Plant 7 i 11 oed
Bydd eich plant wedi arfer dysgu mewn llawer o ffyrdd difyr a diddorol a byddant yn fwy parod i gymryd rhan mewn cydbwysedd o ddysgu gweithredol, gweithgarwch corfforol ac amser tawel i fyfyrio, fel darllen neu waith annibynnol. Mae siarad am eu dysgu yn ffordd wych iddynt ddangos yr hyn y maent wedi'i ddysgu. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod eu bod yn gweithio'n dda, dewch o hyd i ffyrdd o'u hannog a rhowch ganmoliaeth iddynt am eu hymdrechion.
Dyma rai pethau y gallwch annog eich plant i'w gwneud.
- Darllen – anogwch eich plant i ddarllen yn rheolaidd, boed i ddarganfod gwybodaeth neu i fwynhau. Mae llyfrau'n adnodd dysgu gwerthfawr. Gallant danio'r dychymyg, gwella geirfa ac annog natur chwilfrydig plant. Bydd rhannu llyfrau â nhw a gofyn cwestiynau iddynt am y stori maent wedi'i darllen neu beth maent wedi'i ddarganfod mewn llyfrau gwybodaeth yn dangos eich bod chi yn gwerthfawrogi hyn hefyd.
- Cael hwyl – gall treulio amser fel teulu yn chwarae gemau helpu i ddatblygu nifer o sgiliau, megis cymryd tro, canolbwyntio, gwrando ar bobl eraill a defnyddio rhifau a chyfrif. Gall heriau i'r cartref, megis cynllunio sioe dalent, perfformiad canu a dawnsio neu chwarae gemau dyfalu fod yn ffordd o gynnwys y teulu cyfan.
- Chwarae gyda'i gilydd ac ar eu pen eu hunain – mae'n bwysig rhoi amser i'ch plant chwarae'n annibynnol i ddatblygu eu dychymyg a'u creadigrwydd. Gan ddibynnu ar eu hoedran a'u diddordebau, anogwch y plant i chwarae gemau cogio bach megis chwarae siop neu ysgol, mynd i'r caffi neu fforio yn yr ardd. Mae plant yr oed hwn yn dal i fwynhau chwarae ag amrywiaeth o deganau a gemau – gall y rhain helpu i dynnu eu sylw a rhoi ymdeimlad o sicrwydd iddynt.
- Bod yn greadigol – mae angen meddwl, cyfathrebu a chydweithio i greu pethau neu berfformio. Gellir gwneud gweithgareddau creadigol dan do neu yn yr awyr agored os oes gennych le a gallant gynnwys coginio, garddio, paentio, darlunio, cerddoriaeth a dawnsio. Gallech ddefnyddio eich deunyddiau ailgylchu (megis cardbord a phlastig) i greu pethau sydd o ddiddordeb iddynt. Bydd llawer o'r gweithgareddau hyn hefyd yn cynnwys defnyddio sgiliau rhif, megis mesur a chyfrif.
- Archwilio diddordebau – mae plant yn datblygu llawer o sgiliau wrth ddysgu mwy am rai o'u hoff bethau. Bydd ymchwilio i bynciau sydd o ddiddordeb personol yn cymell ac yn annog eich plant i ddysgu mwy. Byddant yn mwynhau'r boddhad o ddangos yr hyn maent wedi'i ddysgu.
- Defnyddio technoleg - gall cyfrifiaduron a thabledi fod yn adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer dysgu, ond nid oes rhaid i bopeth gael ei ysgrifennu neu ei deipio. Gall plant ddangos yr hyn y maent wedi'i ddysgu drwy greu fideos, recordiadau sain neu dynnu lluniau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cefnogi i wneud penderfyniadau da am eu hamser yn edrych ar sgrin a helpwch nhw i reoli eu hamser.
Dylech gysylltu ag ysgol eich plant os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i gefnogi dysgu eich plant. Os oes angen rhagor o gymorth neu syniadau arnoch, rhowch gynnig ar y wybodaeth ganlynol.
Mae S4C wedi creu casgliad o adnoddau Cymraeg i blant a dolenni i gemau addysgol, straeon, ac ati.
Mae'r Gymdeithas Chwarae Ryngwladol yn cynnig cymorth a gweithgareddau i gefnogi chwarae mewn llawer o ffyrdd gwahanol.