English

Os yw eich plant yn mynd i ysgol Gymraeg neu'n dysgu Cymraeg mewn ysgol Saesneg neu ysgol ddwyieithog, mae cymorth ar gael i'w helpu i ddefnyddio'r Gymraeg gartref. Er mwyn helpu i wirio sillafu a gramadeg Cymraeg, mae meddalwedd iaith Gymraeg ar gael am ddim o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Llywodraeth Cymru. Mae adnoddau dysgu o bell ar gyfer pob oedran hefyd ar gael mewn un lle. Bydd ysgol eich plant yn gallu cynnig cymorth hefyd.