English

Sut aeth Ysgol Gynradd Rhydypennau ati i greu dysgwyr mwy hyderus â mwy o gymhelliad a mwy o frwdfrydedd.

Cyd-destun a chefndir

Mae Rhydypenau yn ysgol gynradd fawr yn Llanisien, Gogledd Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 550 o ddysgwyr ar y gofrestr, mewn chwe dosbarth Cyfnod Sylfaen a naw dosbarth Cyfnod Allweddol 2. Mae 80 o ddysgwyr yng ngofal yr uned feithrin.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn unol ag argymhellion Llywodraeth Cymru, defnyddiodd yr ysgol y ddarpariaeth drionglog fel model cwricwlwm ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Ar ôl gweld manteision cwricwlwm sy’n seiliedig ar weithgareddau yn y blynyddoedd cynnar a Blwyddyn 1, roedd yr ysgol yn awyddus i fabwysiadu'r un egwyddorion ym Mlwyddyn 2 cyn gynted ag y bo modd. Roeddent yn awyddus iawn i ddefnyddio llyfrau trefnu dysgu i gynllunio eu dysgu eu hunain. Er hynny, wrth i gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ddatblygu a threiddio fwyfwy i'r holl ddosbarthiadau, daeth i'r amlwg bod risg ym Mlwyddyn 2, o greu'r hyn a allai wedi datblygu’n ‘driongl o chwith’. Byddai hyn yn golygu treulio gormod o amser ar dasgau ar wahân, tasgau ‘ffocws’, a bron ddim amser ar ddarpariaeth barhaus sydd wedi'i chyfoethogi. At hynny, roedd posibilrwydd y byddai'r ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem hon yn creu problem ychwanegol, sef sut i gynnig cwricwlwm ar sail gweithgareddau ar y naill law, gan osgoi'r fagl ar y llall na ddylai'r un ysgol wneud yr hyn y gall rieni/gofalwr da ei wneud adref.

Mewn ymgais i ddatrys y cyfyng gyngor hwn, sefydlodd yr athrawon gymuned dysgu proffesiynol i ganolbwyntio ar edrych sut y mae dysgwyr yn dysgu orau o fewn cwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau. O ganlyniad i'r atebion a ddaeth i'r amlwg, aeth yr athrawon ati i ymestyn y ddarpariaeth wedi ei chyfoethogi, gan ychwanegu heriau a phroblemau penodol. Mae'r newidiadau hyn, sy'n ymddangos yn rhai syml, wedi plannu'r hadau ar gyfer gwelliannau sylweddol mewn arferion, gan gynnwys:

  • darpariaeth sgiliau gwahaniaethol uwch
  • ymyriadau eglur sydd wedi eu cynllunio
  • cynydd o ran annibyniaeth dysgwyr.

O'r herwydd, mae rôl yr oedolyn wedi newid yn sylweddol, wrth iddynt ddod yn gyd-ddysgwyr a chyd-chwaraewyr, yn sylwedyddion ac yn hwyluswyr, yn cefnogi dysgu o fewn darpariaeth. Mewn geiriau eraill, wrth i'r addysgu symud i lawr y triongl, cafodd yr oedolyn ei weld yn fwy fel rhywun sy’n tywys nac fel rhywun sy’n traethu (‘guide on the side’ yn hytrach na ‘sage on the stage’). Creda'r ysgol, wrth weithio yn y ffordd yma, fel gwir hwyluswyr dysgu, bod oedolion yn wirioneddol baratoi dysgwyr ar gyfer eu rôl yng nghymdeithas y dyfodol fel dysgwyr gydol oes.

Pa effaith y mae'r gwaith hwn wedi'i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae'r cwricwlwm hwn, sy'n seiliedig ar sgiliau uwch, wedi golygu bod dysgwyr yn datblygu yn fwy hyderus, yn gryf eu cymhelliad ac yn frwd am yr hyn y maent yn ei ddysgu. Dyma nodweddion sy'n sail i safon uchel o ran llwyddiant a chyrhaeddiad.