English

Sut aeth Ysgol Gynradd Glan Usk ati i ddatblygu rhaglen ddysgu gynhwysol.

Cyd-destun a chefndir

Mae Ysgol Gynradd Glan Wysg, Casnewydd, yn rhoi addysg i 656 o ddysgwyr rhwng 3 oed ac 11 oed. Mae'r ysgol wedi datblygu o uno tair ysgol ar wahân ym mis Medi 2008. Symudodd staff a dysgwyr i'r adeiladau pwrpasol a adeiladwyd trwy Fenter Cyllid Preifat ym mis Ionawr 2010.

O'r holl ddysgwyr, mae 17 y cant ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n is na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 19 y cant. Mae gan oddeutu 22 y cant o’r dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol, sydd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 21 y cant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Nod yr ysgol yw darparu ystod o brofiadau dysgu creadigol a chyfoethog, sy'n cael eu hysgogi gan y pedwar diben a nodir yn Dyfodol Llwyddiannus (Llywodraeth Cymru, 2015) i greu:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog
  • cyfranwyr mentrus, creadigol
  • unigolion iach, hyderus
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus.

Bwriad yr ysgol yw datblygu'r pedwar diben drwy ei chwricwlwm 'sgiliau a’r dyniaethau i ennyn chwilfrydedd, meithrin a grymuso’ (‘skills and humanities to inspire, nurture and empower’ (SHINE)).

Mae newid llwyddiannus yn dibynnu ar drefniadau hunanwerthuso a monitro cryf, sy’n cysylltu â’r cynllun datblygu ysgol (SDP). Mae'r ysgol yn galluogi staff i fonitro, gwerthuso ac adolygu newidiadau i'r cwricwlwm fel bod pawb yn rhan o'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm. At hynny, yn unol â chenhadaeth yr ysgol sef ‘tanio, herio a galluogi’, mae cyfraniad pob dysgwr i’r broses gynllunio a gwerthuso yn cael ei werthfawrogi.

Cynllun datblygu ysgol – llinyn cwricwlwm i ddysgu

Mae diwygio'r cwricwlwm yn nodwedd allweddol o'r SDP. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae'r ysgol wedi:

  • adolygu cynlluniau yng ngoleuni argymhellion Llywodraeth Cymru a gwneud newidiadau i'r cwricwlwm
  • sicrhau dealltwriaeth gadarn o'r egwyddorion addysgeg a'r egwyddorion creadigol a nodir yn Dyfodol Llwyddiannus, gan ganolbwyntio ar fetawybyddiaeth, asesu ar gyfer dysgu, creadigrwydd a llais dysgwyr
  • sicrhau bod y cynllunio yn cydfynd â'r pedwar diben.

Mae hon wedi bod yn broses gam wrth gam gyda'r effeithiau yn cael eu gwerthuso a'u monitro yn gyson. Drwy'r canfyddiadau, mae’r staff wedi tynnu sylw at feysydd sydd angen eu datblygu, a meysydd cryf, sydd wedi’ caniatáu iddynt newid a mireinio'r dull o ddarparu’r cwricwlwm.

Athrawon a dysgwyr

Anogir staff i gymryd risgiau a bod yn arloesol a phrofi syniadau newydd. Cychwynnodd hyn drwy ddatblygu cynlluniau tymor canolig ar gyfer SHINE. Mae'r rhain yn cynnwys y sgiliau sydd i'w haddysgu, cymhwyso sgiliau llythrennedd a rhifedd, syniadau dysgwyr a'r pedwar diben. Mae'r holl staff yn cynllunio ar y cyd i sicrhau parhad a chynnydd mewn sgiliau.

Mae cyfarfodydd cyfnod, cyfarfodydd ysgol gyfan a chyfarfodydd grŵp blwyddyn yn gyfle i gael adborth gan staff ar yr effaith y mae'r newidiadau yn eu cael. Wedyn, mae'r adborth yn cael ei adolygu cyn cael ei adlewyrchu yn y adolygiadau tymhorol o’r cynlluniau gweithredu a’i fwydo i’r gwaith ar y cynlluniau gweithredu personol. Mae'r ysgol yn manteisio ar arbenigedd yr holl staff, y dysgwyr ac ymchwil weithredol i weithredu newid.

Er mwyn lansio thema newydd, y penderfynir arno gan ddysgwyr, mae athrawon yn hwyluso'r amgylchiadau fel bod y dysgwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol sy’n ysgogi ac yn ennyn diddordeb am ddiwrnod. Wrth iddynt gymryd rhan yn y gweithgareddau amlsynnwyr hyn, rhoddir amser i'r dysgwyr feddwl ac ystyried y profiadau y maent yn eu cael. Mae'r dysgwyr yn penderfynu ar yr hyn y byddent yn hoffi dysgu rhagor amdano, ac yn bwysicach na hynny, pa sgiliau yr hoffent eu datblygu yn ystod eu thema.

Mae'r athrawon yn rhannu'r sgiliau cwricwlwm a gynlluniwyd ac mae'r dysgwyr yn penderfynu ar y cyd-destun i gyflawni'r sgiliau a'r sgiliau llythrennedd a rhifedd y gallent eu cymhwyso. Mae'r dysgwyr yn teimlo'u bod wedi’u grymuso gan mai nhw gynlluniodd eu profiadau dysgu. Ym mhob ystafell ddosbarth ceir wal gynllunio a myfyrio i ddysgwyr, sy'n cynnwys sgiliau a syniadau'r dysgwyr. Mae'r wal gynllunio yn cael ei threfnu gan ddefnyddio'r pedwar diben. Mae athrawon yn cyfeirio at y sgiliau, syniadau gwersi'r dysgwyr a'r pedwar diben ym mhob gwers.

Mae dealltwriaeth a gwybodaeth y dysgwyr yn eithriadol oherwydd gwasanaethau rheolaidd ar y cwricwlwm a diwrnodau llais y dysgwr.

Arweinyddiaeth

Er mwyn hwyluso newid, mae arweinwyr yn credu y dylai diwylliant yr ysgol ganolbwyntio ar drafodaethau proffesiynol parhaus, sgyrsiau dysgu dwfn a myfyrio.

Dysgu proffesiynol

Mae gan yr ysgol gynllun cydlynol ar gyfer dysgu a datblygu proffesiynol staff, sy'n canolbwyntio ar ymchwil i'r cwricwlwm rhyngwladol. Mae caniatáu amser i staff wneud ymchwil yn allweddol er mwyn iddynt ddeall sut i roi'r cwricwlwm newydd ar waith. Mae cynnal sgyrsiau dysgu, ymchwil weithredol mewn triawdau dysgu proffesiynol ac amgylchedd parhaus o drafodaethau proffesiynol, yn caniatáu i'r ysgol werthuso effaith y newidiadau sy'n cael eu gwneud yn barhaus.

Mae cyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol eraill wedi cynnwys rhannu syniadau cwricwlwm SHINE, cynllunio'r cwricwlwm, asesu ar gyfer dysgu a rhannu arfer gorau ar draws yr ysgol.

Adnoddau

Er mwyn caniatáu i'r cwricwlwm SHINE gael yr effaith fwyaf bosibl, mae adnoddau wedi bod yn ystyriaeth hanfodol. Roedd yr ysgol eisiau rhoi amser i staff ddeall y newid a mynd i ddigwyddiadau arloesi. Maent hefyd wedi clustnodi arian i brynu adnoddau i hwyluso cynnal diwrnodau trochi mewn ffordd greadigol.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae datblygu'r cwricwlwm SHINE wedi grymuso dysgwyr a'u galluogi i arwain eu dysgu eu hunain.

Mae gallu'r dysgwyr i ddeall a chynllunio ar gyfer datblygu sgiliau yn eithriadol. Mae pob dysgwr yn yr ysgol yn cael y cyfle i gynnig syniadau o ran eu dysgu a gallant siarad yn gall am gymhwyso sgiliau. Mae llais y dysgwyr wedi datblygu o drafodaethau mewn grwpiau bach i sefyllfa lle mae llais pob dysgwr yn bwysig o ran llunio'r cwricwlwm.

Mae'r ffaith bod dysgwyr yn deall lle y maent arni o ran eu dysgu a'r hyn sydd raid ei wneud er mwyn gwella yn welliant sylweddol. Mae gwell annibyniaeth a gwell iaith ddysgu ar draws yr ysgol. O'r herwydd mae sgiliau llafaredd dysgwyr wedi gwella'n sylweddol ynghyd â'r modd y maent yn cymhwyso sgiliau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.

Mae'r Arolwg Agweddau Disgyblion at eu Hunain (PASS) a'r graddfa llesiant a lefelau ymwneud yn adlewyrchu ac yn cefnogi’r canfyddiad bod llais y dysgwr yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau'r dysgwyr tuag at yr ysgol a'u dysgu.

Dyma'r camau nesaf ar gyfer yr ysgol:

  • parhau i ymateb i’r argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus
  • datblygu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles fel arloeswyr y cwricwlwm
  • datblygu hunanasesiad y dysgwyr o'r modd y maent yn cymhwyso'r sgiliau ar gyfer pob profiad dysgu, fel eu bod yn parhau i fyfyrio ar eu dysgu a'r pedwar diben
  • cydweithio â'r ysgol uwchradd yr ydym yn ei bwydo fel bod modd iddi wneud newidiadau i gwricwlwm Cyfnod Allweddol 3.
  • meithrin dealltwriaeth ddyfnach a gwella ein gwybodaeth o ddysgu er mwyn gwella ein hysgol fel sefydliad sy'n dysgu.