English

Mae Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu proffesiynol yr holl gynorthwywyr addysgu yn unol â'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu. Mae pob rhaglen yn adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth y cynorthwywyr addysgu ar wahanol adegau yn ystod eu gyrfa. Y rhaglenni presennol yw:

  • Sefydlu ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Newydd
  • Rhaglen Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith
  • Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU)

Cynorthwywyr addysgu lefel uwch

Rôl Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) yw ategu gwaith proffesiynol athrawon ar gyfer gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan system oruchwylio gytunedig. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu i unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer y dosbarth cyfan. Mae dyfarnu statws CALU, er nad yw'n gymhwyster, yn cefnogi cynorthwywyr addysgu i ymgymryd â rôl benodol yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r rhaglen Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yn cefnogi'r cynorthwyydd addysgu i gasglu cyfres o fyfyrdodau dysgu sy'n cyfateb i'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu. Bydd hyn yn dangos parodrwydd ymgeiswyr ar gyfer asesiad CALU.

Ceir rhagor o wybodaeth am Lwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu a sut i wneud cais am asesiad CALU ar wefan y consortia rhanbarthol neu drwy gysylltu â'ch consortia neu bartneriaeth leol.