English

Sut aeth Ysgol y Priordy yr Eglwys yng Nghymru ati i ddysgu fel tîm i wella safonau addysgu.

Cyd-destun a'r cefndir

Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Priordy, yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn Aberhonddu, Powys. Mae 146 o ddysgwyr 3 oed i 11 oed ar y gofrestr.

O'r holl ddysgwyr, mae 20 y cant ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 19 y cant. Mae gan oddeutu 16 y cant o'r dysgwyr anghenion dysgu ychwanegol, sy’n is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 21 y cant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar ôl edrych ar y ddogfen Dyfodol Llwyddiannus (Llywodraeth Cymru, 2015), nododd yr ysgol nifer o feysydd yr oeddent eisiau eu datblygu er mwyn bod yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd arfaethedig. Roedd y rhain yn cynnwys datblygu gwell ymwybyddiaeth o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, addysgeg i adlewyrchu elfennau creadigol y ddogfen, a dulliau o gydweithredu effeithiol.

Dyma'r unig ysgol hyfforddi yng Nghymru ar gyfer Mantle of the Expert, sef dull o ymdrin â'r cwricwlwm ar sail holi a chwestiynu sy’n defnyddio drama i ennyn diddordeb dysgwyr, a’u herio a’u cyffroi.

Fel rhan o'r prosiect ysgol dysgu proffesiynol, mae'r ysgol wedi edrych ar ddatblygu'r staff addysgu (a’r cynorthwywyr cymorth dysgu) yn yr ysgol drwy raglen hyfforddiant a chefnogaeth gan gymheiriaid. Mae hyn yn ychwanegu at yr arbenigedd yn fewnol ac yn datblygu'r amgylchedd dysgu cyfan.

Mae'r staff yn gweithio fesul 3 i brofi’r dull gweithredu ‘Astudio Gwersi’ a fabwysiadwyd yn Japan. Mae hyn yn golygu grwpio athrawon gyda'i gilydd i astudio'r prosesau o ddysgu ac addysgu yn yr ystafell ddosbarth, gan ddilyn y dull a'r addysgeg yn Mantle of the Expert. Yna, mae trafodaeth ar sut i wella'r arfer yn yr ystafell ddosbarth.

Anogwyd mwy o drafod proffesiynol drwy wylio clipiau fideo o arferion hyfforddwyr arweiniol a chenedlaethol. Dadansoddwyd yr wybodaeth hon a chynhaliwyd trafodaethau ynghylch cwestiynu effeithiol, iaith y corff, defnyddio distawrwydd, hwyluso'r dysgu yn hytrach nag ei arwain yn ogystal â defnyddio drama ar gyfer dysgu i wella safonau dysgu ac addysgu.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae'r dull hwn wedi arwain at gynyddu hyder creadigol pob athro yn yr ysgol. Mae cynnydd wedi bod yn nifer y gwersi sy'n cael eu harfarnu'n rhai da neu o safon gwell na hynny gan arweinwyr.

Mae'r ysgol wedi rhannu'r arfer hwn ag ysgolion eraill ledled Cymru drwy gynnal diwrnodau astudio a gweithdai er mwyn i ymarferwyr eraill weld a thrafod y dull hwn o ddysgu ac addysgu. Aeth myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i un o'r diwrnodau addysgu yn yr ysgol. Mae'r ysgol yn cydweithio â Rhwydwaith Celfyddydau ac Addysg Gogledd Cymru i roi cyflwyniadau ac arwain gweithdai. Mae'r gweithdai hyn yn trafod cefnogi eraill i fod yn fwy creadigol yn ei ffordd o ddysgu ac addysgu a datblygu addysgeg effeithiol sy'n adlewyrchu Dyfodol Llwyddiannus.