English

Sut aeth Ysgol Cwm Rhymni ati i ganfod a datblygu potensial arweinyddiaeth ymysg athrawon.

Cyd-destun a chefndir

Mae Ysgol Cwm Rhymni yn ysgol gyfun gymunedol cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr 11 oed i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Caerffili. Mae 1,439 o ddysgwyr yn yr ysgol, gan gynnwys 269 yn y chweched dosbarth, a 130 aelod o staff. Mae nifer y dysgwyr yn cynyddu’n gyflym. Yn ôl y rhagolygon, bydd oddeutu 2,000 o ddysgwyr yn yr ysgol erbyn 2020.

O'r holl ddysgwyr, mae 12.8 y cant ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy'n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 17.4 y cant. Mae tua 25 y cant o'r dysgwyr yn byw yn yr 20 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan oddeutu 21 y cant o'r dysgwyr anghenion addysgol arbennig, sy’n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 25.1 y cant. Mae gan 2 y cant o'r dysgwyr ddatganiad anghenion addysgol arbennig, sy'n is na'r cyfartaledd i Gymru gyfan, sef 2.5 y cant.

Mae'r ysgol ar ddau safle – ym mhentref Fleur-de-lys a thref Caerffili. Mae'r ffaith bod yr ysgol wedi tyfu wedi arwain at agor ail safle, saith milltir i ffwrdd, a gafodd oblygiadau o ran staffio ac arweinyddiaeth ar y ddau safle. Mae angen i’r drefn reoli perfformiad herio a chefnogi pob aelod o staff ar bob lefel. Mae nifer y staff ar gynnydd. Mae'r prosesau yn caniatáu meithrin a datblygu talent staff a mynd i'r afael â thangyflawni yn ddiymdroi.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol wedi creu strategaeth i feithrin arweinwyr y dyfodol drwy gynllunio ar gyfer olyniaeth yn ofalus gan ddefnyddio ‘Strategaeth Gwireddu Potensial’ yr ysgol. Mae'r strategaeth hon yn caniatáu i arweinwyr nodi potensial arweinyddiaeth athrawon yn gynnar yn eu gyrfa. Yna, gallant eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau priodol i'w galluogi i gyflawni rolau arweinyddiaeth yn effeithiol yn y dyfodol.

Roedd egwyddorion rheoli perfformiad wedi hen ennill eu plwyf yn yr ysgol Ychwanegwyd at yr egwyddorion hynny drwy gyflwyno ‘Cynllun Gwireddu Potensial’ ar gyfer yr holl staff. Mae arweinwyr wedi sefydlu:

  • strwythur staffio creadigol a allai ddatblygu i gynnwys rhagor o arweinwyr â chyfrifoldeb dros godi safonau, arweinwyr ac uwch arweinwyr addysgeg, yn ogystal â phenaethiaid adran a chydgysylltwyr ar gyfer rhai agweddau addysgol penodol
  • tîm cryf o reolwyr canol a rheolwyr canol uwch i gydweithio â’r uwch-dîm arwain (a fyddai’n eu herio a'u cefnogi)
  • tîm cryf o aelodau staff profiadol i gydweithredu ar osod a gwirio amcanion adeiladol a phriodol ar gyfer staff ar bob lefel
  • prosesau effeithiol sy'n cysylltu gwerthuswyr ac athrawon nad ydynt o reidrwydd yn yr un adran
  • panel cwricwlwm craidd o arweinwyr canol ac uwch arweinwyr i gytuno ar gynllun rheoli perfformiad, gan ystyried safonau athrawon a safonau arwain, gweledigaeth yr ysgol a datblygiadau lleol a chenedlaethol er mwyn cynnig enghreifftiau penodol o amcanion perthnasol i staff ar bob lefel.

Mae pob athro yn dewis tri amcan o restr a argymhellir gan y panel, neu’n gosod ei amcanion ei hun yn dilyn trafodaeth â'r gwerthuswr. Rhaid i'r amcanion hyn ganolbwyntio’n glir ar wella agweddau ar ddysgu ac addysgu.

Mae arweinwyr yn deall bod angen i:

  • athrawon sy'n gobeithio mynd yn uwch ar y raddfa gyflog ddeall yr angen i osod amcanion a fyddai'n eu galluogi i ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu dealltwriaeth a'u heffaith ar wella dysgu ac addysgu
  • athrawon sydd â chyfrifoldebau dysgu ac addysgu ddeall yr angen i osod amcanion sy'n canolbwyntio’n benodol ar eu rôl o ran arwain a datblygu dulliau addysgu eraill.

Mae'r gwerthuswr yn:

  • cytuno ar amcanion a hyfforddiant priodol
  • cymryd camau er mwyn dangos bod amcanion wedi’u gwireddu, er enghraifft drwy arsylwi ar wersi mewn ffordd fwy heriol, gan dalu sylw penodol i'r gofynion sy'n cael eu hamlinellu yn y llyfryn ‘Arsylwi ar Gwm Rhymni’
  • gwerthuso a thrafod y cylch nesaf.

Mae gan yr uwch dîm arwain olwg gyffredinol ar yr amcanion er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y tîm o werthuswyr.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae datblygiad proffesiynol arweinwyr posibl yn arwain at ddeilliannau da i'r dysgwyr o ran eu lles, eu cynnydd a'u sgiliau. Mae arweinwyr ar bob lefel yn magu hyder a phrofiad ar sail eu cyfrifoldebau newydd, er enghraifft drwy arwain cyfarfodydd addysgeg. Yn y diwedd, mae arweinwyr talentog yn dod i'r amlwg i ddiogelu arweinyddiaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer y dyfodol.

Rhannu arfer orau

Mae'r syniadau hyn a'r ‘Strategaeth Gwireddu Potensial’ wedi cael eu rhannu mewn cyfarfod o’r uwch arweinwyr a'r clwstwr o ysgolion.