English

Yn ystod y pandemig COVID-19, mae ysgolion weithiau'n gorfod gosod gwaith a gweithgareddau i ddisgyblion dysgu o bell. Os yw eich plentyn yn gorfod dysgu o gartref, ni ddisgwylir i chi fod yn athro/athrawes ysgol, ond mae ffyrdd y gallwch helpu i gefnogi ei ddysgu. Y peth pwysicaf yw gofalu am iechyd a lles eich teulu. Bydd iechyd a lles da yn helpu gyda dysgu eich plant.

Bydd athro eich plant yn dal i arwain eu dysgu yn ystod y cyfnod hwn. Os yw'n bosibl, ceisiwch ddilyn y gweithgareddau y mae'r ysgol yn eu gosod, ond bydd yr hyn rydych yn gallu ei wneud yn dibynnu ar sefyllfa eich teulu. Dylech siarad ag ysgol eich plant gyntaf os oes angen cymorth a chyngor ychwanegol arnoch ynghylch sut i gefnogi eu dysgu. Mae'r staff yn ysgol eich plant yn eu hadnabod yn dda a byddant am helpu, er enghraifft gyda chyngor ynghylch:

  • y ffordd orau o gefnogi dysgu eich plant
  • sut i gael gafael ar gymorth ar gyfer eu hanghenion penodol
  • beth i'w wneud os bydd gennych chi neu eich plant gwestiynau am eu gwaith
  • beth i'w wneud os byddwch chi neu eich plant yn cael eich llethu gan waith ysgol
  • beth i'w wneud os nad oes gennych fynediad at ddyfais addas wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd i gael mynediad at weithgareddau dysgu ar-lein gartref (mae help ar gael) i gefnogi teuluoedd trwy'ch ysgol neu'ch awdurdod lleol.

Ysgol eich plant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf bob amser, ond mae'n bwysig cofio bod pob teulu'n wahanol ac mae'n rhaid i chi wneud beth sy'n gweithio orau i chi. Os byddwch yn cysylltu ag ysgol neu athro eich plant, dylech ddefnyddio'r sianeli cyfathrebu mae eich ysgol wedi'u sefydlu i wneud hyn.

Mae'r adran Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am weithio a chymdeithasu ar-lein, gan gynnwys pethau i'w hystyried os bydd eich ysgol wedi dewis ffrydio gwersi'n fyw.

Diben y wybodaeth ganlynol yw eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd sy'n gweithio i'ch teulu er mwyn sicrhau bod eich plant yn dal ati i ddysgu.