trwy dwyll (catfishing) – creu proffil ffug er mwyn aflonyddu rhywun neu eu twyllo i sgwrsio’n breifat neu anfon lluniau noeth
  • siarad gyda rhywun am ryw neu born 
  • gorfodi rhywun i ‘ddod allan’ – datgelu cyfeiriadedd neu hunaniaeth rywedd rhywun heb gydsyniad 

Mae unrhyw fath o ymddygiad rhywiol ar-lein na ‘nes di ofyn amdano, neu sy’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, yn aflonyddu. 


Does dim un math o berson sy’n aflonyddu pobl yn rhywiol ar-lein. Gall fod yn rhywun rwyt ti’n ei adnabod mewn bywyd go iawn, fel ffrind neu aelod o’r teulu, rhywun yn y gymuned neu rywun ddiarth. Gall fod yn oedolyn, neu’n rhywun sydd yr un oed â thi.

Beth bynnag yw’r amgylchiadau, a phwy bynnag yw’r person sy’n dy aflonyddu’n rhywiol, nid yw’n iawn, ac nid dy fai di yw e. 

Mae aflonyddu rhywiol (er na fyddi di o bosibl yn ei alw’n hynny) yn gyffredin ymysg pobl ifanc. Mae hyn hefyd yn cael ei alw’n aflonyddu rhywiol ymysg cyfoedion. Rhan o dyfu i fyny yw dysgu am ffiniau a gwybod beth sy’n iawn ac yn anghywir. Gall fod yn fath o fwlio, neu efallai y bydd yn dechrau drwy dynnu coes, ychydig o hwyl neu fflyrtio sy’n mynd yn rhy bell a throi’n aflonyddu. Hyd yn oed os mai jôc oedd yr aflonyddu, neu os oedd yn gamddealltwriaeth, profiad y dioddefwr sy’n diffinio a yw’n aflonyddu rhywiol ai peidio.


Gall aflonyddu rhywiol ar-lein beri gofid a gwneud i ti deimlo: 

  • dan fygythiad
  • yn isel
  • yn ofnus
  • cywilydd
  • fel dy fod yn cael dy ecsbloetio (cael dy ddefnyddio)
  • gwrthrycholi (cael dy drin fel gwrthrych neu beth)
  • anniogel
  • euog
  • fel bod rhywun yn gwahaniaethu (dy drin yn wahanol)

Gall pobl ymddwyn yn wahanol i aflonyddu rhywiol ar-lein. Gall fod ag effeithiau byrdymor a hirdymor. Gall y rhain gynnwys effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles a gorfod byw drwyddo droeon os yw’r cynnwys yn cael ei rannu’n aml.

Yn aml, mae’r bobl sy’n gwneud hyn yn ymwybodol ei fod yn aflonyddu rhywiol, ond efallai na fyddan nhw’n meddwl am ganlyniadau eu gweithredoedd. Os wyt ti’n meddwl dy fod wedi aflonyddu rhywun yn rhywiol ar-lein, ystyria’r effeithiau uchod. Os oes angen help arnat i stopio ymddwyn fel hyn, siarada gydag oedolyn ti’n ymddiried ynddo, neu cysyllta â llinell gymorth ddienw fel Meic a fydd yn gallu rhoi cymorth i chi.


Dyma rai camau y galli di eu cymryd i geisio amddiffyn dy hun rhag cael dy aflonyddu’n rhywiol ar-lein.

Newid dy osodiadau 

Sicrha fod dy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn breifat. Derbynia geisiadau i ddod yn ffrind neu i ddilyn gan bobl rwyt ti’n eu hadnabod yn unig. Diffodda dy osodiadau lleoliad fel na all pobl weld ble rwyt ti. 

Rhwystro

Os bydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd rywiol sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, neu’n rhoi sylw rhywiol digroeso i chi, rhwystrwch nhw, a rhoi gwybod am eu hymddygiad i’r ap neu’r gwasanaeth rydych chi’n ei ddefnyddio. Cymerwch gipluniau a’u cadw gan fod y rhain yn gallu bod yn dystiolaeth ddefnyddiol.  

Siarad

Os yw ymddygiad rhywun arall yn gwneud i ti deimlo’n anniogel, yn codi cywilydd neu’n gwneud i ti deimlo fel gwrthrych, mae’n bwysig siarad. Siarada ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, fel rhiant/gofalwr neu athro, neu rannu dy bryderon gyda ffrind. Dyma'r cam cyntaf i wella’r sefyllfa. Os nad wyt ti’n siwr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau. Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad wyneb yn wyneb, cysyllta â llinell gymorth ddienw fel Meic, sydd yno i wrando ac i helpu. 


Dyma rai camau i’w rhoi ar waith os wyt ti wedi cael dy aflonyddu’n rhywiol ar-lein.

Cadw cofnod

Sicrha dy fod yn cadw’r holl dystiolaeth. Gall hyn gynnwys negeseuon testun amhriodol, lluniau, fideos, nodiadau llais, neu gipluniau o sylwadau ar-lein. Gwna dy orau i gadw cofnod o amseroedd a lleoedd pan ddigwyddodd hyn. Bydd yn dy helpu i adrodd amdano’n nes ymlaen.  

Dweda wrtho nhw i stopio

Rho wybod dy fod eisiau iddo stopio. Efallai na fyddan nhw’n sylweddoli bod yr hyn y mae’n ei wneud yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus neu’n ofnus.

Stopio cyfathrebu

Os yw’n gwrthod stopio, stopia sgwrsio gyda nhw a’u blocio a rhoi gwybod amdanyn nhw ar bob platfform ar-lein. 

Rho wybod i’r ysgol

Weithiau gall fod yn anodd dweud wrth bobl beth sy’n digwydd, ond bydd dweud wrth oedolyn yr wyt ti’n ymddiried ynddo’n dy helpu i ymdopi gyda’r sefyllfa o bosibl. Os yw’r person sy’n gwneud hyn yn dod o dy ysgol, rho wybod i’r ysgol. Os nad wyt ti’n credu fod yr athro wedi dy gymryd o ddifrif, dweda wrth athro arall, neu gysylltu â llinell gymorth fel Meic a fydd yn gallu sicrhau bod dy lais yn cael ei glywed. Mae aflonyddu rhywiol yn gamdriniaeth, a rhaid ei ystyried fel mater difrifol. 

Adrodd ar y cyfryngau cymdeithasol 

Galli di hefyd adrodd aflonyddu rhywiol ar-lein i’r platfform cyfryngau cymdeithasol ble mae’n digwydd. Galli di hefyd eu blocio nhw fel nad oes modd iddyn nhw anfon negeseuon i ti mwyach.

Rhoi gwybod i’r heddlu 

Os wyt ti’n cael dy fygwth gyda thrais neu ymosodiad rhywiol, neu os yw rhywun dros 18 oed yn dy aflonyddu’n rhywiol ar-lein, rho wybod i’r heddlu drwy ffonio 101. Os wyt ti mewn perygl brys, ffonia 999.  


Dywedwch wrth rywun, a pheidiwch â delio â’r peth ar eich pen eich hun. Dewch o hyd i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo a dweud wrtho beth sydd wedi digwydd a sut rydych chi’n teimlo. Byddan nhw’n eich helpu ac yn eich cefnogi.

Peidiwch â gadael i rywun roi pwysau arnoch chi. Blociwch yr unigolyn os oes angen a rhowch wybod amdano, neu ei gyfrif hefyd. Riportio yw'r peth iawn i'w wneud.

Os ydych chi’n gweld hyn yn digwydd, tynnwch sgrinlun ohono a’i riportio. Mae hyn yn helpu pawb, yn enwedig y dioddefwr, gan y gallai fod ganddynt ormod o ofn rhoi gwybod amdano eu hunain. Anogwch nhw i ddweud wrth oedolyn, ac os nad ydyn nhw am wneud hynny, dywedwch wrth athro neu riant ar eu rhan yn gyfrinachol.

Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.

  • Yr Heddlu – adrodda am aflonyddu rhywiol ar-lein i’r heddlu ar 101. Neu os wyt ti neu unrhyw un arall mewn perygl ar unwaith, ffonia 999
  • Addysg CEOP (Saesneg yn unig) - cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed ar y rhyngrwyd a pherthnasoedd
  • Childline (Saesneg yn unig) – llinell gymorth am ddim, preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yn y DU lle mae modd trafod unrhyw beth o gwbl. Ffonia 0800 1111. Edrycha ar eu hadran ar aflonyddu rhywiol (Saesneg yn unig)
  • Cyngor ar Bopeth – sefydliad annibynnol sy’n gallu rhoi cymorth a chyngor am ddim. Edrycha ar eu hadran aflonyddu rhywiol (Saesneg yn unig)
  • CrimeStoppers– adrodd am drosedd yn ddienw ar 0800 555 111 neu ar yr wefan 
  • Meic– llinell gymorth am ddim a chyfrinachol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, gydag ymgynghorwyr i dy helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth sydd ei hangen. Ffonia 080880 23456, anfona neges destun at 84001 neu gellid sgwrsio ar-lein
  • Riportio Cynnwys Niweidiol– sut i adrodd camdriniaeth ar-lein ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol gwahanol
  • Shore - Gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol i bobl ifanc sy'n poeni am feddyliau neu ymddygiad rhywiol

Project deShame

Gwylia'r ffilm hon gan Project deShame a rhannu gydag aelodau o'r teulu os oes angen help dechrau sgwrs am aflonyddu rhywiol ar-lein.