English

Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa  i uwch arweinwyr.

Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Anogir darpar-fyfyrwyr i gysylltu â’r sefydliad trwy dudalen y cwrs isod.

Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil ac ymholi uwch
  • anghenion dysgu ychwanegol, rhagoriaeth mewn ymarfer
  • cynllunio a gwireddu'r cwricwlwm
  • arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Mae'r MA Cenedlaethol (Meistr) mewn Addysg (Cymru) yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau eu gyrfa i uwch arweinwyr. Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistroli set gymhleth o sgiliau i arwain, cymell a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymchwilio i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella.

Bydd yr MA mewn Addysg, a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harferion proffesiynol. Mae'r modiwlau fel arfer yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil ac ymholi uwch
  • anghenion dysgu ychwanegol, rhagoriaeth mewn arferion
  • cynllunio a gwireddu'r cwricwlwm
  • arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Gall ymgeiswyr astudio'r MA Addysg (Cymru) cyffredinol neu astudio'r MA Addysg (Cymru) gyda ffocws ar lwybr penodol: