English

Ein gweledigaeth ar gyfer dysgu proffesiynol yw y dylai:

  • fod er lles dysgwyr a diwallu eu hanghenion
  • cefnogi datblygiad y gweithlu o fewn cyd-destun ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu
  • bod yn brofiad di-dor a chydlynol dros amser
  • bod yn gydweithredol
  • bod o natur sy'n gwerthuso a chynnwys myfyrdod ac ymholi mewn addysgeg
  • cael ei alluogi gan arweinyddiaeth mewn sefydliadau sy'n dysgu gyda chymorth cymunedau dysgu lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol

Mae'r tudalennau canlynol yn darparu gwybodaeth i arweinwyr ar y tair elfen ryng-gysylltiedig o ddatblygu'r ysgol fel sefydliad dysgu, gan alluogi pob ymarferydd i ymgysylltu â'r hawl dysgu proffesiynol cenedlaethol er mwyn datblygu eu sgiliau ymholi ac addysgeg yn y pen draw i wella addysgu a dysgu.