English

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Sefydlwyd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn 2018. Ei brif bwrpas yw:

  • cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ar draws y system addysg drwy ddarparu cydlyniad a sicrwydd ansawdd ar gyfer yr ystod o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth addysgol sydd ar gael yng Nghymru
  • gweithredu fel arweinydd meddwl; datblygu, mynegi a gweithredu gweledigaeth a strategaeth ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru
  • bod yn aelod uchel ei barch a gweithgar o'r system addysg a'r pwynt cyswllt cyntaf i’r gweithlu addysg mewn perthynas â materion arweinyddiaeth

Mae'r Academi Genedlaethol yn darparu ystod o gyfleoedd i arweinwyr ddod ynghyd ochr yn ochr â gwaith arall i sicrhau darpariaeth arweinyddiaeth o ansawdd, cefnogi arloesedd a datblygu arweinyddiaeth system drwy waith Cymdeithion yr Academi.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Academi Genedlaethol: Hafan – Arweinyddiaeth Genedlaethol Cymru (nael.cymru)

Cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth

Yng Nghymru, mae'n ofyniad statudol i unrhyw un sy'n gwasanaethu fel pennaeth feddu ar y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Yn dilyn adolygiad o'r CPCP, rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda'n partneriaid i adolygu'r trefniadau. Bydd rhagor o wybodaeth am y rhaglen yn y dyfodol ar gael yn 2024.

Dysgu proffesiynol i arweinwyr

Mae rhaglen gynhwysfawr ar gyfer datblygu arweinyddiaeth ar gael i bob arweinydd ysgol ledled Cymru ac mae'n unol â safonau proffesiynol ar gyfer arweinyddiaeth.

Mae'r cynnig cenedlaethol presennol i arweinwyr yn cynnwys:

  • Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Ganol
  • Rhaglen Datblygu Uwch Arweinydd
  • Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid - paratoi ar gyfer CPCP. Mae hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd
  • Rhaglen Pennaeth Newydd a Phenaethiaid Dros Dro
  • Rhaglen Penaethiaid Profiadol

Mae'r rhaglenni hyn wedi'u cymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac mae gan y Rhaglenni Datblygu Arweinyddiaeth Ganol a Datblygu Uwch Arweinwyr opsiwn i gael achrediad trwy ILM hefyd.

Ceir rhagor o wybodaeth am bob rhaglen ar gael ar wefan y consortia rhanbarthol neu drwy gysylltu â'ch consortia neu bartneriaeth leol.