Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir am ei fabwysiadu, pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny.
- Rhan o
Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir am ei fabwysiadu, pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny. At ddefnydd y canlynol y mae yn bennaf:
- arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar yng Nghymru
- athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu'r rhai mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy'n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg gynnar
- sefydliadau eraill sy'n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
- arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir nad ydyn nhw’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar ond y mae'n ofynnol, o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, iddyn nhw ymarfer yn unol â gofynion statudol y cwricwlwm
Wrth gyflawni dyletswydd statudol Llywodraeth Cymru, mae'r cwricwlwm hwn yn bodloni'r gofynion canlynol:
- mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm
- mae'n eang ac yn gytbwys
- mae’n addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
- mae'n darparu llwybr cynnydd priodol i bob dysgwr
Mae'r cwricwlwm hwn hefyd yn:
- cwmpasu’r chwe maes dysgu a phrofiad
- cwmpasu'r 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig
- adlewyrchu egwyddorion cynnydd
- cwmpasu elfennau gorfodol y cwricwlwm, gan gynnwys y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol
Dylai lleoliadau sy'n dewis mabwysiadu'r cwricwlwm hwn ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gefnogi cynllunio effeithiol er mwyn sicrhau cwricwlwm sy'n briodol yn ddatblygiadol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.
Er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau ymarferwyr wrth weithredu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu, rydym wedi datblygu 2 set o fodiwlau dysgu.
Dysgu proffesiynol: cefnogaeth dysgu sylfaen i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau
Mae'r adnodd dysgu proffesiynol: cymorth dysgu sylfaen i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau yn canolbwyntio ar:
- dysgu yn yr awyr agored
- datblygiad plant
- cyfnodau pontio
- arsylwi
- chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae
- dysgu dilys a phwrpasol
Dysgu proffesiynol: cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
Mae'r adnodd dysgu proffesiynol: cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn canolbwyntio ar:
- deall Cwricwlwm i Gymru a datblygiad cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
- deall y pum llwybr datblygu ac addysgeg
- datblygiad sgematig: sylwi ar y patrymau ymddygiad ailadroddus mewn chwarae plant a’u cefnogi
- arweinyddiaeth mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir
- Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir pdf 16.00 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Mae rhagor o wybodaeth, ar ffurf cwestiynau cyffredin, ar ddysgu sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ar gael.
- Dysgu sylfaen mewn ysgolion a lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir pdf 169 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Os hoffech fersiwn testun plaen o’r ddogfen hon, cysylltwch â CwricwlwmiGymru@llyw.cymru