English

Y nod yw bod arweinyddion yn defnyddio’r cwestiynau hyn ochr yn ochr â’r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella wrth hunan-werthuso er mwyn sicrhau bod datblygiad y Gymraeg o fewn pob ysgol yn cael sylw penodol.

Mae’r adnodd wedi’i rannu i dri maes sy’n cyd-fynd â meysydd yr adnodd cenedlaethol, sef arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu a’r cwricwlwm a lles, tegwch a chynhwysiant.

Nodir y cwestiynau trafod perthnasol sydd eisoes wedi’u cynnwys yn yr adnodd cenedlaethol. O dan pob maes, ceir cwestiynau trafod ychwanegol i ysgogi arweinyddion i ystyried nifer o feysydd penodol o ran y Gymraeg gan gynnwys:

  • Cyd-destun ieithyddol
  • Gweledigaeth a chynllunio strategol
  • Datblygu’r gweithlu
  • Cynllunio cwricwlwm
  • Addysgeg
  • Cynnydd dysgwyr
  • Defnydd anffurfiol o’r Gymraeg
  • Tegwch o ran mynediad i’r Gymraeg

Nodir yr adnoddau sydd eisoes ar gael i gefnogi arweinyddion yn y meysydd hyn. Yn dilyn cyfnod o beilota’r adnodd a derbyn adborth arweinyddion, byddwn yn cyhoeddi mwy o ddeunyddiau i gefnogi’r broses hunan-werthuso.

Cydran AC:GG: gweledigaeth strategol

I ba raddau y mae gweledigaeth yr ysgol yn dylanwadu ar ei gwaith?

  1. I ba raddau mae gweledigaeth a strategaeth yr ysgol yn ystyried datblygiadau ar gyfer y Gymraeg?
    • Pa mor effeithiol yw defnydd yr ysgol o gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol / ysgolion eraill / consortia / partneriaethau i wneud cynnydd?
    • I ba raddau mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru'n cael eu hadlewyrchu o fewn polisïau a gweithdrefnau'r ysgol?
  2. Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod ei chyd-destun ieithyddol gan gynnwys y dysgwyr, cymuned a’r gweithlu?
    • Pa mor dda yw dealltwriaeth arweinwyr yr ysgol o’r siwrne ieithyddol?
    • Pa mor dda yw dealltwriaeth arweinwyr o ddemograffig ieithyddol yr ysgol a’i le yn y gymuned?
    • Pa mor dda yw dealltwriaeth yr ysgol o batrymau ieithyddol y gweithlu?

Dolenni defnyddiol:

Cydran AC:GG: addysgeg (dysgu, addysgu a'r cwricwlwm)

Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae'r arweinwyr yn dylanwadu ar y dysgu a'r addysgu ac yn eu gwellay?

  1. I ba raddau y mae'r arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd gadarnhaol i ddysgwyr?
    • Sut ydym yn mesur cynnydd ym maes y Gymraeg a sicrhau bod arfarniad yr ysgol yn adlewyrchiad teg o ble mae’r ysgol arni?

Dolenni defnyddiol:

Cydran AC:GG: staff ac adnoddau

I ba raddau y mae’r arweinwyr yn cefnogi’r staff ac yn defnyddio adnoddau yn effeithiol?

  1. Beth sydd angen gwneud i ddatblygu’r gweithlu er mwyn galluogi symud yr ysgol ar hyd continwwm categoreiddio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg?
    • Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu er mwyn gwella addysgu a dysgu ac er mwyn symud y gweithlu ymlaen er mwyn darparu mwy o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg?
      • Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu trwy’r cynllun datblygu ysgol?
      • I ba raddau mae’r ysgol yn deall patrymau ieithyddol y gweithlu?
      • I ba raddau mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o ddata ar gyfer y gweithlu (e.e. defnydd o’r SWAC)?
    • I ba raddau mae trefniadau recriwtio yn hyrwyddo datblygiad y Gymraeg?
    • I ba raddau mae’r ysgol yn defnyddio arbenigedd staff i addysgu a llenwi bylchau / datblygu arbenigedd bynciol?
    • I ba raddau mae’r ysgol yn cynllunio’n fwriadus ar gyfer datblygiad staff yn unol â’r safon proffesiynol ynghylch datblygu sgiliau Cymraeg?
      • I ba raddau mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer dysgu proffesiynol staff ar gyfer datblygu’r Gymraeg a modelu’r iaith yn effeithiol i ddysgwyr, e.e. addysgeg, iaith, hyrwyddo defnydd anffurfiol, cywirdeb ieithyddol?
      • Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn defnyddio cyllid dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad y Gymraeg e.e. defnydd o’r grant dysgu proffesiynol a’r grant gwella ysgolion?
    • Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn rhannu arfer dda gyda phartneriaid?

Dolenni defnyddiol:

Cydran AC:GG: addysgeg

Cwestiwn trafod: I ba raddau y mae'r addysgu'n datblygu'r dysgwyr drwy amrywiaeth o brosesau addas i wireddu pedwar diben y cwricwlwm?

Cydran AC:GG: pennu gweledigaeth (arweinyddiaeth ym maes dysgu a rheoli newid)

Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae arweinwyr, staff, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn deall disgwyliadau, dibenion ac egwyddorion y cwricwlwm newydd i Gymru?

  1. I ba raddau y mae dysgwyr yn deall a defnyddio'r Gymraeg?
    • I ba raddau mae’r holl staff a dysgwyr yn hyrwyddo iaith a diwylliannau Cymru yn unol â disgwyliad y pedwar diben?
    • Pa mor effeithiol mae cynllunio ar gyfer datblygiad y Gymraeg ar draws y cwricwlwm?
    • Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn datblygu Cymraeg fel pwnc?
    • Pa mor effeithiol mae’r ysgol wedi cynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?
    • Pa mor effeithiol a bwriadus mae’r ysgol yn cynllunio ei haddysgeg i gefnogi datblygu’r Gymraeg?
    • Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer defnydd anffurfiol y Gymraeg?
      • I ba raddau mae’r awdurdod lleol wedi cynnwys datblygiadau ar gyfer defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn eu CSCA? I ba raddau mae gweithlu'r ysgol yn ymgysylltu â'r targed hwn?
      • Sut ydych chi'n ymgysylltu â fframweithiau, adnoddau a chefnogaeth bresennol sydd ar gael, megis y Siarter Iaith, i ddatblygu'r Gymraeg yn eich ysgol chi?
      • Sut ydych chi wedi ymgysylltu â llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach a phartneriaid allanol ar y Siarter Iaith?
      • Sut ydych chi wedi integreiddio'r Siarter Iaith i roi gwerth ychwanegol i gwricwlwm Cymru? Sut ydych chi'n defnyddio profiadau Cymraeg ar draws y cwricwlwm?
      • Pa mor effeithiol mae’r ysgol wrth annog dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth?

Dolenni defnyddiol:

Cydran AC:GG: agweddau a chydberthnasau

Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae'r ysgol yn meithrin agweddau ac ymddygiadau iach?

  1. I ba raddau ydy’r ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag defnyddio’r Gymraeg?
    • Pa mor effeithiol mae’r ysgol wrth annog dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg y tu fewn a thu allan i’r dosbarth?
    • Pa mor effeithiol ydy ethos Gymraeg yr ysgol yn effeithio ar agweddau dysgwyr tuag at y Gymraeg?

Cydran AC:GG: tegwch

Cwestiwn trafod: i ba raddau y mae dull gweithredu’r ysgol yn sicrhau tegwch i’r dysgwyr?

  1. I ba raddau ydy’r ysgol yn sicrhau mynediad i’r dysgwyr i addysg a phrofiadau yn y Gymraeg ac ystyried safbwyntiau'r dysgwyr mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?

Dolenni defnyddiol: