English

Mae sefydlu yn ofyniad statudol ar gyfer pob athro newydd gymhwyso yng Nghymru sydd wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC) ar ôl 1 Ebrill 2003.

Dylai athrawon newydd gymhwyso, gan gynnwys rhai sy’n cyflenwi, a phawb sy’n gysylltiedig â’r broses sefydlu sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r trefniadau sefydlu statudol yng Nghymru a’r safonau proffesiynol perthnasol.

Beth yw’r gofynion

Rhaid i bob athro newydd gymhwyso feddu ar statws athro cymwysedig a rhaid iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athrawon ysgol cyn y gallant gael eu cyflogi fel athrawon mewn ysgolion a gynhelir.

Dylai pob athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu o dri thymor ysgol o hyd, neu gyfwerth. Er hynny, mae gan gyrff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor / 380 o sesiynau.  Ni all unrhyw athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu mewn llai nag un tymor (110 o sesiynau).

Diffinnir un sesiwn ysgol fel un bore neu un prynhawn o gyflogaeth mewn ysgol fel athro cymwysedig. Rhaid i ysgolion rhoi 10% o amser digyswllt i athrawon newydd gymhwyso a gyflogir o dan Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) i’w galluogi i ymgymryd â’u gweithgareddau sefydlu; mae hyn yn ychwanegol i’r amser digyswllt statudol ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu (CPA).

Y proffil sefydlu a’r safonau proffesiynol

Bydd y proffil sefydlu, sydd ar gael drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (dolen allanol) yn sail i’r ddeialog broffesiynol rhwng yr athro newydd gymhwyso, y mentor sefydlu a’r gwiriwr allanol.

Bydd athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod  sefydlu ar 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny yn gweithio i’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Mae’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yn seiliedig ar bum safon broffesiynol sydd â gwerthoedd ac ymagweddau cyffredin. Caiff pob safon ei rannu’n elfennau gyda disgrifyddion sy’n nodi enghreifftiau o sut y dylid cymhwyso pob safon.

Bydd cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus yn gofyn am dystiolaeth yn erbyn pob un o'r disgrifyddion.

Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2017 yn parhau â’r safonau athrawon wrth eu gwaith (SAG) a oedd yn weithredol pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu a dylent barhau i ddefnyddio’u proffil sefydlu gwreiddiol. Ar ôl cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, byddant yn mabwysiadu'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2012 barhau i ddefnyddio’r deunydd cymorth ar gyfer asesu, arsylwi a phennu targedau a’r SAG.

Proffil dechrau gyrfa

Gall athrawon newydd gymhwyso gael mynediad i’w proffil dechrau gyrfa drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.

Dylai'r proffil dechrau gyrfa lywio'r ddeialog â'r mentor sefydlu ar feysydd y mae angen i'r athro newydd gymhwyso eu datblygu yn ystod y cyfnod sefydlu.

Rolau a chyfrifoldebau yn ystod y cyfnod sefydlu

Mae cyfnod sefydlu effeithiol yn golygu gwaith partneriaeth rhwng nifer o randdeiliaid allweddol. Ceir gwybodaeth bellach am rolau a chyfrifoldebau yn Sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru (diwygiwyd Tachwedd 2022)