English

Sut aeth Ysgol Uwchradd Cei Connah ati i ddysgu fel tîm i wella safonau addysgu.

Cyd-destun a chefndir

Mae Ysgol Uwchradd Cei Connah yn ysgol cyfrwng Saesneg i fechgyn a merched 11 oed i 18 oed. Cynhelir yr ysgol gan awdurdod lleol Sir y Fflint. Ar hyn o bryd, mae 937 o ddysgwyr ar y gofrestr. Mae 75 o ddysgwyr yn y chweched dosbarth.

Mae oddeutu 13.8 y cant o’r dysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o’i gymharu â'r cyfartaledd ar gyfer ysgolion uwchradd Cymru, sef 17.4 y cant. Mae gan oddeutu 33.7 y cant o’r dysgwyr anghenion addysgol arbennig, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 25.4 y cant. Mae gan 1.4 y cant o'r dysgwyr ddatganiad anghenion addysgol arbennig, sy'n is na'r cyfartaledd i Gymru gyfan, sef 2.5 y cant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Defnyddir model cenedlaethol y gymuned dysgu proffesiynol i ddysgu fel tîm. Mae'r staff addysgu yn cydweithio mewn timau i ddysgu gyda'i gilydd. Mae’r camau dysgu fel a ganlyn.

  1. Mae'r grŵp yn cael ei sefydlu ac mae staff yn cydweithio â'r rhai sydd yn eu timau.
  2. Mae egwyddor addysgeg yn cael ei ddewis i roi ffocws i'r gwaith.
  3. Mae'r staff ymholi gweithredol yn gwneud ymchwil i addysgeg er mwyn gwella'u dealltwriaeth o'r maes dan sylw.
  4. Mae staff yn profi'r strategaethau dysgu ac addysgu newydd yn eu hystafelloedd dosbarth.
  5. Mae staff yn rhoi adborth i'r tîm ar yr hyn a weithiodd a'r hyn na weithiodd. Mae edrych yn ôl yn elfen bwysig o'r drafodaeth hon ac anogir staff i fod yn onest ac yn agored. Yna, mae'r tîm yn datrys unrhyw 'broblemau' gyda'i gilydd.
  6. Yn y cam 'mireinio', mae staff yn gwneud mân newidiadau i'r strategaethau a drafodwyd.
  7. Rhennir y deilliannau mewn ‘digwyddiad rhannu’ ar gyfer yr ysgol gyfan.

Mae amseroedd cyfarfod i'r timau yn cael eu rhoi yn y calendr. Mae hyn yn dangos ymrwymiad yr ysgol i ddysgu fel tîm a chydweithio. Er mwyn ategu’r dysgu, rhoddir strategaethau i'r staff eu treialu fel dogfennau ategol. Caiff arfer sydd newydd ei ddatblygu ei rannu mewn cylchlythyr dysgu ac addysgu a gaiff ei gyhoeddi gan y dirprwy bennaeth sy'n gyfrifol am ddysgu ac addysgu.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae cydweithio a rhannu arfer da wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau addysgu. Mae diddordeb y dysgwyr wedi’i ennyn mwy hefyd, drwy wneud cysylltiadau rhwng dysgu â'r byd go iawn (gan ddefnyddio’r rhaglen Ei Roi ar Waith). Mae dysgwyr wedi datblygu eu sgiliau dysgu annibynnol drwy ddatblygu Ymreolaeth Ddysgu. Mae meddylfryd ac ymdrech wedi bod yn allweddol i ddatblygu gwytnwch mewn dysgwyr wrth iddynt ddarparu ar gyfer yr arholiadau rhifedd. Mae dysgwyr wedi gallu defnyddio'r sgiliau hyn mewn pynciau eraill ar draws y cwricwlwm.

Rhannu arfer da/gorau

Mae'r arfer hwn wedi cael ei rannu yng Nghynhadledd Penaethiaid Ysgolion Uwchradd a digwyddiadau sy'n cael eu hwyluso gan GwE.