English

Archwilio effaith pandemig COVID-19 ar ddysgwyr yng Nghymru.

Yr astudiaeth ymchwil

Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant ym mis Mehefin 2020 i dîm ymchwil o brifysgolion Aberystwyth a Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i gynnal yr astudiaeth hon.

Maes Ymchwil

Gan ddefnyddio tystiolaeth o sampl bach o ysgolion, mae'r ymchwil yn adrodd ar brofiad dysgwyr, rhieni/gofalwyr, athrawon ac arweinwyr yn ystod gwanwyn, haf a hydref 2020, a misoedd cynnar iawn 2021.

Methodoleg

Gan adeiladu ar adolygiad o dystiolaeth flaenorol yn y maes hwn, cynhaliodd y tîm ymchwil gyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon a gwaith ymgysylltu â dysgwyr mewn 12 ysgol ledled Cymru. Adeiladwyd y sampl i gynnwys nifer anghymesur o ysgolion sy'n darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Prif ganfyddiadau

Cyffredinol

  1. Yn gyffredinol, gwnaeth llawer o ddysgwyr addasu’n dda i'r newid i ddysgu ar-lein, ac roedd rhai wedi elwa o brofiad dysgu gwahanol. Fodd bynnag, arweiniodd effeithiau'r pandemig at amrywiaeth o anfanteision a gafodd eu profi gan bob dysgwr a gwaethygwyd hyn yn sylweddol yn achos rhai dysgwyr.
  2. Yn anaml y byddai'r anfanteision a brofir gan ddysgwyr mwy agored i niwed yn newydd, ond roedd y sefyllfa a ddeilliodd o'r pandemig yn eu gwneud yn fwy amlwg.

Penodol

  1. Er bod ansawdd dysgu seiliedig ar dechnoleg a gallu dysgwyr i addasu i'r cyd-destun newydd hwn wedi datblygu'n gyflym wrth i'r cyfyngiadau symud barhau, roedd yr annhegwch o ran cael defnyddio caledwedd priodol a chysylltedd â'r rhyngrwyd a brofwyd gan rai dysgwyr yn rhwystrau parhaus a sylweddol.
  2. Tyfodd pwysigrwydd dysgwyr yn profi amgylchedd cefnogol ar gyfer dysgu gartref yn ystod y pandemig. Roedd rhai rhieni/gofalwyr yn gallu cynorthwyo eu plant, ond am lawer o resymau nid oedd eraill, ac roedd hynny yn anfantais i ddysgu’r dysgwyr hyn.
  3. Er bod amrywiaeth yn natur y ddarpariaeth, ceisiodd pob ysgol gefnogi anghenion bugeiliol a dysgu dysgwyr gan gynnwys y rhai a oedd fwyaf agored i niwed.
  4. Er bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i gynnal y gallu i gael gwasanaethau cymorth arbenigol i ddysgwyr a'u teuluoedd, roedd llawer, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, yn wynebu heriau o ran cael gafael arnynt.
  5. Bu gan ysgolion ran bwysig yn y gwaith o gefnogi anghenion iechyd meddwl a lles dysgwyr a'u teuluoedd.
  6. Yn gyffredinol, er bod y profiad o gyfyngiadau symud wedi arwain at lawer o ddysgwyr yn peidio â gwneud yr enillion dysgu cwricwlaidd y byddent fel arfer, ffynnodd eraill drwy'r annibyniaeth gynyddol a ddarparwyd iddynt a'r gefnogaeth yr oedd eu rhieni/gofalwyr yn gallu ei chynnig.

Argymhellion

  1. Dylai profiad y system addysg yng Nghymru yn ystod y pandemig lywio ymateb uniongyrchol y system addysg a chynllunio ar gyfer unrhyw amhariad yn y dyfodol mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys:
  • defnyddio dysgu cyfunol a dysgu o bell a'r hyfforddiant a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer athrawon, dysgwyr a rhieni/gofalwyr
  • pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu yn y cartref a’r berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, gan gynnwys mewn cyd-destunau dwyieithog
  • yr angen am fwy o bwyslais ar iechyd meddwl a lles a monitro hyn y tu mewn i ysgolion ac yn amgylchedd y cartref
  • pwysigrwydd gwasanaethau cymorth arbenigol
  1. Dylai datblygu dysgwyr annibynnol a gwydn fod yn un o amcanion allweddol y cwricwlwm ysgol newydd.
  2. Dylai ysgolion ddod yn ganolfannau cymorth i'r dysgwyr sydd dan yr anfantais mwyaf ac  sydd y mwyaf agored i niwed sy'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau arbenigol awdurdodau lleol.
  3. Dylid cynnal ymchwil pellach i nodi ac integreiddio'r strategaethau mwyaf effeithiol ar gyfer dysgu cyfunol a dysgu o bell a ddatblygwyd yn ystod y pandemig.
  4. Dylid gwella'r ddarpariaeth bresennol mewn addysg gychwynnol i athrawon drwy roi mwy o sylw i feysydd fel yr amgylchedd dysgu yn y cartref, y berthynas rhwng y cartref a'r ysgol, dysgu cyfunol a dysgu o bell, anghenion dysgu ychwanegol ac iechyd meddwl a lles.

Rhagor o wybodaeth

Cyhoeddir yr adroddiad ymchwil llawn yn haf 2021 yn ardal NSERE Hwb. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â jane.waters@uwtsd.ac.uk