English

Mae ymgysylltu ag ymchwil ac ymholi yn ffactor allweddol sy'n cyfrannu at ysgogi gwella ysgolion a gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru. Er mwyn datblygu fel sefydliadau sy’n dysgu cydweithredol, mae angen i ysgolion ddatblygu diwylliant o ymholi a buddsoddi yn sgiliau ymchwilio ac addysgeg pob ymarferydd.

Mae gan y Strategaeth genedlaethol ar gyfer ymchwil ac ymholiad addysgol bedwar amcan allweddol, ac un ohonynt yw cefnogi datblygiad proffesiwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru lle mae gweithwyr addysg proffesiynol yn defnyddio tystiolaeth ymchwil o ansawdd uchel ac yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymholiad proffesiynol cadarn.

Mae diwylliant o ymchwil ac ymholi yn cefnogi ysgolion i fod yn arloesol, i hunanwerthuso ac i allu chwilio am atebion i feysydd i'w gwella mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r diwylliant hwn o ymholi mewn ysgolion hefyd yn cefnogi dysgu'r system yn gyffredinol wrth i ni weithio tuag at ddatblygu fel system hunanwella.

Mewn sefydliad dysgu, mae ymarferwyr yn barod i gymryd risgiau, arbrofi ac arloesi eu haddysgu ac mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn ymholi cydweithredol a myfyriol i ymchwilio ac ymestyn eu harferion. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ymarferwyr ddatblygu sgiliau ymholi sy'n briodol i natur y dasg a'u cefnogi i fodloni disgwyliadau eu hawl ar gyfer dysgu proffesiynol.

Er mwyn cefnogi ysgolion i wreiddio diwylliant o ymholiad, mae angen i arweinwyr dynnu ar ystod o fodelau a dulliau sy'n briodol i gyd-destun yr ysgol ac anghenion ymarferwyr ac sy'n addas ar gyfer y datblygiad sy'n cael ei wneud.

At hynny, er mwyn cefnogi ymarferwyr yn yr ymgysylltiad cychwynnol â maes ymholi, mae'n fuddiol iddynt gael gafael ar dystiolaeth ac adnoddau a all ddarparu sbardun a sgaffaldio'r broses ymholi. Darperir y gefnogaeth esblygol ar gyfer ymchwil ac ymholiad gan gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau, prifysgolion, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a phartneriaid eraill.

Dyma’r ddau fath o gymorth sydd ar gael ar hyn o bryd:

Related links