English

Astudiaethau ymchwil ar effaith pandemig COVID-19 ar system addysg Cymru.

Ym mis Mehefin 2020, yn rhan o'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol, rhoddodd Llywodraeth Cymru grantiau i'r 8 prifysgol yng Nghymru i gynnal ymchwil gydweithredol ar effaith pandemig COVID-19 ar yr agweddau canlynol ar y system addysg yng Nghymru:

  • y defnydd o ddysgu cyfunol a dysgu o bell
  • cynnydd dysgwyr
  • cynnydd dysgwyr sy’n dysgu’r Gymraeg
  • asesu dysgwyr
  • sut gwnaeth ysgolion ymgysylltu â rheini/gofalwyr yn nysgu eu plant
  • iechyd a lles dysgwyr ac athrawon

Anogwyd y prifysgolion i weithio'n agos gyda'r ysgolion a oedd yn rhan o'u partneriaethau sefydledig ar gyfer darparu addysg gychwynnol i athrawon ac i gynnwys yn eu canfyddiadau y goblygiadau sy'n deillio o'r pandemig ar gyfer darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon yn y dyfodol.

Methodoleg

Er bod y methodolegau a ddefnyddiwyd gan y tîm ymchwil yn amrywio i ryw raddau rhwng yr astudiaethau, roeddent fel arfer yn cynnwys:

  • adolygiad o'r dystiolaeth bresennol ar gyfer y testun dan sylw
  • cyfweliadau a grwpiau ffocws a gynhelir gydag athrawon, staff cymorth, arweinwyr ysgolion a rhieni/gofalwyr
  • cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda myfyrwyr a staff academaidd sy'n ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon

Ar y cyfan, casglodd ymchwilwyr eu tystiolaeth yng ngwanwyn, haf a hydref 2020.

Cryfderau a chyfyngiadau posibl

At ei gilydd, mae’r astudiaethau ymchwil yn cynrychioli corff sylweddol o dystiolaeth empirig ar effaith y pandemig ar system addysg Cymru. Ar y cyfan, mae’r canfyddiadau yn atgyfnerthu tystiolaeth arall yn y maes hwn sy'n benodol i Gymru.

Er nad ydynt yn lleihau gwerth y canfyddiadau a gynhyrchir gan yr astudiaethau hyn, dylid ystyried y ffactorau canlynol wrth ddehongli'r canfyddiadau.  

  1. Cydnabyddir yn gyffredinol fod effaith y pandemig ar y system addysg yn amrywio i raddau rhwng ysgolion a hyd yn oed o fewn ysgolion.
  2. Oherwydd y pwysau sy'n wynebu ysgolion yn ystod y cyfnod hwn, roedd yr ymchwilwyr yn aml yn wynebu anawsterau wrth gasglu eu tystiolaeth. Er y casglwyd tystiolaeth fanwl gan sampl gweddol gynrychioliadol o ysgolion ar draws y 6 astudiaeth, gyda'i gilydd maen nhw’n cynrychioli lleiafrif o ysgolion Cymru ac ni wnaed unrhyw samplu cynrychioliadol cyffredinol.

Prif ganfyddiadau

Dysgu a chynnydd

  1. Arweiniodd symud yn gyflym at ddysgu cyfunol a dysgu o bell at gyfleoedd a heriau. Cafodd y defnydd o ddysgu digidol ei ddatblygu yn unol â'r bwriadau sy'n sail i'r cwricwlwm ysgol newydd i Gymru. Roedd llawer o ddysgwyr a theuluoedd yn wynebu anawsterau o ran mynediad i galedwedd priodol a chysylltedd priodol â’r rhyngrwyd.
  2. Roedd dysgu a chynnydd pob plentyn yn cael ei herio gan y sefyllfa yr oeddent yn ei hwynebu, ond parhaodd rhai i ffynnu tra bod eraill (yn enwedig y rhai a oedd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd dan mwy o anfantais) yn cael trafferth.
  3. Pan yr oedd dysgwyr yn ffynnu, roedd hynny yn aml oherwydd eu bod yn hyderus wrth ymgymryd â dysgu annibynnol ac oherwydd y cymorth a gawsant gan eu rhieni/gofalwyr/teuluoedd.
  4. Pan yr oedd dysgwyr yn cael trafferth, y rheswm am hynny oedd eu bod wedi colli cefnogaeth eu hathrawon ac nad oeddent yn gallu cael lefel uchel o gymorth gan rieni/gofalwyr/teuluoedd.
  5. Roedd pob dysgwr yn gweld eisiau eu cyswllt ag athrawon, yr adnoddau arbenigol sydd ar gael mewn ysgolion a rhyngweithio cymdeithasol/dysgu gyda'u cyfoedion.
  6. Roedd llawer o ddysgwyr yn ei chael hi'n anodd cynnal a datblygu eu sgiliau Cymraeg, ond lle bo cymorth priodol yn cael ei roi wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol, roedd llawer yn adennill eu cymwyseddau yn gyflym.
  7. Mae hyn yn dangos canfyddiad ehangach sy'n nodi cadernid llawer o ddysgwyr a pha mor gyflym y gallant adennill eu cymwyseddau dysgu os cânt gymorth da.
  8. Nid oedd y diffyg cynnydd a brofir gan lawer o ddysgwyr agored i niwed a dan anfantais yn ffenomen newydd, ond fe'i gwaethygwyd yn ystod y cyfnod hwn a daeth yn fwy amlwg.

Ysgol – cyfathrebu ac ymgysylltu â theuluoedd

  1. Er ei fod yn amrywio o ran graddau ac ansawdd, datblygwyd mwy o gydweithio rhwng ysgolion a chartrefi dysgwyr yn ystod y pandemig, gan gynnwys cynnwys rhieni/gofalwyr wrth gefnogi dysgu plant.
  2. Dau o'r meysydd lle tynnwyd sylw at amrywioldeb oedd cefnogaeth i ddefnyddio'r Gymraeg a phrofiad dysgwyr sy'n agored i niwed a dysgwyr sydd o dan anfantais.
  3. Effaith cydweithio rhwng ysgolion a'r cartref oedd ar ei fwyaf lle'r oedd ymgysylltiad rhieni ag ysgolion eisoes wedi’i sefydlu’n barod..

Iechyd a lles

  1. Cafodd y pandemig effaith andwyol ar iechyd meddwl a lles pob dysgwr i ryw raddau ac roedd hyn yn arbennig o wir am y dysgwyr mwyaf agored i niwed.
  2. Rhoddodd athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol gymorth eithriadol i ddysgwyr a'u teuluoedd liniaru'r effeithiau hyn, er bod amrywioldeb o ran graddau ac ansawdd y ddarpariaeth hon.
  3. Cafodd y cynnydd i lwyth gwaith arweinwyr ysgolion ac athrawon effaith anffafriol ar eu hiechyd a'u lles.
  4. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored yn y cwricwlwm.

Addysg gychwynnol i athrawon a dysgu proffesiynol

  1. Tyfodd yr angen am fwy o ddysgu proffesiynol i athrawon mewn meysydd fel dysgu cyfunol a dysgu o bell ac ymgysylltu â rhieni yn sylweddol oherwydd y pandemig; roedd y ddarpariaeth a gynigiwyd i ddiwallu'r angen hwn yn anghyson ac yn amrywio o ran ansawdd.
  2. Roedd yn rhaid i raglenni addysg gychwynnol i athrawon addasu'n gyflym er mwyn gallu gwella gwybodaeth a sgiliau athrawon dan hyfforddiant mewn meysydd fel dysgu cyfunol a dysgu o bell, iechyd a lles ac ymgysylltu â rhieni.

Argymhellion

  1. Dylai'r cwricwlwm ysgol newydd adlewyrchu pwysigrwydd y meysydd canlynol a amlygwyd gan effaith y pandemig:
  • dysgu cyfunol a dysgu o bell
  • dysgu annibynnol
  • dimensiwn teuluol a chymunedol iechyd a lles
  1. Dylai amgylchedd cartref ar gyfer dysgu fod wedi cynyddu pwysigrwydd o fewn system addysg Cymru, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu rhwng y cartref a'r ysgol, ymgysylltiad rhieni â dysgu plant a chynyddu argaeledd caledwedd a chysylltedd â'r rhyngrwyd i gefnogi dysgu cyfunol a dysgu o bell.
  2. Dylid cryfhau'r pwyslais ar yr amgylchedd dysgu yn y cartref yn arbennig ar gyfer dysgwyr dwyieithog a dysgwyr mwy agored i niwed.
  3. Dylid rhoi mwy o bwyslais mewn dysgu proffesiynol i athrawon ar ddysgu cyfunol a dysgu o bell ac ymgysylltu â rhieni.
  4. Dylid ymdrin yn well â dysgu cyfunol a dysgu o bell, iechyd a lles, yr amgylchedd dysgu yn y cartref a sefyllfa dysgwyr agored i niwed a dysgwyr sydd dan anfantais yn y cwricwlwm addysg gychwynnol i athrawon.
  5. Dylai system addysg Cymru ymgymryd â chynllunio ar gyfer y dyfodol i sicrhau ei bod yn gwbl barod i gwrdd ag unrhyw amhariad tebyg i'r hyn sydd wedi deillio o bandemig COVID-19.
  6. Dylai ymatebion i'r argymhellion uchod ystyried anghenion penodol agweddau dwyieithog system addysg Cymru.