English

Gallwch gefnogi dysgu eich plant drwy eu hannog a bod yn gwmni iddynt a thrwy ddarparu amgylchedd dysgu addas. Efallai y bydd angen llonydd arnynt i gwblhau rhai tasgau, ond nid ar gyfer rhai eraill.

Bydd eich plant yn astudio amrywiaeth o bynciau ac mae'n bosibl y bydd gennych fwy o wybodaeth am rai ohonynt nag eraill. Cofiwch nad oes gofyn i chi addysgu eich plant, dim ond helpu i gefnogi eu dysgu. Dyma rai ffyrdd y gallwch wneud hynny.

  • Sefydlwch strwythur ar gyfer y diwrnod gyda ffiniau clir rhwng dysgu ac ymlacio. Mae plant yn amrywio ac mae'n bosibl y bydd angen iddynt reoli eu dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw'n hawdd dod o hyd i'r cydbwysedd cywir, ond mae eu hamddiffyn rhag treulio gormod o amser ar waith ysgol yr un mor bwysig â'u hannog i ddysgu.
  • Cymerwch ddiddordeb yn nysgu eich plant. Mae trafod tasgau yn ffordd effeithiol a phwerus o gefnogi eich plant. Gallech geisio darllen drwy'r dasg osod gyda nhw, ei thrafod â'ch gilydd a hyd yn oed rhoi cymorth gyda gwaith ymchwil. Mae'n bosibl ei fod yn rhywbeth anghyfarwydd i chi.
  • Cefnogwch gydweithrediad ag eraill. Byddai llawer o dasgau yn y dosbarth wedi bod yn weithgareddau pâr neu grŵp. Mae'n bosibl na fyddwch chi'n gallu helpu gyda thasg ond efallai eich bod yn adnabod rhywun a allai helpu neu gallent weithio gyda'u ffrindiau o bell.
  • Cefnogwch eich plant i ymarfer a chryfhau sgiliau allweddol a fydd yn helpu drwy amrywiaeth o dasgau ym mhob pwnc; sgiliau megis cynllunio a threfnu, cyfathrebu, darllen, ysgrifennu, gwaith rhif, sgiliau digidol a datrys problemau.
  • Mae'n bosibl y bydd plant sy'n dechrau eu TGAU eleni yn arbennig o bryderus am fod ar ei hôl hi gyda'u dysgu. Os oes angen cyngor a chymorth arnoch, siaradwch ag ysgol eich plant gyntaf. Dylai'r gwaith a gaiff ei osod gan yr ysgol fod yn ddigon.
  • Gall plant sydd yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol fod yn bryderus. Dylech eu sicrhau na fyddant dan anfantais oherwydd y sefyllfa bresennol a bod y gwaith y maent wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud, yn cael ei werthfawrogi. Os oes angen cyngor a chymorth arnoch, siaradwch ag ysgol eich plant gyntaf Gellir cael rhagor o wybodaeth am cymwysterau a graddau ar wefan cymwysterau cymru.
  • Anogwch eich plant i wneud pethau maent yn eu mwynhau y tu allan i waith ysgol. Bydd hyn yn eu bywiogi ac mae'n bwysig ar gyfer eu lles cyffredinol.

Dylech gysylltu ag ysgol eich plant os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i gefnogi dysgu eich plant. Os oes angen rhagor o adnoddau dysgu arnoch, efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol.

Adnoddau Hwb 11 i 14 oed

Adnoddau Hwb 14 i 16 oed

BBC Bitesize

Mae S4C wedi creu casgliad o adnoddau Cymraeg i blant.