English

Ap rhwydweithio cymdeithasol dan berchnogaeth Meta yw Facebook, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu trwy rannu lluniau, diweddariadau statws, sylwadau a fideos. Mae gan lawer o fusnesau eu tudalennau Facebook eu hunain hefyd i hyrwyddo eu brand. 

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed i ddefnyddio Facebook. Fodd bynnag, nid oes ganddo unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

I ddeiliaid cyfrifon dan 16 oed, y gosodiad diofyn yw ‘Preifat’ Dylech oruchwylio eich plentyn wrth iddo greu ei gyfrif er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi’r oedran cywir a bod gosodiadau diogelwch yn cael eu gosod ar ei gyfrif.

  • Mae Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr fewngofnodi ar-lein trwy dagio eu hunain mewn lleoliadau penodol.

  • Dyma’r nodwedd ffrydio byw sy’n rhan o Facebook. Gall defnyddwyr wneud a rhannu fideos mewn amser real. Bydd gosodiadau preifatrwydd cyfrif yn penderfynu pwy all weld cynnwys byw defnyddiwr.

  • Gall defnyddwyr cofrestredig greu hysbysebion i brynu a gwerthu eitemau ar draws y platfform, yn lleol ac yn genedlaethol.

  • Set o reolaethau i rieni sy’n caniatáu i chi fonitro a rheoli defnydd eich plentyn o Facebook.

  • Gall defnyddwyr unigol ddod at ei gilydd i ffurfio grŵp Facebook. Gall grwpiau fod yn gyhoeddus, yn breifat neu’n gyfrinachol.

  • Ap sgwrsio annibynnol yw hwn sy’n rhan o Facebook. Am fwy o wybodaeth am ap Messenger, edrychwch ar ganllaw ap Messenger.

  • Fideos byr yw’r rhain sy’n cynnwys cerddoriaeth, sain a throshaenau testun. Maen nhw’n cael eu rhannu’n uniongyrchol â ffrindiau yn eu porthiant newyddion neu â defnyddwyr eraill mewn adran ‘Reels’ bwrpasol ar yr ap.

  • Mae hyn yn galluogi ‘gweinyddwyr’ Grwpiau a Digwyddiadau i greu i hyd at 50 o bobl gael sgwrs fideo gyda’i gilydd.

  • Nodwedd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys ar eu proffiliau. Mae storïau’n diflannu ar ôl 24 awr.

  • Pan fydd defnyddiwr yn tagio rhywun ar Facebook, mae’n creu dolen i’w broffil. Gall defnyddiwr dagio rhywun mewn llun neu mewn diweddariad statws.

  • Dyma hanes defnyddiwr ar Facebook. Mae’n cadw ei holl weithgarwch, gan gynnwys diweddariadau, lluniau a negeseuon cyhoeddus, mewn un lle.

Mae Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr gysylltu â’u ffrindiau a theulu, hyd yn oed pan nad ydyn nhw yn yr un lleoliad yn gorfforol. Gall defnyddwyr ddod o hyd i gymuned ar-lein hefyd trwy ddilyn tudalennau Facebook sydd wedi’u seilio ar eu diddordebau ac yna cymryd rhan mewn trafodaeth yn ymwneud â’r hobïau hyn.

Gor-rannu

Gall defnyddwyr rannu lluniau, diweddariadau statws, lleoliadau byw a thagio eu ffrindiau a’u teulu yn y lluniau. Er y gall hyn helpu i gynnal cysylltiadau â ffrindiau a theulu a allai fyw ymhell i ffwrdd, gallai arwain at rai pobl ifanc yn gor-rannu gwybodaeth bersonol ac yn dogfennu pob agwedd ar eu bywydau ar-lein. 

Siaradwch â’ch plentyn am ba wybodaeth y bydd yn ei rhannu gyda ffrindiau a phobl ddieithr all-lein a chymharu hynny â’r hyn efallai y bydd yn ei rannu ar Facebook. Trafodwch ba wybodaeth y mae’n iawn i’w rhannu ar-lein a pha wybodaeth nad yw’n iawn i’w rhannu ar-lein.

Cysylltiad â phobl ddieithr niweidiol 

Mae Facebook yn enfawr, felly gall eich plentyn ddod i gysylltiad â defnyddwyr nad yw’n eu hadnabod os nad yw’r gosodiadau diogelwch wedi’u haddasu. Gallai’r defnyddwyr hyn ddefnyddio iaith amhriodol neu anfon negeseuon at eich plentyn â bwriadau niweidiol.

Gall y camau hyn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag defnyddwyr eraill.

  • Yng ngosodiadau Facebook, gwnewch broffil eich plentyn yn breifat i gyfyngu ar bwy sy’n gallu cysylltu â nhw neu weld eu postiadau.

  • Edrychwch ar restr ffrindiau eich plentyn yn rheolaidd i nodi unrhyw un y gall ei adnabod ar-lein yn unig.

  • Addysgwch eich plentyn sut i flocio a riportio i’w helpu i ddod â chysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddyo deimlo’n anghyfforddus i ben.

Efallai y bydd eich plentyn yn gweld postiadau a thudalennau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer oedolion, gan gynnwys postiadau sydd wedi’u seilio ar faterion sensitif. Gall y cyngor canlynol helpu.

  • Mae Facebook yn caniatáu i chi newid dewisiadau cynnwys i gyfyngu ar gynnwys sensitif ym mhorthiant eich plentyn.

  • Anogwch eich plentyn i ddilyn tudalennau a grwpiau cadarnhaol, fel bod ei ffrwd yn cynnwys postiadau calonogol yn hytrach na rhai negyddol. Gall clicio ‘Dim diddordeb’ ar bostiadau sy’n peri gofid helpu i greu ffrwd gadarnhaol, hefyd. 

  • Addysgwch eich plentyn i flocio a riportio tudalennau neu ddefnyddwyr sy’n rhannu cynnwys sy’n peri gofid er mwyn helpu i wneud y platfform yn fwy diogel.

  • Rhowch wybod i’ch plentyn y gallant ddod atoch chi am gymorth os byddant yn gweld unrhyw beth sy’n peri gofid neu’n gwneud iddynt deimlo’n ddig ar-lein. Addysgwch nhw nad yw popeth y maent yn ei weld ar-lein yn wir. Helpwch nhw i nodi camwybodaeth neu gyfryngau sydd wedi’u creu gan AI.

Os yw’ch plentyn yn defnyddio Facebook, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n fwy diogel.

Gosod Family Centre

Ar Facebook, dewiswch eicon y proffil ac ewch i Settings & Privacy’.

  • Dewiswch Settings’.
  • Dewiswch ‘Family Centre’.
  • Dewiswch Supervision’ ac yna ‘Create invitation’.
  • Gofynnwch i’ch plentyn dderbyn y gwahoddiad.

Rheolwch y gosodiadau goruchwylio trwy ddangosfwrdd y Family Centre.

Ar Facebook, dewiswch eicon y proffil ac ewch i Settings & Privacy’.

  • Dewiswch ‘Settings’.
  • Dewiswch ‘Default audience settings’.
  • Dewiswch ‘Friends’ neu dewiswch ‘Custom’ os hoffech addasu pwy sy’n gallu gweld proffil eich plentyn.

Adolygu’r offer riportio a blocio

Riportio defnyddiwr neu grŵp

  • Ewch i broffil y cyfrif neu’r grŵp.
  • Dewiswch y 3 smotyn o dan y llun clawr a dewiswch ‘Report profile’. 
  • Dewiswch eich rheswm dros riportio o’r rhestr o resymau a roddir a dewiswch ‘Submit’.  

Riportio cynnwys

  • Dewch o hyd i’r cynnwys yr hoffech ei riportio a dewiswch eicon y 3 smotyn.
  • Dewiswch ‘Report post/photo’.
  • Dewiswch y rheswm dros riportio.
  • Dewiswch Done i orffen y riportio.

Riportio neu guddio sylw

  • Ewch at y sylw yr hoffech ei riportio a dewiswch eicon y 3 smotyn.
  • Dewiswch ‘Report comment’ neu ‘Hide comment’, fel y bo’n briodol.
  • Dewiswch eich rheswm dros riportio o’r opsiynau sydd wedi’u rhestru a dewiswch ‘Submit’.  

Blocio defnyddiwr

  • Ewch i broffil y cyfrif yr hoffech ei flocio.
  • Dewiswch eicon y 3 smotyn o dan y llun clawr a dewiswch ‘Block’.
  • Dewiswch ‘Confirm’ i’w gyflwyno.