MAES DYSGU A PHROFIADY Celfyddydau Mynegiannol
Canllawiau i helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu o ran y pedwar diben.
4. Disgrifiadau dysgu
Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm Dysgu. Dysgu mwy am y disgrifiadau Dysgu.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu archwilio ac arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau, deunyddiau, prosesau, adnoddau, offer a thechnolegau creadigol.
Rwy’n gallu archwilio, arbrofi gyda, ac yna ddewis technegau, dulliau, deunyddiau, prosesau, adnoddau, offer a thechnolegau creadigol priodol.
Rwy’n gallu archwilio ac arbrofi’n annibynnol, a dangos rheolaeth dechnegol gydag ystod o ddeunyddiau, prosesau, adnoddau, offer a thechnolegau creadigol gan ddangos arloesedd a gwydnwch.
Rwy’n gallu archwilio’r effeithiau mae ystod o dechnegau, deunyddiau, prosesau, adnoddau, offer a thechnolegau creadigol yn eu cael ar fy ngwaith creadigol fy hun ac eraill.
Rwy’n gallu archwilio ac arbrofi gyda fy syniadau creadigol fy hun a syniadau creadigol pobl eraill, gan ddangos rheolaeth dechnegol sy’n gynyddol gymhleth, arloesedd, meddwl annibynnol a gwreiddioldeb er mwyn datblygu fy ngwaith gyda hyder.
Rwy’n gallu gwneud hyn gan esbonio fy rhesymau dros wneud penderfyniadau, a gwerthuso eu heffeithiolrwydd ar fy ngwaith creadigol.
Rwy’n gallu archwilio ac arbrofi gyda fy syniadau creadigol fy hun a syniadau creadigol pobl eraill, gan ddangos rheolaeth dechnegol, arloesedd, meddwl annibynnol a gwreiddioldeb, gan ddangos hyder i gymryd risgiau a datblygu gwydnwch er mwyn goresgyn heriau creadigol.
Rwy’n gallu gofyn cwestiynau i ganfod sut y caiff gwaith creadigol ei wneud.
Rwy’n gallu archwilio pam a sut y caiff gwaith creadigol ei wneud trwy ofyn cwestiynau a datblygu fy atebion fy hun.
Rwy’n gallu archwilio sut y gall gwaith creadigol gynrychioli, cofnodi, rhannu a dathlu hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol.
Rwy’n gallu archwilio gwaith creadigol gan ddeall y cyd-destun personol, cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol, gan gynnwys confensiynau’r cyfnod y cafodd y gwaith ei greu ynddo.
Rwy’n gallu ymchwilio a dadansoddi sut mae gwaith creadigol yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli a dathlu hunaniaethau personol, cymdeithasol a diwylliannol.
Rwy’n dechrau archwilio syniadau, teimladau a gwahanol naws mewn amrywiaeth o waith creadigol.
Rwy’n gallu archwilio a disgrifio sut mae artistiaid a gwaith creadigol yn cyfleu gwahanol naws, teimladau a syniadau.
Rwy’n gallu archwilio a disgrifio sut mae artistiaid a gwaith creadigol yn cyfleu gwahanol naws a syniadau, a’r effaith maen nhw’n ei chael ar gynulleidfa.
Rwy’n gallu ymchwilio a deall sut mae ystyr yn cael ei gyfleu trwy syniadau artistiaid a pherfformwyr eraill.
Rwy’n gallu ymchwilio yn annibynnol i ddiben ac ystyr ystod eang o waith creadigol ac ystyried pa effaith y gallan nhw ei chael ar wahanol gynulleidfaoedd.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu gwrando ar eraill yn mynegi barn ar fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill ac ymateb iddyn nhw.
Rwy’n gallu rhoi a derbyn adborth fel artist ac fel cynulleidfa.
Rwy’n gallu rhoi ac ystyried adborth adeiladol am fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill, gan fyfyrio arno a’i wella yn ôl y gofyn.
Rwy’n gallu gwerthuso fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill yn effeithiol gan ddangos hyder cynyddol i adnabod a chyfleu cryfderau, ac i ddangos gwydnwch a phenderfyniad i wella.
Rwy’n gallu dadansoddi ac ymateb yn feirniadol ac yn feddylgar i farn a dylanwadau creadigol pobl eraill er mwyn llywio a datblygu fy ngwaith creadigol yn annibynnol.
Rwy’n dechrau cymharu fy ngwaith creadigol gyda gwaith creadigol pobl eraill.
Rwy’n gallu cymharu fy ngwaith creadigol fy hun gyda gwaith creadigol pobl eraill, ac o leoedd a chyfnodau gwahanol.
Rwy’n gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gyd-destun, a gwneud cysylltiadau rhwng fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill, ac o leoedd a chyfnodau gwahanol.
Rwy’n gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gyd-destun wrth werthuso fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill, ac o leoedd a chyfnodau gwahanol.
Rwy’n gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o gyd-destun yn bwrpasol wrth werthuso fy ngwaith creadigol fy hun a gwaith creadigol pobl eraill, ac o leoedd a chyfnodau gwahanol.
Rwy’n dechrau siarad am fy hwyliau a’m hemosiynau, a defnyddio’r rhain i ddylanwadu ar fy ngwaith creadigol.
Gydag arweiniad, rwy’n gallu ystyried y ffordd y caiff hwyliau, emosiynau a syniadau eu cyfleu yn fy ngwaith creadigol fy hun ac yng ngwaith creadigol pobl eraill.
Rwy’n gallu myfyrio ar y ffordd y mae artistiaid wedi llwyddo i greu effeithiau neu gyfleu hwyliau, emosiynau a syniadau yn eu gwaith.
Rwy’n gallu gwerthuso effeithiolrwydd ystod eang o dechnegau artistig wrth gynhyrchu ystyr.
Rwy’n gallu gwerthuso’n feirniadol y ffordd y mae artistiaid yn defnyddio sgiliau sy’n perthyn i ddisgyblaeth benodol i greu a mynegi syniadau.
Cam cynnydd 1 Cam cynnydd 2 Cam cynnydd 3 Cam cynnydd 4 Cam cynnydd 5 Tabl o fewn cam Dilyniant 1 trwy 5, mae Colofn 1 yn cyfeirio at gam dilyniant 1 ac yn parhau yn y drefn honno. Rwy’n gallu mynegi fy syniadau, teimladau ac atgofion yn fy ngwaith creadigol.
Rwy’n gallu cyfleu syniadau, teimladau ac atgofion ar gyfer cynulleidfa ac ar gyfer dibenion a chanlyniadau yn fy ngwaith creadigol.
Rwy’n gallu cyfuno fy ngwybodaeth, profiad a dealltwriaeth i gynllunio a chyfleu fy ngwaith creadigol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd, dibenion a chanlyniadau.
Rwy’n gallu defnyddio fy sgiliau arbrofi ac ymchwilio i drin gwaith creadigol gyda phwrpas a bwriad wrth fynegi fy syniadau.
Rwy’n gallu dwyn ynghyd a chymhwyso profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth mewn ffordd soffistigedig a chyda bwriad wrth fynegi fy syniadau.
Rwy’n gallu efelychu technegau artistig cydnabyddedig wrth greu fy ngwaith fy hun.
Rwy’n dechrau cymhwyso technegau yn fy ngwaith creadigol gydag arweiniad a chyfarwyddyd.
Rwy’n gallu defnyddio ystod o dechnegau penodol i’r ddisgyblaeth sy’n gyfarwydd i mi, yn fy ngwaith creadigol.
Rwy'n gallu cymhwyso sgiliau technegol arbenigol yn fy ngwaith creadigol.
Rwy’n gallu defnyddio technegau proffesiynol cydnabyddedig, sy’n benodol i’r ddisgyblaeth, yn hyderus a chydag arddeliad yn fy ngwaith creadigol, gan weithio tuag at safon diwydiant.
Rwy’n dechrau dylunio fy ngwaith creadigol fy hun.
Rwy’n gallu creu fy nyluniadau fy hun, ac rwy’n gallu gweithio ar y cyd gydag eraill i ddatblygu syniadau creadigol.
Rwy’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth ddylunio a gwneud cysylltiadau gydag annibyniaeth gynyddol er mwyn addasu a datblygu fy nyluniadau creadigol.
Rwy’n gallu defnyddio fy sgiliau dylunio yn bwrpasol a chymhwyso ystod o ddatrysiadau i egluro a mireinio syniadau creadigol terfynol.
Rwy’n gallu dylunio deilliannau creadigol gyda soffistigeiddrwydd i safon broffesiynol a safon diwydiant, a hynny gyda phwrpas a bwriad clir.
Rwy’n gallu rhannu fy ngwaith creadigol.
Rwy’n gallu perfformio, cynhyrchu, dylunio, arddangos a rhannu fy ngwaith creadigol mewn amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, a hyn wedi’i ysbrydoli gan ystod o sbardunau a phrofiadau.
Rwy’n gallu perfformio, cynhyrchu, dylunio, arddangos a rhannu fy ngwaith creadigol mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol, gan ystyried effaith fy ngwaith creadigol ar y gynulleidfa.
Rwy’n gallu perfformio, cynhyrchu, dylunio, arddangos a rhannu fy ngwaith creadigol gan ddangos ymwybyddiaeth o fwriad artistig a chynulleidfa.
Rwy’n gallu ystyried diben artistig, pwrpas a chynulleidfa mewn ffordd wybodus wrth berfformio, cyflwyno a marchnata fy ngwaith creadigol.
Rwy’n dechrau dangos gwydnwch a hyblygrwydd wrth fynd i’r afael â heriau creadigol.
Rwy’n gallu adnabod ac ymateb yn greadigol i heriau, a gwneud hyn gyda gwydnwch a hyblygrwydd.
Rwy’n gallu goresgyn heriau creadigol gyda dychymyg a gwydnwch drwy ddefnyddio fy mhrofiadau a’m gwybodaeth, a hyn er mwyn llywio a datblygu strategaethau.
Rwy’n gallu defnyddio strategaethau effeithiol i gymryd risg gyda fy ngwaith creadigol fy hun, ac rwy’n gallu dangos gwydnwch i oresgyn heriau creadigol.
Rwy’n dechrau defnyddio deunyddiau creadigol yn ddiogel gydag arweiniad a chyfarwyddyd.
Rwy’n gallu defnyddio deunyddiau creadigol yn ddiogel gyda pheth rheolaeth o dan oruchwyliaeth.
Rwy’n gallu dewis a defnyddio’r offer a’r deunyddiau creadigol cywir yn ddiogel gyda pheth ystyriaeth tuag at eraill.
Rwy’n gallu, yn hyderus, ystyried fy hun, pobl eraill, y gynulleidfa, cyfranogwyr a materion eiddo deallusol wrth greu gwaith.
Rwy’n gallu gwerthuso a barnu priodoldeb fy ngwaith creadigol fy hun mewn perthynas ag ystyriaethau moesegol a chyfreithiol, a’i effaith ar gyfranogwyr a chynulleidfaoedd.