English

Mae newyddion ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol yn rhoi mynediad rhwydd inni at wybodaeth a chysylltiadau sydyn. Fodd bynnag, mae'r rhain yn aml yn fannau heb eu rheoleiddio lle mae gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn gallu:

  • lledaenu'n gyflym
  • achosi niwed mawr

Camwybodaeth yw'r enw ar hyn.

Mae llythrennedd yn y cyfryngau yn chwarae rhan hanfodol o ran gwella gallu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol. Mae'n eu gwneud yn fwy gwybodus a chraff o ran eu defnydd o'r newyddion a sylwi ar gamwybodaeth.

Mae camwybodaeth wedi'i dylunio i gael ei chredu ac nid yw bob amser yn hawdd gwahaniaethu. Mae gwahanol dermau a ddefnyddir i ddisgrifio gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.

Camwybodaeth

Mae camwybodaeth yn wybodaeth anwir neu anghywir. Gall fod ar ffurf:

  • postiad ar y cyfryngau cymdeithasol
  • llun go iawn neu wedi'i olygu
  • clip fideo
  • memyn (meme)
  • stori newyddion

Gall camwybodaeth gael ei rhannu gan rywun heb iddyn nhw sylweddoli bod yr wybodaeth yn anwir neu'n anghywir.

Twyllwybodaeth

Mae twyllwybodaeth yn debyg i gamwybodaeth ond mae'n cael ei chreu'n fwriadol er mwyn:

  • twyllo
  • camarwain
  • dylanwadu

Gallai hyn fod at ddibenion personol, gwleidyddol neu economaidd. Gall twyllwybodaeth fygwth ein gwerthoedd a'n hegwyddorion gan danseilio ein:

  • diogelwch
  • diogeledd
  • cymunedau
  • ymddiriedaeth

Defnyddir 'newyddion ffug' i ddisgrifio cynnwys anghywir neu gamarweiniol sy'n aml yn gynyrfiadol neu'n cyffwrdd â'r teimladau. Gall gynnwys camwybodaeth, twyllwybodaeth neu'r ddau fath.

Abwyd clicio

Cynnwys yw abwyd clicio sydd wedi'i ddylunio i ddenu eich sylw a'ch annog i glicio ar ddolen sy'n mynd â chi i gynnwys ar-lein arall, er enghraifft:

  • erthygl
  • delwedd
  • fideo

Yn hytrach na chyflwyno ffeithiau gwrthrychol, mae abwyd clicio yn tynnu ar eich emosiynau a'ch chwilfrydedd.

Ffugiadau dwfn

Mae 'ffugiad dwfn' yn cyfeirio at lun, fideo neu sain sydd wedi'i newid yn ddigidol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI). Gall ffugiadau dwfn dwyllo pobl drwy bortreadu rhywbeth na ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Gwybodaeth faleisus

Mae gwybodaeth faleisus yn gyfystyr â gwneud y canlynol yn fwriadol:

  • cyhoeddi gwybodaeth breifat er budd personol neu breifat
  • camddefnyddio cynnwys dilys

Nid yw'r wybodaeth hon yn wybodaeth anwir o ran natur, ond mae'n ymwneud â gwybodaeth a ledaenir i achosi niwed.

Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (AI cynhyrchiol)

Gall AI cynhyrchiol gynhyrchu yn gyflym gynnwys fel:

  • fideos ffugiad dwfn
  • delweddau ffugiad dwfn
  • sain ffugiad dwfn
  • gwybodaeth anwir

Mae hyn yn ei gwneud yn haws i actorion â bwriadau drwg gynhyrchu a lledaenu camwybodaeth fwy argyhoeddiadol ar raddfa fawr.

Cyfrifon bot

Mae cyfrifon bot ar y cyfryngau cymdeithasol yn broffiliau awtomataidd sydd wedi'u dylunio i ddynwared ymddygiad dynol. Mae'r cyfrifon hyn yn ymgysylltu â chynnwys, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol, trwy ei hoffi, ei rannu neu ei riportio.

Rhagfarn cadarnhau

Gall rhagfarn cadarnhau effeithio ar sut yr ydym yn dod o hyd i wybodaeth ac yn chwilio amdani. Efallai y byddwn yn chwilio am wybodaeth, yn dehongli gwybodaeth ac yn cofio gwybodaeth sy'n cyd-fynd â'n barn bresennol. Gall hyn arwain at ddealltwriaeth anghyflawn neu anghywir o faterion, digwyddiadau neu bynciau. Er enghraifft, pan fyddwn yn teimlo'n gryf am bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwn yn ei 'hoffi' neu'n ei rannu heb wirio a yw'n wir.

Algorithmau cyfryngau cymdeithasol

Mae algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn personoli ffrydiau i ddangos cynnwys i ddefnyddwyr y maen nhw’n debygol o ymgysylltu ag ef. Gall hyn arwain at siambrau adlais, neu swigod hidlydd, lle rydych chi'n fwy tebygol o weld cynnwys sy'n cyd-fynd â'ch safbwyntiau presennol.

Ystyriwch y ffynhonnell

Ystyriwch a yw'r wybodaeth yn dod o ffynhonnell gredadwy. Meddyliwch pwy greodd y cynnwys a beth allai eu cymhellion fod. Ystyriwch bwrpas yr wybodaeth. Gwiriwch enw'r parth neu'r URL, gall ymddangos yn anarferol neu'n debyg i wefan adnabyddus a dibynadwy.

Ystyriwch yr arddull

Mae camwybodaeth yn aml yn cael ei llunio mewn ffordd sy'n dal sylw ac yn annog pobl i ymgysylltu â hi. Gall y pennawd fod yn frawychus neu ennyn emosiwn. Ystyriwch a yw’r testun wedi'i ysgrifennu fel ffaith, barn neu barodi hyd yn oed. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr erthygl lawn, ac nid y pennawd yn unig.

Gwiriwch fwy nag un ffynhonnell

Edrychwch ar gywirdeb y stori trwy gymharu ei chynnwys â ffynonellau eraill. Os na allwch gadarnhau'r wybodaeth yn rhywle arall, ystyriwch a yw'n debygol o fod yn wir. Gofynnwch am ail farn.

Gwefannau gwirio ffeithiau

  • Mae Full Fact yn sefydliad gwirio ffeithiau annibynnol.
  • Mae Snopes yn wefan gwirio ffeithiau â'r nod o chwalu neu gadarnhau mythau trefol sydd wedi'u lledaenu'n eang.
  • Mae BBC Verify yn dwyn ynghyd arbenigwyr ym meysydd twyllwybodaeth, Open Source Intelligence (OSINT) a dilysu o bob rhan o'r BBC.
  • Mae FactCheck Channel 4 yn gwirio ffeithiau mewn areithiau, dadleuon ar y teledu, cyfweliadau yn y cyfryngau, erthyglau ar-lein, addewidion maniffesto a mwy.
  • Help a chefnogaeth

    Sut i roi gwybod am gynnwys ar-lein niweidiol a chael mynediad at linellau cymorth a gwasanaethau am ddim a chyfrinachol.