English

Mae arweinyddiaeth lwyddiannus yn meithrin diwylliant sy'n sicrhau bod cynnydd a lles y dysgwyr wrth wraidd gwaith yr ysgol. Mae'n sicrhau bod ansawdd y profiadau addysgu a dysgu yn helpu pob dysgwr i ffynnu, gwneud cynnydd a gwireddu pedwar diben y cwricwlwm.

Mae arweinwyr effeithiol yn sicrhau bod pob aelod o'r staff yn dilyn polisïau a strategaethau y cytunwyd arnynt mewn ffordd gyson sydd er budd pennaf yr holl ddysgwyr. Maent yn creu cysylltiadau cryf rhwng y cwricwlwm, addysgeg, addysgu a dysgu er mwyn helpu'r ysgol i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer y dysgwyr.

Mae arweinyddiaeth lwyddiannus yn meithrin diwylliant sy'n ysbrydoli'r staff i ddatblygu cystal ag y gallant. Mae arweinwyr effeithiol yn meithrin sgiliau arwain pobl eraill yn eu hysgol a thu hwnt.

Mae'r cwestiynau myfyrio a deialog yn y maes hwn wedi'u trefnu yn y categorïau canlynol.

  • Gweledigaeth strategol
  • Addysgeg
  • Dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithio
  • Systemau, polisïau a gweithdrefnau

    • Dylanwadu’n gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu er mwyn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd mewn perthynas â'r pedwar diben as'r egwyddorion cynnydd?
    • Defnyddio gwybodaeth asesu er mwyn helpu pob dysgwr i wneud y cynnydd y gallant ei wneud mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
    • Galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar eu dysgu a'u profiadau dysgu a datblygu eu heffeithiolrwydd fel dysgwyr?
    • Sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu ac addysgu cadarnhaol a chynhwysol?
    • Sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd gadarnhaol?
    • Adolygu ansawdd yr addysgu'n rheolaidd er mwyn nodi cryfderau a chyfleoedd i wella (unigolion, adrannau, ysgol gyfan)?

    • Meithrin diwylliant o ddysgu proffesiynol sy'n helpu'r ysgol i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
    • Defnyddio eu gwaith gwerthuso i lywio dysgu proffesiynol?
    • Defnyddio dysgu proffesiynol i wella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
    • Helpu'r staff i nodi beth yw eu hanghenion dysgu proffesiynol, a'u diwallu?
    • Datblygu potensial pobl eraill i arwain?
    • Annog pobl i ymgymryd â dysgu proffesiynol mewn perthynas ag addysgeg, yn yr ysgol a thu hwnt?
    • Gwerthuso effaith eu trefniadau dysgu proffesiynol?
    • Hybu a defnyddio arloesedd er mwyn gwella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
    • Annog arloesedd, ei hwyluso, cymryd rhan ynddo a'i werthuso?
    • Herio neu wrthod newidiadau a datblygiadau diangen?
    • Cydweithio, ac annog eraill i gydweithio, er mwyn gwella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
    • Meithrin diwylliant o ddysgu cydweithredol a chyd-barch yn yr ysgol a thu hwnt?

    • Cefnogi lles pob aelod o'r staff?
    • Sicrhau bod gan y staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith yn effeithiol? (ychwanegwch haen fanwl yma o amgylch effaith gwariant ar ganlyniadau, trafod gwahanol fathau o adnoddau - corfforol, dynol ac ati)
    • Defnyddio adnoddau i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?

    • Sefydlu a defnyddio systemau, polisïau a gweithdrefnau i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
    • Sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau statudol?
    • Sefydlu a dilyn prosesau gwerthuso a gwella?
    • Cynnwys rhanddeiliaid
    • Adolygu eu heffeithiolrwydd eu hunain yn rheolaidd
    • Defnyddio'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth er mwyn helpu'r gweithlu i berfformio'n effeithiol?