English

Sut aeth Ysgol Gwynedd ati i fod yn ysgol LEAN.

Cyd-destun a chefndir

Mae Ysgol Gwynedd yn ysgol gynradd sirol yn Sir y Fflint. Mae 516 o ddysgwyr rhwng 3 oed ac 11 oed ar y gofrestr.

Mae oddeutu 28 y cant o’r dysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 19 y cant. Mae’r ysgol yn nodi bod gan oddeutu 27 y cant o’r dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 21 y cant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae sefydliad darbodus (LEAN) yn symleiddio ei brif brosesau i gael gwared ar unrhyw wastraff diangen a gwella cynhyrchiant. Roedd cwrs deuddydd wedi cael ei gynnal gan aelodau ffatri Toyota. Bu’r diwrnod cyntaf ar y safle creu injan a'r ail yn Ysgol Gwynedd. Bwriad hyn oedd dangos a chreu cysylltiadau rhwng y prosesau gweithgynhyrchu a’r prosesau mewn ysgol ddarbodus. Lansiwyd cwrs ar egwyddorion bod yn ddarbodus mewn addysg (‘LEAN Principles in Education’). Bu grŵp o bymtheg pennaeth arloesol a oedd yn edrych tuag at y dyfodol ar y cwrs. Roedd y grŵp yn frwdfrydig iawn am yr hyn a ddysgwyd ganddynt dros y deuddydd, yn enwedig ar ôl cael y cyfle i weld yr effaith a gafodd yr egwyddorion hyn ar Ysgol Gwynedd. Roedd yr adborth yn wych a dywedodd penaethiaid profiadol mai hwn oedd y cwrs gorau iddynt fod arno, gan wneud iddynt ailfeddwl am y ffordd yr oeddent yn rheoli ac yn arwain eu hysgolion. Rhoddodd y cwrs syniadau a strategaethau ymarferol iddynt i leihau llwyth gwaith, gan ychwanegu gwerth ar yr un pryd.

Yn dilyn y cwrs, aeth pennaeth Ysgol Gwynedd ac aelodau o Toyota i ymweld â nifer o ysgolion a’u helpu i ddeall effaith yr hyfforddiant. Cafodd ysgolion eu ‘paru’ o'r dechrau hefyd, er mwyn rhoi cefnogaeth i'w gilydd. Roedd adolygiad chwe-misol gyda phenaethiaid i rannu'r cynnydd a wnaed ganddynt yn rhan o'r cwrs. Roedd aelodau Toyota wastad yn synnu at faint sy'n cael ei gyflawni gan ysgolion mewn amser byr. Roedd rhai o'r enghreifftiau a ddaeth i'r amlwg o ddefnyddio'r dull hwn yn sylweddol, naill ai o ran yr amser oedd wedi cael ei arbed neu'r gwelliant mewn deilliannau addysgol.

Ers y cwrs cychwynnol, mae pum cohort pellach o arweinwyr ysgolion wedi cwblhau'r cwrs dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae Ysgol Gwynedd bellach yn ysgol ddarbodus. Dros y blynyddoedd, mae mwyafrif y staff wedi bod ar gwrs gan Toyota ac wedi dysgu rhywbeth newydd bob tro. Mae'r Pennaeth wedi bod ar gwrs preswyl wythnos gyda Toyota yn ddiweddar, lle bu'n gweithio ochr yn ochr â gwneuthurwr ceir byd-eang ac un o gwmnïau manwerthu mwyaf y DU. Gyda'r hyfforddiant hwn, mae'r Pennaeth wedi cytuno i hyfforddi'r holl benaethiaid sydd newydd gymhwyso yn y Rhanbarth a'r rheini sy'n gwneud y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r OECD i ddatblygu pob ysgol yng Nghymru fel sefydliadau sy’n dysgu. Mae llawer o'r meddylfryd ynghylch hyn wedi dod o egwyddorion gweithredu’n ddarbodus sydd wedi cael eu profi. Mae'n golygu bod Ysgol Gwynedd mewn sefyllfa dda i roi Dyfodol Llwyddiannus (Llywodraeth Cymru, 2015) ar waith yn y dyfodol.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Gall Ysgol Gwynedd nodi cannoedd os nad miloedd o welliannau a wnaed o ganlyniad i fod yn ddarbodus. Eleni, aseswyd yr ysgol gan Buddsoddwyr mewn Pobl ar gyfer ei gwobr Iechyd a Llesiant. Mae wedi cael yr Achrediad Platinwm, sef achrediad nad yw llawer o sefydliadau ar draws y byd yn ei gael. Dywedodd yr adroddiad:

‘Everyone spoken with at Ysgol Gwynedd understands the organisation’s values and associated behaviours. People are also clear that the values underpin achievement of the strategic objectives, namely pupil wellbeing and pupil outcomes.’

Mae’r ysgol yn credu’n gryf mewn cydweithredu yn hytrach na chystadlu. Er bod elfennau o gystadleuaeth yn beth iach i ysgogi gwell safonau, dylid rhannu'r manteision a gaiff un ysgol ar raddfa eang, fel bod y manteision hynny yn cael effaith ar y nifer fwyaf posibl o ddysgwyr. Mae pawb ar eu hennill mewn sefyllfa fel hyn ac mae ysgolion yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae Ysgol Gwynedd yn rhoi amser, gwybodaeth a sgiliau i unrhyw rai sydd eu hangen neu'n gofyn amdanynt.