English

Mae’r safonau arwain systemau yn berthnasol i'r rhai sydd mewn rôl sy'n cynnwys:

  • cefnogi ysgol
  • gweithio ar y cyd ag un neu ragor o ysgolion neu leoliadau

Daeth y safonau proffesiynol diwygiedig i rym ar gyfer pob ymarferydd perthnasol ar 1 Medi 2026.

Mae'r safonau diwygiedig hyn yn adeiladu'n benodol ar y safonau proffesiynol blaenorol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a'r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu sydd wedi bod mewn grym ers 2017.

Mae'r safonau proffesiynol diwygiedig yn cadw'r un bum safon graidd:

  • addysgeg
  • arloesi
  • cydweithio
  • dysgu proffesiynol
  • arweinyddiaeth

Mae'r categorïau o ymarferwyr y mae'r safonau proffesiynol diwygiedig yn berthnasol iddynt wedi'u hehangu. Y categorïau diwygiedig erbyn hyn yw:

  • cynorthwyo addysgu
  • addysgu
  • arwain yn yr ysgol
  • prifathrawiaeth
  • arwain systemau

Mae’r categorïau arwain yn yr ysgol ac arwain systemau yn rhai newydd. Mae hyn yn adlewyrchu'r rôl hanfodol sydd gan ymarferwyr yn y categorïau hyn wrth gefnogi datblygiad eu hysgol eu hunain a'r system ysgolion yn ehangach.

Ymgynghorir ar y safonau proffesiynol ar gyfer statws athro cymwysedig yn ystod y flwyddyn academaidd 2026 i 2027 a byddant yn dod i rym ar 1 Medi 2027.

Mae’r dirwedd addysg yng Nghymru wedi newid ers gweithredu'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth ac ar gyfer cynorthwyo addysgu yn 2017. Mae'r disgwyliadau ar weithlu ysgolion wedi newid oherwydd:

Dros y degawd diwethaf mae’r byd addysg a chymdeithas wedi profi newidiadau sylweddol, gan arwain at newidiadau pwysig i rolau a chyfrifoldebau:

  • cynorthwywyr addysgu
  • athrawon
  • arweinwyr mewn ysgolion
  • penaethiaid
  • arweinwyr systemau

Fe wnaeth prosiect Canolfan Ymchwil ac Arloesi Addysgol (CERI) y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) gynnal ymchwil yng Nghymru yn ystod 2023 a 2024 ar broffesiynoldeb newydd a dyfodol addysgu. Mae’r adroddiad hwn wedi darparu tystiolaeth bwysig i alluogi Llywodraeth Cymru i ddeall natur gyfnewidiol addysgu, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, yn ogystal â blaenoriaethau newydd gweithlu’r dyfodol.

Mae'r safonau proffesiynol wedi'u dylunio i gyflawni sawl diben. Fodd bynnag, eu prif swyddogaeth yw cefnogi ymarferwyr sy'n gweithio mewn ysgolion neu leoliadau yng Nghymru i ddefnyddio'r safonau diwygiedig i ganolbwyntio ar eu gwelliant unigol eu hunain. Datblygwyd y safonau fel fframwaith cefnogol er mwyn:

  • ategu ymarfer
  • hwyluso sgyrsiau proffesiynol o ansawdd uchel rhwng ymarferwyr
  • helpu ymarferwyr i nodi eu cryfderau, eu blaenoriaethau dysgu proffesiynol a'u camau nesaf o ran gyrfa

Mae'r safonau wedi’u cydweddu’n bwrpasol â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys:

Mae'r cydweddiad hwn yn sicrhau bod y safonau proffesiynol:

  • yn aros yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion datblygol dysgwyr, ymarferwyr a'r system addysg ehangach
  • yn hwyluso datblygiad parhaus system hunanwella i ysgolion yng Nghymru

Dyluniwyd y safonau proffesiynol a'r ffyrdd y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gan roi sylw dyledus i les unigolion a'r angen i gynnal llwyth gwaith y gellir ei reoli. Bwriedir i'r safonau ddod yn rhan annatod o fywyd bob dydd mewn ysgolion a lleoliadau.

Ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu, mae'r safonau proffesiynol yn gweithredu fel offeryn ar gyfer hunanystyried, twf ac ymarfer ystafell dosbarth effeithiol. Maent yn annog:

  • dealltwriaeth gadarn o addysgeg
  • datblygiad profiadau dysgu effeithiol
  • dull hyblyg sy'n diwallu anghenion pob dysgwr o fewn cwricwlwm sy'n datblygu

Ar gyfer arweinwyr ysgolion neu leoliadau, mae'r safonau proffesiynol yn atgyfnerthu pwysigrwydd arweinyddiaeth gynhwysol, foesegol sy’n seiliedig ar weledigaeth. Maent yn hyrwyddo datblygiad diwylliannau dysgu proffesiynol lle mae staff ar bob lefel yn cael eu grymuso i:

  • arwain arloesedd
  • cymryd perchnogaeth o newid
  • cydweithio ar welliannau i’r ysgol, lleoliad neu system gyfan

Mae'r safonau proffesiynol yn cefnogi arweinwyr i feithrin lles a thwf proffesiynol ar draws eu hysgolion neu eu lleoliadau.

Ar gyfer arweinwyr systemau, mae'r safonau proffesiynol yn cefnogi cydweithio cryf o fewn ysgolion neu leoliadau a rhyngddynt a chyda phartneriaid eraill. Maent yn annog:

  • rhannu arbenigedd yn drylwyr
  • cydlyniad ar draws y system
  • diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus, ymarfer myfyriol a chyfrifoldeb ar y cyd

Ar gyfer llywodraethwyr, mae'r safonau proffesiynol yn darparu lens werthfawr i ddeall a chefnogi arferion proffesiynol ac anghenion datblygu arweinwyr ysgolion neu leoliadau a'u staff. Gall cyrff llywodraethu ddefnyddio'r safonau proffesiynol i gefnogi eu hysgol neu leoliad eu hunain ac eraill ar draws y system. Mae hyn yn galluogi llywodraethu strategol, seiliedig ar wybodaeth sydd:

  • yn gyson â'r disgwyliadau addysgegol ac arweinyddiaeth a osodir ar ysgolion a lleoliadau
  • yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol

Cefnogir y 5 safon broffesiynol gan set o ddisgrifyddion allweddol sy'n crynhoi sut y gellir dangos pob safon yn ymarferol. Mae'r rhain yn cael eu llywio gan y cyd-destun cyffredinol a nodir gan yr ymrwymiadau proffesiynol.

Mae pob disgrifydd wedi'i baru â chwestiynau myfyriol a gynlluniwyd i sbarduno sgyrsiau proffesiynol rhwng cydweithwyr. Mae hyn yn annog ymarferwyr i werthuso eu heffeithiolrwydd yn feirniadol yn y maes gwaith penodol hwnnw.

Caiff y cwestiynau hyn eu categoreiddio yn ôl gwahanol rolau proffesiynol:

  • cynorthwyo addysgu
  • addysgu
  • arwain yn yr ysgol
  • prifathrawiaeth
  • arwain systemau

Mae'r strwythur hwn yn galluogi unigolion i ymgysylltu â'r disgrifyddion mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'w rolau a'u cyfrifoldebau, gan arwain at welliannau cadarnhaol a chynaliadwy mewn ymarfer proffesiynol.
Nid yw’n fwriad i’r disgrifyddion gael eu defnyddio yn eu cyfanrwydd. Maent yn gweithredu fel ysgogiadau i gychwyn sgyrsiau cynhyrchiol â ffocws. Mae'r cwestiynau yn sbarduno sgyrsiau, yn ffordd o allu cael darlun eglur a meddwl yn feirniadol am ymarfer proffesiynol.

Drwy ddewis a dethol y disgrifyddion a'r cwestiynau hyn, gall unigolion a thimau ganolbwyntio ar y meysydd sydd fwyaf perthnasol i'w hymarfer a'u hanghenion datblygu presennol. Caiff y safonau proffesiynol eu defnyddio fel a ganlyn:

  • gan unigolion ar gyfer hunanystyried
  • gan gydweithwyr i gefnogi ei gilydd
  • ar y cyd rhwng ymarferwyr sy'n gweithio i ddatblygu gwelliant a dealltwriaeth a rennir, gan gynnwys cydweithio ar draws ysgolion a lleoliadau

Mae’r dull gweithredu hyblyg hwn yn cefnogi twf proffesiynol ac yn helpu i wreiddio’r safonau proffesiynol mewn arferion bob dydd.
Nid yw'r disgrifyddion i'w darllen na'u defnyddio fel rhestr wirio, cerdyn sgorio nac thaenlen. Ni ddylid byth eu rhestru yn nhrefn sgôr.

Mae llawer o'r disgrifyddion yn gysylltiedig o fewn safon unigol ac ar draws y 5 safon broffesiynol. Mae'r cynllun hwn yn rhoi cyfle i unigolion weithredu ar wahanol lefelau mewn gwahanol gyd-destunau, yn dibynnu ar eu rolau a'u profiad. Nod y safonau proffesiynol yw cefnogi datblygiad proffesiynol ac ymarfer myfyriol drwy alluogi unigolion i ymgysylltu â nhw a’u harchwilio mewn ffyrdd sy’n ymateb i’w cyd-destun proffesiynol, eu hanghenion a’u huchelgeisiau eu hunain.

Dylai ymarferwyr groesawu'r cymhlethdod hwn a chydnabod eu bod yn gweithio'n hyblyg ar draws gwahanol feysydd, gan addasu eu harferion i amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Ym mhob ysgol a lleoliad, dylai sgyrsiau am addysgeg fod yn rhai:

  • parhaus
  • naturiol
  • wedi'u plethu i fywyd bob dydd yr ysgol

Mae'r trafodaethau hyn yn symud yn naturiol rhwng dysgu proffesiynol, arloesi ac agweddau ar arweinyddiaeth, oll o fewn ysbryd cydweithio.
Mae'r sgyrsiau hyn:

  • yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i wella ymarfer proffesiynol er budd pob dysgwr
  • yn gallu bod yn anffurfiol neu'n ffurfiol, gyda'r elfennau ffurfiol yn cael eu cynnwys drwy'r broses adolygu datblygiad proffesiynol

Dylai ysgolion a lleoliadau ddefnyddio'r safonau proffesiynol yn greadigol. Er enghraifft, gallai adran neu dîm cyfan o staff ddefnyddio'r disgrifyddion yn y safon arloesi i archwilio effeithiolrwydd ymagwedd y tîm at arloesi. Yn yr un modd, gallai tîm benderfynu canolbwyntio ar nifer bach o ddisgrifyddion o safon benodol a chanolbwyntio ar wella'r maes hwnnw dros y tymor, gan werthuso eu gwaith ar y cyd a rhannu enghreifftiau o arferion da. Gallai dwy ysgol neu leoliad sy'n cydweithio â'i gilydd hefyd gytuno i archwilio pum disgrifydd a ddewiswyd yr un, a chymharu eu canfyddiadau. Fel arall, gallai corff llywodraethu ofyn am gael trafod enghreifftiau o ymarfer sy'n gysylltiedig â disgrifyddion a ddewiswyd sy'n arbennig o berthnasol i flaenoriaethau ei ysgol neu leoliad.

Er nad yw'n orfodol, gall cadw cofnod o'r sgyrsiau hyn fod yn ddefnyddiol wrth fyfyrio'n ddiweddarach neu lywio camau gweithredu ar gyfer y dyfodol, yn enwedig i unigolion sy'n ystyried eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain. Mae'r pasbort dysgu proffesiynol yn offeryn defnyddiol i ymarferwyr gasglu a rhannu tystiolaeth o sut maent yn bodloni'r safonau proffesiynol. Mae uwchlwytho'r enghreifftiau hyn yn cyfrannu at gasgliad cynyddol o ddeunyddiau enghreifftiol a all helpu eraill i ddeall y safonau proffesiynol a'u cymhwyso yn eu cyd-destunau yn eu hunain.

Bydd y safonau proffesiynol hefyd yn sail ar gyfer:

  • dyfarnu statws athro cymwysedig
  • cyfnod sefydlu statudol athrawon newydd gymhwyso
  • dyfarnu'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth
  • dyfarnu statws cynorthwyydd addysgu lefel uwch
  • y broses adolygu datblygiad proffesiynol

Mae gofynion y broses adolygu datblygiad proffesiynol wedi'u nodi yn Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2011. Nid yw'r trefniadau adolygu datblygiad proffesiynol ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru yn newid. Er bod y safonau proffesiynol yn cefnogi'r broses adolygu, ni fydd diweddariadau i'r safonau yn effeithio ar y canllawiau adolygu presennol. Bydd y safonau a'r adolygiad datblygiad proffesiynol yn parhau i fod yn brosesau ar wahân.