Canllawiau gwella ysgolion
Mae’r canllawiau hyn yn nodi ein dull o wella ysgolion.
Cyflwyniad
Mae'r canllawiau gwella ysgolion yn cael eu diweddaru i egluro'r disgwyliadau i bob rhanddeiliad yn y system addysg yn dilyn cyhoeddi'r ‘Adolygiad o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru a chyflwyno trefniadau i wella ysgolion’ (‘Adolygiad’). Mae'r ddogfen hon yn seiliedig ar yr amcanion polisi y cytunwyd arnynt fel rhan o'r Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion i gyflwyno canfyddiadau'r adolygiad.
Rydym yn cyhoeddi’r canllawiau gwella ysgolion ar sail anstatudol. Rydym yn disgwyl i ysgolion, awdurdodau lleol, Estyn ac awdurdodau esgobaethol roi’r dulliau gwella ysgolion a nodir yn y canllawiau hyn ar waith. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn adolygu’r cynnydd, gan gynnwys ar ôl i’r adolygiad o gyrff llywodraethu ddod i ben, gyda’r nod o droi’r canllawiau hyn yn rhai statudol.
Mae'r canllawiau anstatudol hyn yn helpu ysgolion a chyrff llywodraethu i wella safonau addysgol ledled Cymru, yn unol ag adran 10 o Ddeddf Addysg 1996.
Anelir y canllawiau at:
- benaethiaid
- cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
- unedau cyfeirio disgyblion
- awdurdodau lleol
- awdurdodau esgobaethol
- Estyn
Drwy'r canllawiau, mae'r gair ‘ysgolion’ yn cyfeirio at ysgolion, ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.
Wrth ddweud ‘dylai,’ rydym yn cynnig cyngor neu arferion gorau.
Wrth ddweud ‘rhaid,’ rydym yn cyfeirio at rywbeth sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â'r holl ofynion cyfreithiol ac ni ddylid eu defnyddio fel cyngor cyfreithiol.
Nodau'r canllawiau hyn
Cyflwynir y canllawiau hyn yn lle Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd 2022.
Mae'n rhoi eglurder i awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion a chyrff llywodraethu drwy wneud y canlynol:
- pennu'r diwylliant, yr ymddygiadau, a'r arferion y mae angen i ysgolion eu mabwysiadu fel sefydliadau sy'n dysgu i godi safonau addysgol
- helpu awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer eu system gwella ysgolion lleol, a'i datblygu. Dylai hyn ddigwydd mewn partneriaeth â'u hysgolion, gan eu galluogi i adnabod a chefnogi eu hysgolion yn dda, a chyflawni eu dyletswyddau statudol
- hyrwyddo cydweithio pwrpasol i godi safonau addysgol a gwella cynnydd, profiad a deilliannau dysgwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau clir mewn perthynas â gwella ac atebolrwydd
Gweledigaeth ac egwyddorion: dull cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr o wella ysgolion
Rydym am i bob dysgwr yng Nghymru wireddu ei botensial yn llawn mewn system addysg gynhwysol sy'n gwneud y canlynol:
gwerthfawrogi ei daith unigol o 3 i 16 oed a thu hwnt
yn ei helpu i ddatblygu tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
Ein gweledigaeth yw datblygu cymunedau gwella lleol o ysgolion ym mhob rhan o Gymru lle mae arweinwyr ysgolion a staff ysgolion yn gwneud y canlynol:
- yn perchnogi eu datblygiad eu hunain
- yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr eraill, ysgolion a'r awdurdod lleol
- yn cyfrannu at agenda wella leol a chenedlaethol a rennir
- yn perthyn i amgylchedd agored a chynhwysol sy'n cefnogi ac yn galluogi pob ysgol i wella
- yn canolbwyntio ar wella deilliannau addysgol pobl ifanc yn barhaus
- yn meddu ar ddiben moesol a rennir i sicrhau cynnydd pob dysgwr mewn ardal leol
Pam mae cydweithio yn bwysig
Mae llawer o'r heriau o ran gwella ysgolion yn gyffredin, ac maent yn rhy gymhleth i'w datrys fesul ysgol. Gall cydweithio pwrpasol wneud y canlynol:
- chwalu rhwystrau rhag dysgu
- gwella cynnydd a deilliannau pob dysgwr
- galluogi ysgolion i fanteisio ar arbenigedd ehangach, gan gynnwys gweithio gyda nifer o asiantaethau
- galluogi ymarferwyr i fyfyrio'n ddyfnach ar eu darpariaeth eu hunain a chynnal gwelliannau dros amser. Mae hyn yn cynnwys bod yn agored am yr hyn nad yw'n gweithio a defnyddio gwybodaeth ar y cyd i feithrin dealltwriaeth well o heriau sylfaenol a mynd i'r afael â nhw, yn unol ag ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu
- meithrin diwylliant o ymddiriedaeth a datblygiad parhaus, gan sicrhau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr
Pum egwyddor gwella ysgolion
Mae'r 5 egwyddor canlynol yn sail i'r trefniadau gwella ysgolion newydd.
1. Diwylliant o gydgyfrifoldeb am godi safonau ar gyfer pob dysgwr
Mae gwella cyfranogiad, cynnydd a deilliannau pob dysgwr yn ymdrech ar y cyd. Er y bydd arweinwyr a chyrff llywodraethu ysgolion yn parhau i fod yn atebol am eu hysgolion eu hunain, dylent hefyd deimlo cydgyfrifoldeb am gynnydd dysgwyr ym mhob rhan o'r system ehangach.
Dylai ysgolion, mewn partneriaeth â'u hawdurdod lleol, weithredu er budd pennaf pob dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16 a thu hwnt. Dylent gydweithio fel sefydliadau sy'n dysgu i greu diwylliant o ddisgwyliadau uchel. Dylai pob aelod o staff a rhanddeiliad ddeall a chroesawu hyn.
2. Safbwyntiau allanol pwrpasol o fewn diwylliant dysgu cynhwysol ac agored
Dylai ysgolion alluogi'r gweithlu i gydweithio mewn ffordd sy'n dangos parch at bawb, gan groesawu craffu gan gymheiriaid, arbenigedd allanol a her, er mwyn cynnig profiadau dysgu cynhwysol o ansawdd uchel i bawb.
Mae hunanwerthuso cadarn, wedi'i ategu gan safbwyntiau allanol dibynadwy, yn helpu ysgolion i nodi blaenoriaethau o ran gwella, anghenion dysgu proffesiynol, a meysydd y dylid ymchwilio iddynt ymhellach. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gyfrannu at y diwylliant agored hwn drwy:
- fuddsoddi mewn cyfleoedd cydweithio rheolaidd a phwrpasol i gymheiriaid er mwyn ennyn ymddiriedaeth ac ymagwedd agored
- ymwneud ag ymarfer effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- rhannu tystiolaeth ansoddol a meintiol o'u teithiau gwella
- cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol gyda chymheiriaid a phartneriaid awdurdodau lleol er mwyn atgyfnerthu arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu
Mae hyn yn rhoi mwy o berchnogaeth i ymarferwyr ar bob lefel dros eu datblygiad. Mae'n seiliedig ar bedair thema drawslinol sefydliadau sy'n dysgu, sef ymddiriedaeth, amser, technoleg, a meddwl ar y cyd
3. Ffocws ar weithgarwch sy'n gwella cyfleoedd dysgu: sicrhau datrysiadau ar y cyd hirdymor i fynd i'r afael â heriau lleol
Mae angen cydweithio hirdymor er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy. Dylai ysgolion fynd i'r afael â rhwystrau rhag dysgu yn gynnar ac ar y cyd. Bydd hyn yn eu galluogi i ddatblygu datrysiadau a rennir sy'n adlewyrchu anghenion eu cyd-destun lleol. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl allweddol wrth hwyluso'r gwaith hwn drwy wneud y canlynol:
- creu cyfleoedd i ysgolion ym mhob sector gydweithio ar flaenoriaethau a rennir
- datblygu system addysg gynhwysol ar gyfer y cyfnod 3 i 16 a thu hwnt
4. Meithrin capasiti ar gyfer gwella o fewn y system ysgolion
Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol gydweithio i feithrin capasiti, sgiliau ac arbenigedd o fewn y system ysgolion i gefnogi ac ymateb i anghenion amrywiol pob darparwr. Dylid manteisio ar arbenigedd o bob sector (ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion pob oed, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol) i ddatblygu system dysgu wydn a chynhwysol.
Dylai awdurdodau lleol hefyd gydweithio â'i gilydd i nodi heriau cyffredin a rhannu datrysiadau, anghenion gwella, ac adnoddau, yn ogystal â dysgu oddi wrth ei gilydd yn barhaus. Bydd hyn hefyd yn atgyfnerthu'r system gyfan.
5. Eglurder a chydlyniant rhwng partneriaid dan arweinyddiaeth genedlaethol
Mae'n hanfodol bod partneriaid yn cymryd perchnogaeth dros eu rolau, a hefyd yn deall eu cyfrifoldebau'n glir.
Ar lefel genedlaethol, bydd Llywodraeth Cymru a Dysgu (y corff arwain a dysgu proffesiynol) yn gwneud y canlynol:
- nodi disgwyliadau clir ar draws y system addysg
- cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol cyson o ansawdd uchel mewn meysydd allweddol
- gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i gysylltu blaenoriaethau cenedlaethol ag anghenion lleol
Bydd ysgolion ac awdurdodau lleol yn gwneud y canlynol:
- cydweithio i godi safonau
- defnyddio eu hymreolaeth i ddatblygu cymunedau gwella lleol cryf
- cyfrannu at y nod cenedlaethol o wella deilliannau pob dysgwr ledled Cymru
- rhannu blaenoriaethau a phryderon sy'n dod i'r amlwg er mwyn galluogi'r system i ymateb i anghenion sy'n dod i'r amlwg
Model gwella ysgolion: ymdrech ar y cyd i wella safonau addysg
Crynodeb o'n model gwella ysgolion
Mae gwella addysg yn gyfrifoldeb a rennir. Mae ein model gwella yn helpu ysgolion i arwain eu gwelliant eu hunain, gyda chymorth gan eraill ym mhob rhan o'r system.
1. Dylai ysgolion arwain eu gwelliant eu hunain drwy hunanwerthuso a chynllunio'n rheolaidd.
Dylai hyn fod yn gylch gwella parhaus yn hytrach na digwyddiad untro. Mae'r hyn yn helpu ysgolion i wneud y canlynol:
- datblygu diwylliant o ddysgu'n barhaus
- addasu eu dulliau gweithredu yng ngoleuni eu gwerthusiadau
Dylai'r broses hon gael ei hategu gan safbwyntiau allanol, a ddarperir gan ysgolion eraill mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol.
2. Dylai ysgolion fod yn rhan o:
- fodel cydweithredol fertigol (3 i 16 oed)
- model cydweithredol llorweddol (er enghraifft, uwchradd i uwchradd neu arbennig i arbennig)
Dylai'r cydberthnasau cydweithredol hyn helpu ysgolion i wella drwy ddarparu capasiti ac arbenigedd ychwanegol i gefnogi taith gwella pob ysgol mewn ffordd gynaliadwy.
3. Bydd ysgolion yn defnyddio eu cynllun datblygu ysgol (CDY) i nodi cynllun strategol parhaus clir ar gyfer gwella. Mae hyn yn cynnwys:
- nodi blaenoriaethau allweddol
- cynllunio cyfleoedd dysgu proffesiynol i'r staff
Bydd ysgolion hefyd yn cynllunio gwelliannau ar draws eu partneriaethau cydweithredol, gan fynd ati ar y cyd i geisio mynd i'r afael â materion cyffredin. Drwy gynllunio gyda'i gilydd, gall ysgolion atgyfnerthu eu hymdrechion gwella a gwneud defnydd gwell o arbenigedd ar y cyd.
4. Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r model gwella cydweithredol i wneud y canlynol:
- meithrin dealltwriaeth wirioneddol o anghenion gwella lleol
- deall capasiti ysgolion i wella
- darparu cymorth wedi'i deilwra pan fo angen
- datblygu system dysgu wydn a chynaliadwy
Dylai awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â'i gilydd i wneud y canlynol:
- gwella eu prosesau hunanwerthuso eu hunain
- rhannu blaenoriaethau gwella
- rhannu capasiti ysgolion mewn ffordd systemig
Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio gwybodaeth o'u gwaith gydag ysgolion ac awdurdodau lleol eraill i gefnogi eu prosesau cynllunio strategol eu hunain.
5. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system drwy wneud y canlynol:
- cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol cyson o ansawdd uchel ar gyfer meysydd â blaenoriaeth cenedlaethol drwy Dysgu
- cysoni anghenion lleol â blaenoriaethau cenedlaethol drwy Dîm Gwella Addysg Llywodraeth Cymru
- cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar berfformiad y system addysg yng Nghymru er mwyn sicrhau tryloywder a goruchwyliaeth
Rôl ysgolion unigol wrth ysgogi gwelliannau
Mae ysgolion yn chwarae rôl ganolog wrth ysgogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system addysg. Mae eu camau gweithredu, eu myfyrdodau, a'u penderfyniadau yn llywio profiadau a deilliannau dysgwyr yn uniongyrchol.
Mae'r adran hon yn amlinellu'r ffordd y gall ysgolion gymryd rhan mewn gwerthusiad pwrpasol i gefnogi gwelliannau parhaus.
Bydd arweinwyr ysgolion a'u cyrff llywodraethu yn atebol am y canlynol o hyd:
- gwella dysgu yn eu hysgol eu hunain
- creu amgylchedd ethos cynhwysol mewn ysgolion sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr
Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 (‘y Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Ysgolion’) yn nodi 2 flaenoriaeth genedlaethol gyffredinol a ddylai fod yn sail i bob gweithgaredd gwella, sef:
- gwella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu'n cael ei gefnogi gan amrywiaeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad
- lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr
Mae cysylltiad rhwng y blaenoriaethau hyn, a dylid mynd i'r afael â nhw ar y cyd ar draws y system addysg. Ar lefel yr ysgol, dylai hunanwerthusiad:
- fod yn fwriadol ac yn ddiagnostig
- osgoi bod yn ymarfer cydymffurfio
- canolbwyntio ar ddeall i ba raddau y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd
- nodi'r hyn y mae angen ei newid er mwyn gwella deilliannau
Dylai ysgolion ddefnyddio'r cwestiynau canlynol fel man cychwyn ar gyfer eu gweithgareddau gwella.
- I ba raddau y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir yn yr egwyddorion cynnydd, gan eu cefnogi i ddatblygu tuag at y pedwar diben?
- I ba raddau y mae anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu er mwyn iddo allu gwneud y cynnydd gorau posibl, ac a oes gennym ddisgwyliadau uchel i bawb?
Dylai'r cwestiynau hyn helpu i lywio llinellau ymholi'r ysgol a phroses werthuso ddyfnach sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Meysydd ffocws ar gyfer hunanwerthuso
Er mwyn cefnogi proses fyfyrio ystyrlon, dylai ysgolion sicrhau bod eu gwerthusiad yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:
- gweledigaeth, arweinyddiaeth a gwelliant (ysgogi gwelliannau strategol drwy arweinyddiaeth gref a diwylliant dysgu cydweithredol)
- dysgu, y cwricwlwm ac addysgu (sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud y cynnydd mwyaf posibl drwy ddulliau addysgu a chynllunio'r cwricwlwm cynhwysol o ansawdd uchel)
- lles, tegwch a chynhwysiant (creu amgylcheddau cynhwysol diogel sy'n hybu lles ac yn dileu rhwystrau rhag dysgu)
Dylai prosesau hunanwerthuso ysgolion ystyried y themâu canlynol.
Gweledigaeth, gwerthuso a gwelliant
Pa mor effeithiol y mae arweinwyr yn gwneud y canlynol:
- pennu gweledigaeth strategol sy'n adlewyrchu gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgol?
- meithrin capasiti arwain cryf ym mhob rhan o'r ysgol a'r corff llywodraethu, er mwyn sicrhau gwelliannau ac atebolrwydd parhaus?
- datblygu diwylliant agored o gydweithio a dysgu proffesiynol effeithiol i bawb, gan gyfeirio'n bwrpasol at y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth?
- datblygu prosesau hunanwerthuso a gwella effeithiol i wella dysgu, addysgu, a lles disgyblion?
- cynllunio camau gweithredu strategol i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad, lles a chynnydd?
- sicrhau bod adnoddau ariannol ac adnoddau dynol yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithiol a moesegol i gefnogi gwelliant?
Dysgu, y cwricwlwm ac addysgu
Pa mor effeithiol y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol:
- sicrhau cynnydd ystyrlon i bob dysgwr, ac yn benodol y rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag dysgu?
- sicrhau cynnydd dysgwyr ar hyd continwwm Cymraeg, gan gynnwys mewn lleoliadau ysgol nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg?
- sicrhau addysgu o ansawdd uchel drwy ymarfer ymatebol sy'n seiliedig ar asesu, sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr?
- datblygu cwricwlwm cynhwysol ar y cyd, yn unol â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, gan hyrwyddo amrywiaeth eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau?
- gweithredu fel ysgol fro sy'n meithrin partneriaethau cadarnhaol i gyfoethogi'r dysgu a chefnogi cynhwysiant?
- gwrando'n weithredol ar blant a phobl ifanc?
- datblygu capasiti a gallu'r gweithlu, wedi'i ategu gan fuddsoddiad mewn ymholi addysgegol a datblygiad proffesiynol parhaus i bawb?
Lles, tegwch a chynhwysiant
Pa mor dda y mae arweinwyr ac ymarferwyr yn gwneud y canlynol:
- sicrhau cynnydd o ran sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer lles meddyliol ac emosiynol?
- creu amgylchedd ysgol sy'n hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a gwrth-wahaniaethu drwy'r cwricwlwm a’r diwylliant?
- sefydlu trefniadau diogelu cadarn sydd wedi'u deall yn dda ac sy'n cael eu cymhwyso'n gyson a'u hadolygu'n rheolaidd?
- meithrin amgylcheddau dysgu cynhwysol sy'n sicrhau bod pob dysgwr yn cymryd rhan lawn, yn enwedig y rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag dysgu?
- sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr lwyddo?
- sicrhau bod rhwystrau rhag cyfranogiad neu ddysgu ystyrlon yn cael eu nodi ac yr eir i'r afael â nhw?
Hunanwerthuso fel proses
Mae adran ‘Y broses wella mewn ysgolion’ yn amlinellu'r camau y gall ysgolion eu cymryd i'w helpu i ddatblygu'n barhaus. Bwriedir i'r broses hon gael ei harchwilio drwy bartneriaethau cydweithredol. Drwy geisio barn, cymorth a her allanol, gall ysgolion wella'r ffordd maent yn myfyrio ar eu hymarfer eu hunain. Mae hyn yn eu galluogi i hunanwerthuso'n fwy cywir ac yn arwain at wellant cynaliadwy.
Dylai ysgolion driongli amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys arsylwadau, llais y dysgwyr, data asesiadau, a gwybodaeth gyd-destunol i lywio eu gwerthusiadau a'u blaenoriaethau gwella. Ni ddylai unrhyw ysgol ymgymryd â'r gwaith hwn ar ei phen ei hun. Er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a disgwyliadau ar gyfer dysgu, mae angen cyfleoedd i gynnal deialog broffesiynol, myfyrio ac ymholi, yn yr ysgol a thu hwnt. Mae gwaith ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu yn cefnogi'r dull gweithredu hwn yn llawn. Drwy weithio'n unol â dimensiynau'r model ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu, gellir rhoi'r ffocws sydd ei angen i ddeialog broffesiynol.
Dylai arsylwadau ar ddysgu a chynnydd dysgwyr ym mhob rhan o'r gweithlu:
- ganolbwyntio ar y dysgwr a'i brofiad
- gael eu cynnal fel rhan o ddiwylliant cefnogol ac agored sy'n annog myfyrdod a gwelliant
Mae'r arsylwadau hyn yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn dilyn proses o sylwi, dadansoddi ac ymateb.
- Sylwi ar yr hyn sy'n digwydd yn yr amgylchedd dysgu, nodi patrymau o ran diddordeb, cynnydd neu les.
- Dadansoddi'r dystiolaeth er mwyn deall yr hyn mae'n ei ddangos am addysgu a dysgu, yn aml drwy ddeialog broffesiynol a chydweithio.
- Ymateb drwy gymryd camau ar sail gwybodaeth i wella deilliannau dysgwyr.
Mae'r math hwn o dystiolaeth fyfyriol uniongyrchol yn rhan hanfodol o'r cylch gwella ysgolion. Mae'n helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n seiliedig ar brofiadau go iawn dysgwyr ac yn cynnwys yr holl staff a rhanddeiliaid ehangach.
Hunanwerthuso a defnyddio data a gwybodaeth feintiol
Mae data a gwybodaeth feintiol yn hanfodol er mwyn gwella ysgolion, a dylid eu cydbwyso â thystiolaeth ansoddol fel arsylwadau ar ddysgu ac adborth gan ddysgwyr.
Mae'r defnydd mwyaf effeithiol o ddata ansoddol yn gwneud y canlynol:
- yn canolbwyntio ar ddeall cynnydd a lles dysgwyr, gan gynnwys unrhyw rwystrau rhag y rhain
- yn darparu dadansoddiad eang, yn hytrach na dibynnu ar un set ‘gul’ o ddata
- yn cydnabod cyd-destun yr ysgol
- ochr yn ochr â thystiolaeth arall, yn gwerthuso cynnydd a lles dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr
- yn seiliedig ar asesu dibynadwy a chywir, ymholi sy'n canolbwyntio ar y dysgwr a barn broffesiynol
- yn llywio gwelliannau o ran arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu
Dylai asesiadau dysgwyr greu darlun llawn o bob dysgwr a llywio'r camau nesaf. Dylid cynnwys nodi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), y gall fod angen darpariaeth ADY arnynt. Dylai ysgolion ddefnyddio dulliau asesu parhaus amrywiol a chydweithio ag eraill i sicrhau disgwyliadau uchel a chynnydd i bob dysgwr, yn enwedig y rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag dysgu.
Nid yw data asesu crynodol yn ddigon ynddynt eu hunain. Dylai data allanol, fel asesiadau personol a chanlyniadau cymwysterau fod yn gyd-destunol.
Dylent byth gael eu defnyddio at ddibenion atebolrwydd yn unig
Dylai asesiadau:
- lywio'r dysgu, nid bodloni gofynion allanol
- gwneud mwy na diwallu anghenion canfyddedig cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol neu Estyn
Mae pob partner yn gyfrifol am sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu defnyddio a'u rhannu'n briodol ac yn foesegol i gefnogi gwelliannau, a hynny mewn diwylliant dysgu agored a dibynadwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’.
Hunanwerthuso yn arwain at welliannau
Er mwyn sicrhau bod gwaith gwerthuso yn arwain at newid ystyrlon, dylai fod cysylltiad clir rhwng y canlynol bob amser:
- canfyddiadau hunanwerthusiad diagnostig cadarn
- y blaenoriaethau penodol ar gyfer gwella a cherrig milltir clir
- y profiad dysgu proffesiynol sy'n cefnogi cynnydd tuag at gyflawni'r blaenoriaethau hyn
Mae hyn yn sicrhau nad yw gwerthuso yn nod ynddo'i hun, ond yn sbardun ar gyfer gwelliant parhaus, sy'n canolbwyntio ar wella deilliannau dysgwyr.
Cydweithio fertigol a llorweddol
Fel rhan naturiol a pharhaus o'u prosesau hunanwerthuso a gwella, dylai pob ysgol gydweithio, mewn partneriaeth â'u hawdurdod lleol, i sicrhau newid cynaliadwy. Mae cydweithio fertigol a llorweddol yn cynnig ffyrdd ategol i ysgolion fod yn rhan o'r gwaith hwn, ac mae pob un yn cynnig manteision rhyng-gysylltiedig. Mae cydweithio i alluogi deialog broffesiynol ar lefel fertigol a llorweddol hefyd yn galluogi ysgolion i feithrin a chynnal dealltwriaeth a rennir o gynnydd, yn unol â'r Cyfarwyddyd o dan Adran 57 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Cydweithio fertigol
Er mwyn gwella cyfranogiad, cynnydd a deilliannau pob dysgwr, mae angen dull addysgu cydlynol a chysylltiedig. O 3 i 16 oed a thu hwnt, dylai ysgolion gydweithio ar draws:
- dysgu sylfaen
- cynradd
- uwchradd
- ysgolion arbennig
- unedau cyfeirio disgyblion
Bydd hyn yn sicrhau taith dysgu ddi-dor, cynhwysol o ansawdd uchel i bob dysgwr. Mae hyn yn cynnwys datblygu datrysiadau hirdymor ar y cyd i fynd i'r afael â heriau lleol a dileu rhwystrau rhag dysgu ar y cam cynharaf posibl.
Mae gweithio ar draws y continwwm 3 i 16 yn hanfodol i sicrhau tegwch a rhagoriaeth. Mae'n galluogi ysgolion i gysoni cwricwlwm, addysgeg ac arferion asesu, gan sicrhau bod dysgwyr yn gwneud y canlynol:
- adeiladu ar ddysgu blaenorol
- cynnal momentwm
- cael eu cefnogi'n dda drwy gyfnodau pontio allweddol
Mae'n golygu bod modd meithrin dealltwriaeth a rennir o addysgu cynhwysol a chynnydd, yn ogystal â disgwyliadau uchel ar gyfer dysgu ar draws y continwwm 3 i 16. Mae hyn y arbennig o bwysig i ddysgwyr a all wynebu rhwystrau rhag dysgu neu y mae risg y byddant yn ymddieithrio.
Gall ysgolion gefnogi gwelliant cynaliadwy ar draws cyfnodau drwy ddatblygu a rhannu'r canlynol:
- capasiti arwain
- arbenigedd
- gwybodaeth arbenigol
Drwy weithio gyda'i gilydd, gall ysgolion atgyfnerthu arferion arwain ac addysgu. Bydd hyn yn eu helpu i gefnogi dysgwyr ar eu taith addysgol.
Mae proses bontio dysgwyr ar hyd eu continwwm dysgu cyfan yn un o feysydd ffocws allweddol cydweithio fertigol. Er enghraifft, dylai cynlluniau pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd fod yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd drwy waith partneriaeth effeithiol parhaus. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr sy'n symud rhwng lleoliadau yn cael eu cefnogi:
- yn academaidd
- yn gymdeithasol
- yn emosiynol
(Gweler Gofyniad i Lunio Cynlluniau Pontio a Chanllawiau 2022.)
Cydweithio llorweddol
Dylai pob ysgol hefyd weithio gydag ysgolion eraill sydd â dysgwyr yn yr un ystod oedran, er enghraifft:
- ysgolion prif ffrwd yn gweithio gydag ysgolion arbennig
- ysgol uwchradd yn gweithio gydag ysgolion uwchradd eraill
Dylai'r cydweithio llorweddol hwn lywio a chefnogi eu prosesau gwella a hunanwerthuso yn uniongyrchol.
Mae'r canlynol yn ganolog i hyn:
- meithrin dealltwriaeth a rennir o gynnydd
- ymrwymiad i ddisgwyliadau uchel ar gyfer addysgu a dysgu
Drwy weithio'n llorweddol gydag ysgolion eraill, gall arweinwyr ac ymarferwyr wneud y canlynol:
- arsylwi ar arferion arwain, addysgu a dysgu mewn ysgolion eraill, a dysgu oddi wrthynt
- gwella ansawdd prosesau hunanfyfyrio a hunanwerthuso drwy ddeialog broffesiynol adeiladol a phenodol
- meithrin capasiti arwain ac arbenigedd mewn perthynas â meysydd sy'n ymwneud â phwnc neu gyfnod penodol
Dylai gweithio llorweddol fod:
- yn hyblyg, gan alluogi ysgolion i weithio gyda phartneriaid sy'n cefnogi eu taith gwella yn y ffordd orau posibl
- yn benodol ac yn gadarn, gan sicrhau effaith ddiriaethol ar arferion arwain, darpariaeth, cynnydd dysgwyr a deilliannau
Fel arfer, bydd y math hwn o gydweithio effeithiol ar ei orau pan fydd:
- wedi datblygu ac aeddfedu dros amser fel rhan o bartneriaethau tymor hwy
- ymddiriedaeth, tryloywder a gweledigaeth a rennir wedi'u hymgorffori.
Yn yr enghreifftiau mwyaf effeithiol, mae ysgolion sy'n gweithio yn y ffordd hon:
- wedi cytuno ar drosolwg strategol o'r ffordd y bydd cydweithio yn cefnogi pob sefydliad unigol
- yn cynllunio gyda'i gilydd
- yn cydgysylltu eu hymdrechion
- yn rhannu adnoddau
- yn gwerthuso effaith eu gwaith ar y cyd yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi gwelliant ym mhob un o'r ysgolion dan sylw
Cynllun Datblygu Ysgol (CDY)
Y CDY yw cynllun strategol yr ysgol ar gyfer gwella. Mae'n amlinellu sut y bydd yr ysgol yn hyrwyddo safonau uchel o gyrhaeddiad addysgol. Mae'n nodi'r canlynol gan y corff llywodraethu:
- blaenoriaethau gwella'r ysgol
- targedau ar gyfer gwella'r ysgol a'r deilliannau disgwyliedig ar gyfer yr ysgol
- cynllun ar gyfer gweithio gyda disgyblion, eu teuluoedd, a'r gymuned leol i gyflawni'r targedau hynny
- strategaeth ar gyfer gwella'r ysgol
- strategaeth dysgu proffesiynol i'r staff ynghyd â dealltwriaeth o'r effaith ddisgwyliedig
- datganiad yn nodi i ba raddau y cyflawnwyd y targedau blaenorol
Rhaid i'r CDY nodi'r canlynol:
- sut y bydd yr ysgol yn cyflawni ei blaenoriaethau
- sut y bydd yr ysgol yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddi, gan gynnwys cyllid
- sut mae'r ysgol yn bwriadu datblygu ei staff (gan gynnwys staff dros dro yn yr ysgol) i gyflawni ei blaenoriaethau
- sut y bydd diwrnodau HMS (diwrnodau hyfforddiant i athrawon) yn helpu'r ysgol i wella
Bydd nodi'r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o amser HMS i gefnogi gwelliannau o ran blaenoriaethau'r ysgol yn rhan naturiol o'r broses gynllunio hon. Ystyr amser HMS yw diwrnodau pan fydd athrawon yn yr ysgol ond na fydd yn ofynnol iddynt addysgu plant. Yn lle hynny, defnyddir y diwrnodau hyn i ddarparu hyfforddiant i athrawon.
Dylai'r cynllun wneud y canlynol:
- bod yn seiliedig ar waith myfyrio deialog a hunanwerthusiad gonest parhaus yn unol â'r model cydweithredol a ddisgrifir uchod
- cynnwys amcanion byrdymor a thymor hwy
- canolbwyntio ar nifer hydrin o flaenoriaethau gwella penodol sydd â'r nod o sicrhau gwelliant cynaliadwy
Er y dylai'r CDY gwmpasu cyfnod o 3 blynedd, rhaid iddo roi digon o fanylion ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol ac amlinellu blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer blwyddyn 2 a blwyddyn 3. Bydd rhai blaenoriaethau yn cael eu cyflawni mewn blwyddyn, ac mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt yn cael eu cyflawni drwy ddull tymor hwy.
Yn bwysig, ni ddylai'r CDY annog diwylliant o symud ymlaen i'r fenter nesaf. Mae cynnal gwelliant yn aml yn fwy heriol na'i gyflawni. Dylai ysgolion wneud y canlynol:
- defnyddio gwerthusiadau parhaus drwy broses strwythuredig o rannu gwybodaeth er mwyn deall a yw newidiadau yn cael yr effaith fwriadedig
- bod yn barod i oedi, myfyrio, ac addasu pan na fydd pethau'n gweithio
Mae diwylliant o fod yn agored lle mae heriau'n cael eu cydnabod a'u harchwilio yn allweddol i sicrhau gwelliant ystyrlon parhaus.
Dylai ysgolion wneud y canlynol:
- nodi'r meysydd lle mae angen cymorth allanol neu gyfleoedd dysgu proffesiynol arnynt i sicrhau gwelliannau
- ystyried sut y gall eu partneriaethau cydweithredol ddiwallu'r anghenion hyn
- gweithio gydag ysgolion eraill a'r awdurdod lleol lle bo angen i drefnu cymorth pwrpasol
Mae'r CDY yn ddogfen ddynamig hyblyg y dylid ei hadolygu a'i diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu cynnydd yr ysgol, anghenion sy'n dod i'r amlwg, ac amgylchiadau sy'n newid. Rhaid iddi gael ei hadolygu'n barhaus yn ystod y flwyddyn ysgol, a dylai nodi deilliannau mesuradwy clir sy'n cael eu monitro'n rheolaidd fel rhan o brosesau hunanwerthuso parhaus.
Dylai fod modd cael gafael ar y CDY yn hawdd a dylai pob aelod o'r staff a chorff llywodraethu ei ddefnyddio fel pwynt cyfeirio. Nid oes angen iddo gynnwys mwy o fanylion na'r hyn sydd ei angen i gyflawni ei ddiben sylfaenol. Dylid mesur ansawdd y CDY yn ôl ei effaith ar wella yn hytrach na faint o fanylion sydd ynddo.
Yn benodol, rhaid i'r CDY gael ei adolygu a'i ddiwygio os oes angen:
- o leiaf bob blwyddyn a heb fod yn hwyrach na'r dyddiad y cafodd y CDY ei baratoi neu ei ddiwygio ddiwethaf
- ar ôl arolygiad gan Estyn o dan adran 28 o Ddeddf Addysg 2005
Unedau cyfeirio disgyblion a'r CDY
Mae hefyd yn ofynnol i unedau cyfeirio disgyblion a'u pwyllgorau rheoli baratoi a chynnal cynllun datblygu yn unol â'r Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Ysgolion (a gymhwysir at unedau cyfeirio disgyblion drwy rinwedd Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007). Er y gall strwythur a chyd-destun unedau cyfeirio disgyblion fod yn wahanol i ysgolion prif ffrwd, mae egwyddorion hunanwerthuso, cynllunio strategol, a gwelliant parhaus yn gymwys yn yr un modd.
Gellir gweld gofynion llawn CDY yn Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 fel y'u diwygiwyd gan reoliad 14 o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022.
Rôl awdurdodau lleol mewn system gwella ysgolion gydweithredol
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl hollbwysig wrth feithrin diwylliant agored sy'n canolbwyntio ar wella ym mhob rhan o'r system dysgu leol. Fel partneriaid annatod yn y seilwaith gwelliant cydweithredol, dylai awdurdodau lleol weithio ochr yn ochr ag ysgolion, gan ddysgu gyda nhw ac oddi wrthynt, i feithrin dealltwriaeth a rennir o gryfderau, heriau a blaenoriaethau.
Pan fydd awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwella cydweithredol, byddant:
- yn meithrin dealltwriaeth uniongyrchol o berfformiad ysgolion
- yn lleihau'r angen am ddogfennaeth atebolrwydd ychwanegol
- yn meithrin cydberthnasau cryfach ag ysgolion
Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i ddeall eu hysgolion yn well a'u cefnogi'n fwy effeithiol.
Bydd y model hwn yn galluogi awdurdodau lleol i wneud y canlynol:
- gwella ansawdd eu hunanwerthusiadau drwy ddefnyddio model cydweithredol i nodi blaenoriaethau ysgolion a rhwystrau rhag dysgu, gan eu galluogi i gynnig cymorth mwy cydnaws a chyfannol yn unol â'u blaenoriaethau corfforaethol
- meithrin dealltwriaeth ddofn o'r capasiti arwain, addysgu, lles a dysgu yn eu hysgolion er mwyn llywio gwaith cynllunio strategol a chymorth wedi'i dargedu
- dwyn blaenoriaethau gwella lleol ynghyd drwy weithio gydag ysgolion i nodi cryfderau a chapasiti i gefnogi eraill, gan helpu i ddatblygu system dysgu wydn a chynaliadwy
- manteisio ar arbenigedd o'r tu allan i'r ardal leol a chomisiynu cymorth rhwng ysgolion yn ôl yr angen
- dadansoddi a defnyddio amrywiaeth eang o ddata a gwybodaeth gan wasanaethau ehangach yr awdurdod lleol i gynllunio'n strategol a sicrhau bod ysgolion yn datblygu'n amgylcheddau dysgu cynhwysol a chymunedol sy'n ennyn diddordeb yr holl ddysgwyr a'u teuluoedd
Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r model gwelliant cydweithredol i ategu'r wybodaeth a geir o Gynlluniau Datblygu Ysgolion, gan eu galluogi i drefnu cymorth pwrpasol a meithrin capasiti ar gyfer gwella ym mhob rhan o'r system. Dylai rôl cynghorydd neu bartner gwella ysgolion awdurdod lleol ddatblygu i ganolbwyntio ar alluogi a hwyluso grwpiau ysgolion cydweithredol. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwella cydweithredol, bydd y cynghorwyr hyn yn helpu ysgolion i ddeall eu cryfderau a'u hanghenion a nodi'r blaenoriaethau cywir y mae angen eu gwella fwyaf. Byddant yn gwneud y canlynol:
- yn cydgysylltu eu hymdrechion
- yn cysylltu ysgolion â'r cymorth ehangach sydd ar gael drwy wasanaethau'r awdurdod lleol
Dylai awdurdodau lleol ddatblygu prosesau gwerthuso clir o fewn eu hawdurdod lleol eu hunain ac ar draws awdurdodau lleol eraill er mwyn deall effeithiolrwydd ac effaith y model cydweithredol ar ansawdd arweinyddiaeth, dysgu, addysgu a lles. Lle na fydd y cydweithio'n effeithiol, dylai awdurdodau lleol ymyrryd er mwyn hwyluso gwelliant.
Gall hyn gynnwys:
- cefnogi ysgolion i atgyfnerthu eu harferion cydweithredol
- darparu her a chymorth proffesiynol penodol
- uwchgyfeirio pryderon lle bo angen, gan gynnwys defnyddio pwerau statudol pan fydd ysgol yn peri pryder cyson neu'n methu â chymryd rhan ystyrlon mewn gweithgarwch gwella
Mae'r awdurdod lleol hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi unedau cyfeirio disgyblion a gweithio gyda'u pwyllgorau rheoli. Mae hyn yn cynnwys:
- cynllunio strategol
- goruchwylio
- sicrhau bod gan unedau cyfeirio disgyblion ddatganiad cwricwlwm clir
- sicrhau bod yr un cyfleoedd gwella cydweithredol ar gael i unedau cyfeirio disgyblion ag ysgolion prif ffrwd
Ceir rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion yn adran ‘Unedau cyfeirio disgyblion’.
Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ganddynt systemau gwybodaeth corfforaethol cadarn i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o'u hysgolion. O fewn diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, dylent rannu gwybodaeth a data perthnasol ag ysgolion er mwyn cefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella.
Ysgolion sy'n achosi pryder: cydgyfrifoldeb
Dylai amgylchedd gwella agored a chydweithredol sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, tryloywder a deialog broffesiynol alluogi awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â'u hysgolion, nodi materion yn gynnar ac atal ysgolion rhag cyrraedd pwynt lle maent yn ‘achosi pryder’ yn ffurfiol. Pan fydd y diwylliant hwn yn gweithio'n effeithiol, bydd ysgolion yn ymgysylltu'n effeithiol â'i gilydd a'r awdurdod lleol i oresgyn heriau, gan sicrhau bod cymorth penodol ar waith i'r rhai sy'n wynebu anawsterau difrifol.
Pan fydd ysgolion yn destun monitro ehangach gan yr awdurdod lleol, neu'n cael eu dosbarthu'n un o gategorïau Estyn (er enghraifft mesurau arbennig), bydd angen ymdrin â phob achos mewn modd cymesur a phenodol, a bydd angen i'r awdurdod lleol drefnu cymorth pwrpasol sy'n arwain at welliant cynaliadwy.
Dylid manteisio ar arbenigedd arwain a chymorth arbenigol ar draws partneriaethau cydweithredol ysgolion, a phartneriaid allanol lle y bo'n briodol, er mwyn sicrhau na chaiff yr un ysgol ei gadael ar ôl.
Pan na fydd cymorth cynnar a chydweithio yn arwain at welliant digonol, neu pan na fydd ysgol yn fodlon neu'n gallu ymgysylltu, bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol ystyried ei bwerau statudol.
Mae adran ‘Awdurdodau lleol’ yn nodi rhagor o wybodaeth am y fframwaith cyfreithiol ar gyfer ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder, gan gynnwys yr amgylchiadau pan fydd angen ymyrryd yn ffurfiol o bosibl er mwyn diogelu buddiannau dysgwyr.
Awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth
Dylai awdurdodau lleol sicrhau gwaith cydweithredol effeithiol ar draws eu hamrywiaeth o wasanaethau a gyda phartneriaid eraill, fel byrddau iechyd.
Dylent hefyd weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill i atgyfnerthu eu capasiti gwella a sicrhau bod ymdrechion yn seiliedig ar wybodaeth arbenigol allanol.
Drwy rannu gwybodaeth, mynd i'r afael â heriau cyffredin, a chefnogi ei gilydd, gall awdurdodau lleol wella eu gallu ar y cyd i ysgogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system. Mae hyn yn galluogi awdurdodau lleol i wneud y canlynol:
- gwella ansawdd prosesau hunanwerthuso ar lefel leol drwy ddefnyddio safbwyntiau mewnol ac allanol i atgyfnerthu a mireinio eu blaenoriaethau gwella lleol
- datblygu ymhellach fel sefydliadau sy'n dysgu, lle mae cymorth allanol a her adeiladol yn cyfrannu at welliannau o ran arweinyddiaeth, darpariaeth, a deilliannau a lles dysgwyr
- nodi a rhannu meysydd o gryfder ac ymarfer effeithiol ar lefel ysgol ac awdurdod lleol, gan ymestyn eu heffaith y tu hwnt i'w hardal ddaearyddol
- sicrhau capasiti cydweithredol i ysgolion y tu hwnt i ffiniau'r awdurdod lleol (bydd hyn yn arbennig o bwysig i ysgolion â nodweddion neu anghenion penodol fel ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion)
Llywodraeth Cymru: cymorth ar gyfer gwelliant system gyfan
Y Tîm Gwella Addysg
Mae'r tîm yn cefnogi deialog reolaidd rhwng awdurdodau lleol a sgyrsiau rheolaidd ag awdurdodau lleol a phartneriaethau cydweithredol lleol rhwng ysgolion. Bydd y ddeialog hon yn gwneud y canlynol:
- helpu i feithrin diwylliant o hunanwella a chysylltu blaenoriaethau cenedlaethol a lleol
- hwyluso'r broses o rannu gwersi a ddysgwyd ac enghreifftiau o ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion ledled Cymru
Bydd y Tîm Gwella Addysg yn gwneud y canlynol:
- ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac ysgolion yn rheolaidd ynglŷn â meysydd â blaenoriaeth
- cefnogi'r ddealltwriaeth genedlaethol o rwystrau lleol i welliant addysgol
- gweithio gyda phartneriaethau cenedlaethol
- rhannu gwybodaeth leol gyfunol yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru
Dysgu
Dysgu yw corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru. Bydd yn arwain y gwaith o gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol mewn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnig cymorth cyson o ansawdd uchel ar gyfer:
- llythrennedd a rhifedd
- cynllunio'r cwricwlwm
- lles
Bydd Dysgu hefyd yn cynnal rhaglenni newid hirdymor i gefnogi ADY a gwella'r broses o addysgu Cymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg.
Caiff cymorth cenedlaethol i gynghorwyr gwella ysgolion, a phartneriaid sy'n cefnogi gwelliannau yn y system, hefyd ei ddarparu.
Bydd y corff yn helpu i fodloni gofynion statudol (y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth a'r Cyfnod Sefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso) ac yn darparu cymorth i ymarferwyr, cynorthwywyr addysgu, athrawon, uwch-arweinwyr a phenaethiaid mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru ar hyd eu llwybrau gyrfa.
Esgobaethol
Mae awdurdodau esgobaethol yn cefnogi ysgolion â chymeriad crefyddol i sicrhau eu bod yn cynnal gwerthoedd a dysgeidiaeth yr eglwys.
Mae eu rôl yn cynnwys:
- cefnogi dysgu proffesiynol (er enghraifft lles, ysbrydolrwydd, y cwricwlwm)
- atgyfnerthu trefniadau arwain a llywodraethu, gan gynnwys penodi llywodraethwyr sefydledig lle y bo'n briodol
- helpu ysgolion i werthuso a gwella
- gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu i godi safonau
Atebolrwydd yn y system addysg
Mae'r system atebolrwydd yng Nghymru yn anelu at wneud y canlynol:
- hyrwyddo tegwch a chynhwysiant, gan gydnabod amgylchiadau unigryw pob ysgol a dysgwr
- sicrhau bod prosesau gwerthuso a gwella yn gweithio'n effeithiol
- cynnig rhwyd ddiogelwch ar gyfer gwella ysgolion, yn hytrach na sbarduno hynny
- cefnogi ac atgyfnerthu gweithgarwch gwella drwy nodi a mynd i'r afael â materion yn gynnar
Fel y nodwyd uchod, mae data a gwybodaeth yn chwarae rôl allweddol mewn prosesau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd. Fodd bynnag, er mwyn cefnogi gwelliannau gwirioneddol o ran dysgu, dylent fod yn briodol i'w defnyddio a chael eu defnyddio'n briodol. Dylai pob partner yn y system hyrwyddo dull gweithredu cytbwys, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth i wneud y canlynol:
- deall materion a ffactorau sylfaenol
- mynd i'r afael ag anghenion amrywiol ein dysgwyr a'n hysgolion
Ni ddylid byth ddibynnu ar ddata yn unig i wneud penderfyniadau am ysgolion neu ddysgwyr. Yn lle hynny, dylid defnyddio data fel rhan o sylfaen dystiolaeth wedi'i thriongli i wneud y canlynol:
- codi cwestiynau
- nodi cryfderau
- tynnu sylw at feysydd i'w gwella
Mae'r system hon yn cynnwys 3 prif lefel o atebolrwydd. Mae'r sefydliadau a'r strwythurau canlynol yn dwyn ysgolion ac awdurdodau lleol i gyfrif.
Atebolrwydd ysgolion unigol
- Penaethiaid
- Cyrff llywodraethu
- Awdurdodau lleol
- Estyn
Atebolrwydd awdurdod lleol
- Pwyllgor craffu'r awdurdod lleol
- Estyn
Atebolrwydd polisi cenedlaethol
- Llywodraeth Cymru: cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad y system addysg
- Y Senedd a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Atebolrwydd ysgolion unigol
Penaethiaid
Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 (‘Rheoliadau 2000’) yn nodi rolau penaethiaid a chyrff llywodraethu. Mae penaethiaid yng Nghymru yn chwarae rôl ganolog yn y system atebolrwydd a gwella ysgolion. Maent yn gyfrifol am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol a'r gwaith o'i rhedeg o ddydd i ddydd, ac am roi'r cyfeiriad strategol a bennir gan y corff llywodraethu ar waith. Mae hyn yn cynnwys llunio nodau, polisïau a thargedau gwella'r ysgol, y cytunir arnynt wedyn â'r corff llywodraethu.
Disgwylir iddynt wneud y canlynol:
- darparu diweddariadau clir a rheolaidd am gynnydd yr ysgol
- dangos sut mae eu harweinyddiaeth yn cefnogi cynnydd a deilliannau gwell i ddysgwyr
- cyflwyno adroddiadau i'r corff llywodraethu ar gynnydd yn erbyn targedau
Maent hefyd yn cyfrannu at atebolrwydd y system ehangach drwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol, arolygwyr a phartneriaid eraill, gan sicrhau bod gwaith eu hysgol yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ac yn cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system.
Cyrff llywodraethu
Mae Rheoliadau 2000 yn pennu mai cyrff llywodraethu ysgolion sy'n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol eu hysgol. Nhw sy'n penderfynu beth maent am i'r ysgol ei gyflawni ac yn gosod y fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol. Maent yn gyfrifol am y canlynol:
- gosod nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol
- llunio polisïau ar gyfer yr ysgol i gyflawni'r nodau ac amcanion
- pennu targedau ar gyfer cyflawni'r nodau ac amcanion
Yn ychwanegol at hynny, rhaid i'r corff llywodraethu wneud y canlynol:
- monitro a gwerthuso cynnydd yn yr ysgol tuag at gyflawni'r nodau ac amcanion a bennwyd, a bydd yn adolygu'r fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol yn rheolaidd yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw
- gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i'r pennaeth, hynny yw, bydd yn cefnogi'r pennaeth i gyflawni swyddogaethau'r swydd ac yn rhoi beirniadaeth adeiladol i'r pennaeth lle bo angen
Mae'r CDY, ynghyd â pholisïau'r corff llywodraethu y cytunwyd arnynt, yn ffurfio'r fframwaith strategol. Rhaid i'r corff llywodraethu gyflwyno adroddiad blynyddol i rieni a gofalwyr ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y fframwaith strategol.
O ran gwerthuso a gwella, dylai cyrff llywodraethu wneud y canlynol:
- sicrhau bod ysgolion yn cymryd rhan mewn trefniadau cydweithio fertigol a llorweddol pwrpasol gan ganolbwyntio ar wella arweinyddiaeth, dysgu, addysgu a chymorth lles
- galluogi arweinwyr ac ymarferwyr i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol fel rhan o drefniadau cydweithredol a, lle y bo'n briodol, cefnogi arweinwyr a staff yr ysgol i weithredu fel arweinwyr systemau lleol
- meithrin diwylliant cefnogol agored lle y caiff cymorth ei ddarparu, ei dderbyn a'i werthfawrogi
- cymeradwyo blaenoriaethau gwella a CDY yr ysgol, ac unrhyw gymorth a nodwyd
Fel y corff atebol, dylai cyrff llywodraethu wneud y canlynol:
- monitro'r broses o gyflawni'r CDY a gweithredu lle na chaiff cynnydd boddhaol ei wneud
- defnyddio'r CDY i lywio'r broses adolygu datblygiad proffesiynol
- sicrhau bod pob aelod o'r staff yn atebol am ei rôl wrth gyflawni gwelliant
- herio'r pennaeth a'i ddwyn i gyfrif am berfformiad ac effeithiolrwydd cyffredinol yr ysgol
Awdurdodau lleol
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl ddeuol yn y system ysgolion fel cynhalwyr ysgolion ac fel hyrwyddwyr safonau addysgol.
Mae awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau craidd i ysgolion, gan gynnwys:
- adnoddau dynol, cyllid, ystadau ac adeiladau
- derbyniadau ysgolion (mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, y corff llywodraethu sy'n cyflogi'r staff ac yn pennu'r meini prawf derbyn)
- trefniadaeth ysgolion (gan gynnwys cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg yn unol ag adran 84 o ‘Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013’, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac yn amlinellu bod yn rhaid i Gynllun o'r fath nodi'r ffordd y bydd yr awdurdod lleol yn gwella'r broses o gynllunio'r addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd safonau addysg cyfrwng Cymraeg a'r broses o addysgu Cymraeg yn ei ardal). Dros y blynyddoedd nesaf, bydd dyletswydd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ar awdurdodau lleol i baratoi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn trosglwyddo i Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025. Yn y cyfamser, bydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg cyfredol yn weithredol o hyd o dan Ddeddf 2103 a'r rheoliadau cysylltiedig a wnaed yn 2019
- presenoldeb, cynhwysiant a chymorth i bob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY
Safonau addysgol
Dylai ysgolion geisio cynnal safonau uchel. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gefnogi ysgolion a'u dwyn i gyfrif am hyn. Dylai awdurdodau gyflawni'r ddyletswydd hon drwy'r model gwella cydweithredol. Amlinellir y model o dan ‘Model gwella ysgolion: ymdrech ar y cyd i wella safonau addysg’. Dylai'r awdurdod lleol fod yn atebol am y canlynol:
- deall blaenoriaethau ysgolion
- hwyluso gwelliannau ar y cyd drwy seilwaith cydweithredol (gan fanteisio ar arbenigedd o'r tu allan i'r ardal leol lle bo angen)
- meithrin dealltwriaeth ddofn o ansawdd gofynnol arweinyddiaeth, dysgu, addysgu a chymorth lles
- deall capasiti ysgolion i wella
- cynnig cymorth cyfannol a gwerthuso ei effaith
- ymgysylltu ag ysgolion a sicrhau bod y dystiolaeth genedlaethol a chenedlaethol ddiweddaraf ar gael iddynt
Dylai awdurdodau lleol gynnal systemau gwella cadarn. Drwy'r systemau hyn, dylent feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o'u hysgolion. Pan fydd pryderon yn codi, mae'n bosibl y bydd angen i awdurdodau lleol weithio'n uniongyrchol gydag ysgolion unigol. Mewn achosion o'r fath, dylai deialog broffesiynol bennu pa dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen a sut y caiff ei rhannu. Dylai ysgolion sy'n cael cymorth uniongyrchol barhau i gymryd rhan weithredol yn eu partneriaethau cydweithredol.
Ysgolion sy'n achosi pryder
Mae ‘Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013’ yn nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig, sef ‘Ysgolion sy'n achosi pryder: canllawiau statudol i ysgolion ac awdurdodau lleol’. Mae'r canllawiau yn nodi'r gofynion deddfwriaethol a'r pwerau sydd ar gael i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder.
Mae'r canllawiau yn disgrifio'r broses ffurfiol a'r mathau amrywiol o ymyriadau sydd ar gael i awdurdodau a Gweinidogion Cymru pan fydd sail benodol dros ymyrryd. Pan fydd pŵer ymyrryd yn bodoli, yna gall awdurdodau lleol arfer un neu fwy o'r pwerau ymyrryd canlynol:
- pŵer i'w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydweithio
- pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol
- pŵer i sefydlu corff llywodraethu o aelodau gweithredol dros dro
- pŵer i atal yr hawl i gyllideb ddirprwyedig
- pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau
Rhaid i'r pwerau hyn gael eu defnyddio'n rhagweithiol ac yn gymesur. Rhaid iddynt sicrhau gwelliant cyflym a chynaliadwy pan fydd ysgolion yn tanberfformio neu pan na fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgarwch gwella.
Unedau cyfeirio disgyblion
Dylai awdurdodau lleol gydnabod rôl bwysig pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion a rhaid iddynt ddilyn y gofynion cyfreithiol i ddirprwyo cyfrifoldebau penodol iddynt, fel y nodir yn Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014.
Mae'r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys:
- rhedeg yr uned cyfeirio disgyblion
- ymdrin â chwynion am y cwricwlwm
Cynllunio strategol a goruchwylio
Gan weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, dylai'r pwyllgor rheoli bennu fframwaith strategol ar gyfer yr uned cyfeirio disgyblion. Dylai hyn gynnwys:
- nodau ac amcanion clir
- polisïau, targedau a blaenoriaethau perthnasol
- cynlluniau ar gyfer monitro ac adolygu cynnydd
- cadarnhau a yw'r polisïau, y targedau a'r blaenoriaethau yn cael eu cyflawni
Dylai aelodau'r pwyllgor gynnal hunanwerthusiad i asesu cynnydd a phenderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
Polisi cwricwlwm
Yn unol â Rheoliad 23 o Reoliadau 2014, rhaid i'r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a'r athro â chyfrifoldeb fynd ati ar y cyd i baratoi datganiad ysgrifenedig ar bolisi cwricwlwm yr uned cyfeirio disgyblion a'i adolygu'n rheolaidd. Mae canllawiau manylach ar rolau pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion ar gael yng nghanllawiau statudol 2014.
Arolygiadau Estyn o ysgolion
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau annibynnol, rheolaidd a chyson o ysgolion. Mae'r arolygiadau yn cynnig trosolwg clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ba mor dda y mae ysgolion yn perfformio a'r meysydd y mae angen eu gwella.
Dylai Estyn sicrhau bod ei fframwaith a'i threfniadau arolygu yn gyson â'r egwyddorion a'r disgwyliadau a nodir yn y canllawiau hyn.
O dan adran 28 o Ddeddf Addysg 2005, mae'n ofynnol i Estyn gynnal arolygiad craidd o ysgolion unigol. Rhaid iddi wneud hyn o leiaf unwaith mewn cylch 6 blynedd (Medi 2024 i Awst 2030). Yn ychwanegol at arolygiadau craidd, mae Estyn wedi cyflwyno ymweliadau interim i gefnogi darparwyr gyda'u prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau. Mae hyn yn golygu y bydd yn ymweld ag ysgolion o leiaf ddwywaith yn ystod y cylch presennol.
Atebolrwydd awdurdodau lleol
Pwyllgorau craffu
Mae pwyllgorau craffu mewn awdurdodau lleol yn goruchwylio gwaith yr awdurdodau lleol wrth gyflawni swyddogaethau statudol a darparu gwasanaethau ehangach. Gwneir gwaith craffu gan aelodau etholedig nad oes ganddynt swyddi gweithredol yn y cyngor. Dylai gwaith craffu effeithiol ategu gwelliannau a gwella atebolrwydd a thryloywder yn yr awdurdodau lleol.
Dylai pwyllgorau craffu wneud y canlynol:
- dwyn aelodau'r cabinet i gyfrif am ansawdd ac effaith gwasanaethau'r cyngor i gefnogi ysgolion
- craffu ar wasanaethau'r cyngor sy'n cefnogi ysgolion, yn hytrach na chraffu ar ysgolion drwy ddefnyddio eu trefniadau atebolrwydd
- monitro a chraffu ar y defnydd o bwerau statudol i gefnogi a gwella ysgolion sy'n achosi pryder
- ystyried effaith penderfyniadau i ad-drefnu ysgolion ar y broses o wella ysgolion
Arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol
Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn ymdrin â swyddogaethau addysg statudol yr awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997, sy'n nodi y gall Estyn, ar gais Gweinidogion Cymru, drefnu i unrhyw awdurdod lleol gael ei arolygu. Mae adran 38 wedi'i diwygio fel bod modd i'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil hefyd wneud cais am arolygiad pan fydd y ddarpariaeth addysg yn ymwneud â dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed. Ar adeg llunio'r canllawiau hyn, nid yw'r diwygiad hwnnw wedi dod i rym eto.
Bydd arolygiad o'r fath yn cynnwys adolygu'r ffordd mae'r awdurdod yn cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â darparu addysg i (a) unigolion o oedran ysgol gorfodol (p'un a ydynt yn yr ysgol neu fel arall) neu (b) unigolion o unrhyw oedran uwchlaw neu islaw'r oedran hwnnw sydd wedi'u cofrestru'n ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod.
Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r model gwella cydweithredol mewn ysgolion i wella safonau addysg. Dylai Estyn asesu effeithiolrwydd awdurdodau lleol yn hyn o beth drwy'r canlynol:
- arolygu awdurdodau lleol
- ymweliadau arolygwyr cyswllt awdurdodau lleol
- ymweliadau manylach
Caiff awdurdodau lleol hefyd eu dwyn i gyfrif drwy'r dulliau canlynol:
- craffu ar gynlluniau ad-drefnu ysgolion
- goruchwylio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
- mesur ansawdd trefniadau trochi yn y Gymraeg
- gwaith asesu risg a sicrwydd gydag Estyn, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
Dylai Estyn sicrhau bod ei fframwaith a'i threfniadau arolygu yn gyson â'r egwyddorion a'r disgwyliadau a nodir yn y canllawiau hyn.
Goruchwylio'r system ysgolion ar lefel genedlaethol
Llywodraeth Cymru sy'n bennaf cyfrifol am ddylunio'r system ysgolion yng Nghymru a'i rhoi ar waith. Un o'i phrif rolau yw cynllunio a llunio polisïau, drwy gydweithio a chyd-lunio ar sail tystiolaeth â phob haen o'r system. Mae hefyd yn gyfrifol am gefnogi'r fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd drwy ei gweithredoedd a'i hymddygiadau. Mae hyn yn cynnwys helpu i feithrin capasiti i gefnogi gwelliannau i'r system a bod yn glir ynglŷn ag atebolrwydd.
Er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth sy'n berthnasol i effeithiolrwydd y system addysg a'i pholisïau. Mae hyn yn cynnwys y canlynol.
Adroddiad blynyddol Estyn
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb a dadansoddiad Estyn o dystiolaeth arolygu o'r flwyddyn academaidd flaenorol. Mae'n nodi tueddiadau, cynnydd, a meysydd i'w datblygu yn y sectorau addysg, gan helpu i fonitro perfformiad cenedlaethol a llywio penderfyniadau polisi.
Adolygiadau thematig Estyn
Bob blwyddyn, mae Gweinidogion Cymru hefyd yn comisiynu Estyn i gynnal adolygiadau thematig neu arolygiadau ar bynciau penodol. Mae adroddiadau dilynol Estyn yn helpu i lywio gwaith datblygu polisi ac i fonitro cynnydd, drwy nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda, yn ogystal â nodi polisïau neu arferion nad ydynt o fudd i ddysgwyr nac yn cefnogi ansawdd darpariaeth addysgol.
PISA (Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr)
Mae PISA yn asesu gallu pobl ifanc 15 oed i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth mewn cyd-destun bywyd go iawn. Mae PISA wrthi'n newid o gylch 3 blynedd i gylch 4 blynedd. Mae PISA yn pwysleisio'r sgiliau swyddogaethol y mae myfyrwyr wedi'u meithrin wrth iddynt nesáu at ddiwedd addysg orfodol.
Mae'r dystiolaeth a gesglir drwy PISA yn ein helpu i ddeall i ba raddau y mae pobl ifanc yn barod i ateb heriau cymdeithas fodern. Mae'n rhoi gwybodaeth werthfawr i addysgwyr a llunwyr polisi, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, i wella deilliannau dysgu ac addysgu.
PIRLS a TIMSS
Bydd Cymru yn cymryd rhan mewn asesiadau llythrennedd, rhifedd a gwyddoniaeth rhyngwladol i ddysgwyr Blwyddyn 5 drwy gymryd rhan yn PIRLS (Astudiaeth Cynnydd mewn Llythrennedd Darllen Rhyngwladol) a TIMSS (Tueddiadau mewn Astudiaethau Mathemategol a Gwyddoniaeth). Drwy gymryd rhan yn y ddwy astudiaeth, bydd addysgwyr a llunwyr polisi yn meithrin gwybodaeth werthfawr am effeithiolrwydd ein system addysg i ddysgwyr iau i'w helpu i nodi meysydd i'w gwella.
Datganiadau ystadegau
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata ar ffurf pennawd ystadegol, datganiad neu fwletin, ynghyd â thablau cysylltiedig gan StatsCymru, i gyfrif am amrywiaeth eang o anghenion defnyddwyr. Ymysg y datganiadau ystadegol swyddogol mae:
- cyfrifiad ysgolion
- cyfrifiad addysg heblaw yn yr ysgol
- cyfrifiad blynyddol o'r gweithlu ysgolion
- presenoldeb
- gwaharddiadau
- canlyniadau TGAU a Safon Uwch
Mae Gweinidogion Cymru yn atebol i'r Senedd a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am berfformiad cyffredinol y system ysgolion. Mae'r craffu democrataidd hwn yn gwella tryloywder ac atebolrwydd ym mhob rhan o'r system.
Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn rhoi pwerau statudol i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn ysgolion sy'n achosi pryder. Mae'r pwerau hyn yn debyg i bwerau awdurdodau lleol, ond mae rhai gwahaniaethau pwysig. Y pwerau yw:
- pŵer i'w gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydweithio
- pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol
- pŵer i sefydlu corff llywodraethu o fyrddau gweithredol interim
- pŵer i gyfarwyddo ffederasiwn o ysgolion
- pŵer i gyfarwyddo cynlluniau cau ysgolion
- pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau
Fodd bynnag, disgwylir i awdurdodau lleol weithredu gyntaf. Dim ond yn yr achosion canlynol y bydd Gweinidogion Cymru yn ymyrryd:
- pan na fydd yr awdurdod lleol wedi gweithredu
- pan na fydd y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn debygol o fynd i'r afael â'r sail dros ymyrryd
- pan fydd yr awdurdod lleol wedi gweithredu ond na fydd y corff llywodraethu wedi ymateb yn foddhaol ym marn Gweinidogion Cymru
Y broses wella mewn ysgolion
Dylai prosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau fod yn seiliedig ar y 3 chwestiwn canlynol:
- pa mor dda rydym yn ei wneud?
- sut rydym yn gwybod?
- sut y gallwn wella?
1. Nodi'r meysydd ffocws
Ystyriwch yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn sydd angen ei wella. Bydd arweinwyr ac ymarferwyr yn meddu ar wybodaeth am yr agweddau hyn drwy weithredu fel sefydliadau sy'n dysgu mewn diwylliant o wella a dysgu'n barhaus. Dewiswch feysydd allweddol y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt.
Bydd cynnwys staff mewn trafodaethau am ddysgu a chynnydd dysgwyr drwy gyfarfodydd tîm, deialog broffesiynol anffurfiol a ffurfiol, neu fyfyrdodau a rennir yn llunio darlun mwy cywir o gryfderau a gwendidau. Bydd aelodau gwahanol o staff yn cynnig safbwyntiau gwahanol, gan arwain at benderfyniadau gwell am yr hyn y dylid ei flaenoriaethu. Gellir gwneud hyn yn fewnol, mewn cydweithrediad ag ysgolion eraill neu drwy weithio gyda'r awdurdod lleol.
2. Pennu disgwyliadau clir o ran yr hyn rydych yn disgwyl ei weld
Cyn casglu unrhyw dystiolaeth, er enghraifft, ar droeon dysgu neu drwy edrych ar waith dysgwyr, trafodwch yr hyn y byddech yn disgwyl ei weld, mewn perthynas â dysgu a chynnydd sy'n briodol o safbwynt datblygiadol ac os yw pethau'n gweithio'n effeithiol i bob dysgwr, a chytunwch ar hynny. Bydd cytuno ar ddisgwyliadau a rennir ar draws timau neu adrannau yn helpu i feithrin dealltwriaeth a rennir o gynnydd, yn cefnogi arsylwadau mwy penodol ar ddysgu a chynnydd, ac yn galluogi myfyrdodau mwy cynhyrchiol ar effeithiolrwydd yr addysgu. Yma, gall fod yn fuddiol sicrhau safbwynt allanol hefyd; gall cyfleoedd i aelodau allweddol o'r staff arsylwi ar ddysgu mewn perthynas â'r maes ffocws penodol sy'n gweithio'n dda mewn ysgolion eraill, neu gynnwys arbenigedd allanol o ysgolion eraill yn y broses, helpu i fireinio'r disgwyliadau hynny. Bydd hyn yn sicrhau dealltwriaeth a disgwyliadau cyson yn ystod troeon dysgu neu wrth edrych ar waith dysgwyr, ac yn sicrhau bod pawb yn gweithredu'n gyson. Gall hyn hefyd helpu i gysoni disgwyliadau ar draws ysgolion â phryderon tebyg.
3. Defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth i driongli canfyddiadau
Casglwch wybodaeth o ffynonellau gwahanol, er enghraifft drwy ystyried dysgu a chynnydd dysgwyr yn ystod arsylwadau ar wersi a throeon dysgu, dadansoddi data, gwrando ar ddysgwyr, ystyried safbwyntiau pob rhanddeiliad. Bydd defnyddio mwy nag un ffynhonnell yn helpu i sicrhau bod eich canfyddiadau yn ddibynadwy ac yn helpu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wella. Unwaith eto, mae ysgolion sy'n gweithio fel sefydliadau sy'n dysgu yn creu cyfleoedd i'r staff gydweithio ac ystyried arferion addysgegol gyda'i gilydd. Gallai gwybodaeth a gesglir drwy'r broses adolygu datblygiad proffesiynol ym mhob rhan o'r ysgol gyfrannu at yr agwedd hon ar broses hunanwerthuso.
Bydd cynnwys gwahanol arweinwyr ac aelodau o staff o fewn ac ar draws ysgolion wrth gasglu a dadansoddi tystiolaeth yn rhoi darlun mwy llawn a chytbwys. Gall athrawon, staff cymorth, arweinwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr gynnig gwybodaeth werthfawr sy'n atgyfnerthu canfyddiadau. Mae systemau clir ar gyfer rhannu gwybodaeth yn galluogi staff i drafod a gwerthuso a yw camau gweithredu, fel dysgu proffesiynol, wedi sicrhau'r deilliant dymunol i wella ymarfer.
4. Dadansoddi canfyddiadau i nodi’r achosion sydd wrth wraidd materion
Ystyriwch yr holl dystiolaeth a gasglwyd yn ofalus er mwyn deall pam mae problem yn digwydd, nid dim ond beth sy'n digwydd. Ewch i wraidd y mater a nodwch yr achos sylfaenol, yn hytrach nag ystyried y symptomau yn unig. Gall hyn fod yn wahanol i ddysgwyr gwahanol. Os oes angen, cynhaliwch weithgarwch penodol i ddatgelu'r achosion sylfaenol hyn. Mae bob amser yn fuddiol nodi cysylltiadau rhwng tystiolaeth er mwyn gwneud hyn.
5. Cynllunio gweithgarwch ‘sy'n canolbwyntio ar ddatrysiad’ sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Pan fyddwch wedi nodi achos y broblem, fel rhan o ddiwylliant o ymholi, defnyddiwch dystiolaeth sy'n seiliedig ar ymchwil a strategaethau a brofwyd i gynllunio camau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gennych yn uniongyrchol.
Bydd hyn yn cynnwys mynd ati i fyfyrio ar sail tystiolaeth, gan ddefnyddio gwybodaeth go iawn fel deilliannau dysgwyr, arsylwadau ar gynnydd a dysgu, ac adborth gan ddysgwyr i feddwl yn feirniadol am yr hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn sydd angen ei newid.
Mae hefyd yn cynnwys ymholi cydweithredol, lle mae staff yn cydweithio â'i gilydd (o fewn ysgolion a rhyngddynt) i ystyried heriau, profi dulliau gweithredu newydd, a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae rhannu ymchwil, astudiaethau achos a strategaethau llwyddiannus yn atgyfnerthu dealltwriaeth gyfunol ac yn arwain at broses fwy effeithiol a deallus o gynllunio camau gweithredu.
Bydd y CDY yn adnodd allweddol i nodi a llywio'r gwaith gwella hwn.
6. Nodi anghenion dysgu proffesiynol
Gweithiwch gyda staff i benderfynu pa gyfleoedd datblygu proffesiynol sydd eu hangen i gyflawni'r cynlluniau gwella yn effeithiol. Defnyddiwch y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i gefnogi'r sgyrsiau hyn ag ymarferwyr fel rhan o drefniadau adolygu datblygiad proffesiynol statudol.
Mae adborth gan gymheiriaid a sgyrsiau hyfforddi hefyd yn helpu i deilwra cyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n berthnasol ac yn amserol. Gall anghenion a rennir rhwng ysgolion hefyd arwain at ymholi cydweithredol, mentora, hyfforddiant neu gyfleoedd dysgu proffesiynol ar y cyd lle y caiff effaith fwriadedig yr holl ddysgu proffesiynol ei nodi'n glir. Bydd defnydd effeithiol o amser HMS yn ffactor i'w ystyried hefyd.
7. Gwireddu newid (o fewn y CDY)
Treialu a datblygu (cam dewisol)
Fel rhan o'r CDY, efallai y bydd ysgolion yn dewis treialu gweithgareddau a gynlluniwyd ar raddfa fach cyn eu rhoi ar waith yn llawn. Bydd y gweithgareddau peilot hyn (a arweinir gan grwpiau bach o staff) yn gyfle i gael adborth amser real, addasu, a datblygu adnoddau. Bydd hyn yn helpu i nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a'r hyn y gallai fod angen ei fireinio.
Proses weithredu uniongyrchol
Fel arall, efallai y bydd ysgolion yn penderfynu rhoi'r gweithgareddau ar waith yn llawn yn syth, pan fydd cryn dystiolaeth neu hyder yn eu cylch eisoes. Mae'n bosibl y bydd hyn yn briodol pan fydd y newid yn adeiladu ar ymarfer presennol neu pan fydd wedi'i brofi'n llwyddiannus rywle arall.
8. Proses gyflwyno ehangach
P'un a fydd gweithgareddau'n cael eu treialu neu eu rhoi ar waith yn uniongyrchol, dylai'r cynllun gael ei gyflwyno ar draws yr ysgol neu'n gydweithredol. Bydd ymgorffori hyn yn y CDY yn sicrhau cysondeb â nodau strategol. Bydd cynnwys y staff drwyddi draw yn helpu i sicrhau perchnogaeth, cysondeb, a pharodrwydd i newid.
9. Monitro a mireinio (yn unol â'r CDY)
Adolygu a mireinio
Gwerthuswch ganlyniadau'r cam treialu neu weithredu cynnar yn erbyn meini prawf llwyddiant y cytunwyd arnynt. Defnyddiwch adborth gan staff, awdurdodau lleol a rhwydweithiau cydweithredol i gefnogi hyn. Gall gwaith myfyrio fel tîm sy'n seiliedig ar realiti'r ystafell ddosbarth sicrhau bod cynlluniau'n ymarferol ac yn effeithiol o hyd. Bydd fabwysiadu dulliau cydweithredol yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ar y cyd.
10. Monitro parhaus
Ar ôl rhoi gweithgareddau ar waith yn llawn, dylai ysgolion barhau i fonitro'r effaith ar ddysgwyr. Dylid ymgorffori'r gwerthuso parhaus hwn yn y CDY gan ddefnyddio strwythurau cydweithredol i werthuso cynnydd, addasu strategaethau, a sicrhau gwelliannau cynaliadwy.
Amcanion y Rhaglen Bartneriaeth Gwella Ysgolion
- Mae pob ysgol yng Nghymru yn ymgymryd â dulliau a strwythurau cydweithredol fertigol (clwstwr cynradd ac uwchradd 3 i 16 oed) a llorweddol (er enghraifft uwchradd i uwchradd) pwrpasol sy'n canolbwyntio ar wella dysgu.
- Mae pob awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth â'u hysgolion, gan ddefnyddio'r dull cydweithredol newydd hwn mewn ysgolion mewn ffordd weithredol i ddod i adnabod eu hysgolion ac i wella safonau addysgol yn eu hardal. Mae hyn yng nghyd-destun eu cyfrifoldebau mewn perthynas â chwricwlwm, tegwch, ADY, gwella ysgolion, y Gymraeg, dysgu proffesiynol a chyllid.
- Mae'r capasiti gwella ysgolion yn bodoli'n bennaf mewn ysgolion drwy sicrhau cydbwysedd priodol o arbenigedd yn yr ysgol, secondiadau ac unrhyw adnodd arbenigol parhaol yn yr awdurdod lleol.
- Mae gan bob awdurdod lleol drefniadau partneriaeth clir sy'n canolbwyntio ar wella dysgu drwy eu system wella leol gydweithredol ac sy'n cynrychioli gwerth am arian o ran adnoddau.
- Mae gan bob awdurdod lleol gynllun pontio cadarn, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor clir i gyflawni'r amcanion polisi.