Cefnogi’r broses o drosglwyddo o’r trefniadau presennol i Gwricwlwm i Gymru
Diben y diweddariad hwn yw darparu gwybodaeth i barhau i helpu ysgolion a lleoliadau baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ar ôl mis Medi 2022.
- Rhan o
Cyflwyniad
Er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i gynllunio ar gyfer rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith ar ôl mis Medi 2022, mae’r diweddariad hwn yn rhoi gwybodaeth mewn perthynas â’r canlynol:
- yr hyn y dylai ysgolion a lleoliadau ei wneud wrth baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru
- yr hyn y dylai ysgolion ei wneud i gefnogi dysgwyr o dan y trefniadau asesu presennol nes y bydd y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn cyrraedd y grwpiau blwyddyn perthnasol
Mae’r cwricwlwm newydd yn orfodol ers 1 Medi 2022 ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn:
- plant sy’n cael addysg feithrin
- disgyblion yn eu blwyddyn dderbyn
- disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6
- ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgolion a lleoliadau eraill lle mae cwricwlwm wedi’i fabwysiadu neu’n cael ei ddarparu mewn ffordd arall yn unol â’r Ddeddf
Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gael ei gyflwyno a bydd yn orfodol i bob disgybl mewn lleoliadau ac ysgolion a gynhelir fel a ganlyn:
- blwyddyn 7 a blwyddyn 8 o 1 Medi 2023
- disgyblion ym mlwyddyn 8 o 1 Medi 2024
- disgyblion ym mlwyddyn 10 o 1 Medi 2025
- ac ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 erbyn 1 Medi 2026
Mae’r wybodaeth sydd yma yn ychwanegu at Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a dylid ei ddarllen ar y cyd â 'Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm' a 'Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu'.
Y trefniadau asesu mewn ysgolion o dymor yr haf, 2022
Gofynion asesu o dymor yr haf 2022
Fel rhan o asesu dysgwyr o dymor yr haf 2022, rhaid i ysgolion barhau i wneud y canlynol:
- Defnyddio asesu parhaus yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 i wneud cynnydd effeithiol drwy gydol y cwricwlwm presennol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd (gan ddefnyddio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol).
- Parhau i sicrhau bod dysgwyr ym Mlynyddoedd 7 i 9 yn cymryd asesiadau personol Darllen, Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) yn unol ag ‘Asesiadau Personol Darllen a Rhifedd: llawlyfr gweinyddu 2022 i 2023’ (‘y llawlyfr gweinyddu’). Mae'r asesiadau statudol hyn ar gael i'w defnyddio gydol y flwyddyn academaidd, fel y gall ysgolion drefnu i'w cynnal ar adeg a fyddai'n fwyaf buddiol iddynt i gefnogi, dysgu, addysgu a chynnydd.
- Ac eithrio mewn ysgolion arbennig, cynnal asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 9, ac adrodd ar eu cyrhaeddiad.
Gofynion asesu i’w dileu o dymor yr haf 2022
Er mwyn gwneud lle i ymarferwyr wrth iddynt baratoi eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu newydd a chreu hyblygrwydd iddynt gynllunio trefniadau pontio esmwythach i ddysgwyr, rydym wedi gwneud newidiadau deddfwriaethol i ddileu’r gofynion canlynol ar ysgolion, sy’n golygu nad oes angen i ysgolion wneud y canlynol mwyach:
- cynnal asesiadau athrawon sylfaenol a diwedd y Cyfnod Sylfaen
- cynnal asesiadau athrawon diwedd Cyfnod Allweddol 2
- cymedroli asesiadau athrawon diwedd Cyfnod Allweddol 2 a diwedd Cyfnod Allweddol 3.
- cynnwys canlyniadau asesiadau athrawon diwedd y Cyfnod Sylfaen a diwedd Cyfnod Allweddol 2 wrth adrodd i rieni a gofalwyr
- adrodd ar ganlyniadau asesiadau athrawon ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a diwedd Cyfnod Allweddol 2 i'r awdurdod lleol (ni fydd angen i awdurdodau lleol adrodd ar y canlyniadau hyn i Lywodraeth Cymru mwyach).
Yn ychwanegol at yr uchod, ni fydd yn ofyniad ar ysgolion arbennig i gynnal asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhesymeg dros y newidiadau hyn i’w gweld yn y datganiad ysgrifenedig hwn.
Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr: y trefniadau o 2022 ymlaen
Mae darparu adroddiadau ysgrifenedig gan benaethiaid mewn perthynas â phob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion yn parhau i fod yn ofyniad statudol ar gyfer yr ysgolion/lleoliadau hynny sydd heb gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru eto. I’r rhai sydd wedi, o dan y Cwricwlwm i Gymru mae’r rheoliadau yn gosod dyletswydd ar benaethiaid i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth am gynnydd blynyddol dysgwyr. Y pennaeth fydd yn pennu’r ffurf fwyaf priodol ar gyfer darparu’r wybodaeth i rieni a gofalwyr, ynghyd ag amseriad y ddarpariaeth.
Mae'n dal yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir sy’n darparu Cwricwlwm 2008 adrodd i rieni a gofalwyr ar ganlyniadau asesu athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (yr unig eithriad yw o ran deilliannau ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 mewn ysgolion arbennig). Bydd yn parhau’n ofynnol i benaethiaid adrodd ar ddyfarniadau cymwysterau, neu rannau o gymwysterau, a gyflawnwyd gan ddysgwyr.
Dylai’r adroddiadau i rieni a gofalwyr adeiladu ar arferion effeithiol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, gan gynnwys cyfathrebu dwyffordd gyda rhieni a gofalwyr, gan eu cefnogi i ddatblygu dealltwriaeth glir o gynnydd eu plentyn ac o’i anghenion y dyfodol a sut y gallant gefnogi'r anghenion hynny. Bydd yr ymgysylltu gweithredol hwn yn helpu i roi sicrwydd i rieni a gofalwyr nid yn unig o ran cynnydd ond hefyd o ran lles eu plentyn a sut mae’n cymryd rhan mewn dysgu. Rydym yn argymell bod ysgolion yn gwneud pob ymdrech i wneud adroddiadau'n ddiddorol, yn llawn gwybodaeth ac yn hygyrch i rieni a gofalwyr.
Cadarnhau’r gofynion ar gyfer asesu dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 wrth gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru
Mae cefnogi cynnydd pob dysgwr unigol yn ganolbwynt asesu parhaus o fewn cyd-destun dydd i ddydd. Bydd rhai trefniadau asesu yn parhau i fod ar waith ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 sy'n cael eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol presennol, nes bod y Cwricwlwm i Gymru wedi’i gyflwyno i Flwyddyn 9 ym mis Medi 2024. Mae'r adran hon yn egluro'r hyn sy'n ofynnol ac nad yw'n ofynnol fel rhan o'r trefniadau hyn.
Ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 a addysgir o dan Gwricwlwm Cenedlaethol 2008, rhaid i ysgolion barhau i wneud y canlynol:
- Cefnogi dysgwyr, drwy asesu parhaus yn yr ystafell ddosbarth, i wneud cynnydd effeithiol ar draws y cwricwlwm presennol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd (gan ddefnyddio'r ‘Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol’)
- Sicrhau bod dysgwyr ym mhob grŵp blwyddyn yng Nghyfnod Allweddol 3 yn dal i ddilyn trefniadau 2008, a bod pob dysgwr sy'n symud i’r Cwricwlwm i Gymru, yn cymryd asesiadau personol mewn Darllen, Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) yn unol â'r llawlyfr gweinyddu Mae'r asesiadau statudol hyn ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd i ysgolion eu hamserlennu ar adeg y maent yn ei hystyried yn fwyaf buddiol i gefnogi dysgu, addysgu a chynnydd
- Ac eithrio mewn ysgolion arbennig, cynnal asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3
- Ac eithrio mewn ysgolion arbennig, adrodd ar ganlyniadau asesiadau athrawon ar gyfer diwedd Cyfnod Allweddol 3 i’r awdurdod lleol.
Mae'r trefniadau hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i ysgolion.
Wrth gynllunio asesiad i gefnogi dysgwyr Cyfnod Allweddol 3, cofiwch:
- nad oes raid i bob ysgol, ac eithrio ysgolion arbennig, ond asesu ac adrodd ar gyrhaeddiad dysgwyr yn erbyn disgrifyddion lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd y cyfnod allweddol, hynny yw yn nhymor yr haf ym Mlwyddyn 9 (heb fod yn hwyrach nag 20 diwrnod gwaith cyn diwedd y tymor).
- y gall ymarferwyr ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn flaenorol i gefnogi'r broses hon.
- yn ystod y cyfnod allweddol, y dylai ymarferwyr ond defnyddio'r disgrifyddion lefel sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglenni astudio i lywio dysgu ac addysgu a helpu i gefnogi dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 i wneud cynnydd. Nid yw'n ofynnol i ymarferwyr asesu dysgwyr yn uniongyrchol yn erbyn lefelau yn ystod y cyfnod allweddol.
- Nad oes gofyniad i ddyrannu 'is-lefelau' i ddysgwr nac i ddarn o waith yn ystod, neu ar ddiwedd, y cyfnod allweddol.
Mewn perthynas ag addysgu a dysgu o ddydd i ddydd a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd, gall ymarferwyr ddefnyddio'r dull asesu a amlinellir yn 'Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu' os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Sicrhau cysondeb mewn asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3
Er ein bod yn bwriadu dileu'r gofynion i gymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 er mwyn creu mwy o hyblygrwydd i ysgolion uwchradd, rydym yn cynghori'n gryf bod ymarferwyr yn sicrhau dull cyson ar gyfer eu dysgwyr. Nid yw hyn yn golygu y dylid sefydlu proses ar wahân, ond yn hytrach bod ymarferwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol yn yr ysgol i sicrhau cysondeb yn y modd y caiff dysgwyr eu hasesu ac y caiff lefelau eu dyfarnu ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.
I gefnogi'r trafodaethau hyn, efallai y bydd ymarferwyr am gyfeirio at y canllawiau a ddarperir ar gyfer pynciau'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae pob dogfen yn cynnwys enghreifftiau o waith dysgwyr i fod yn enghraifft o'r disgrifiadau a amlinellir yn y disgrifyddion lefel a dangos sut i'w defnyddio i roi lefel diwedd Cyfnod Allweddol 3 i ddysgwyr.
Paratoi ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru
Wrth i ysgolion a lleoliadau baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol i'r hyn a amlinellir yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’ i gefnogi eu cynllunio. Mae rhagor o ddeunyddiau ategol ymarferol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn awr ar gael.
Trefniadau asesu wrth i ddysgwyr ddechrau mewn ysgol neu leoliad
O dan y Cwricwlwm i Gymru, bydd y trefniadau asesu wrth i ddysgwr ddechrau yn rhan bwysig o drefniadau asesu cyffredinol ysgol neu leoliad i gynllunio a chefnogi dysgwr yn briodol i wneud cynnydd o fewn cwricwlwm.
I gefnogi hyn, o dan y trefniadau newydd rhaid i ysgolion a lleoliadau:
- wneud a gweithredu trefniadau asesu sy'n helpu i greu darlun o alluoedd a doniau'r dysgwr mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol neu'r lleoliad
- gweithredu'r asesiadau ar gyfer dysgwyr sydd newydd eu cofrestru mewn ysgol neu leoliad (ac eithrio dysgwyr Blwyddyn 6 sy'n pontio i Flwyddyn 7), gan gydnabod bod plant a dysgwyr yn mynd i mewn i ysgolion a lleoliadau ar wahanol adegau ar draws y continwwm rhwng 3 ac 16 oed
- cynnal yr asesiadau o fewn 6 wythnos i ddysgwr gyrraedd ysgol neu leoliad i gefnogi dealltwriaeth o ddechrau taith y dysgwr
- defnyddio canlyniadau'r asesiadau i gynllunio'r camau nesaf a theilwra’r dysgu a’r addysgu i alluogi cynnydd.
Er mwyn sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau yr hyblygrwydd i sicrhau bod eu trefniadau asesu wrth i ddysgwyr ddechrau yn cyd-fynd â'u cwricwlwm, ysgolion a lleoliadau fydd yn gyfrifol am bennu manylion y trefniadau hyn. Er hynny, rhaid i’r asesiadau fodloni’r canlynol:
- bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
- cefnogi sgiliau rhifedd
- cefnogi sgiliau llythrennedd
- cefnogi datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant a dysgwyr
Ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n pontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, dylid trosglwyddo gwybodaeth i gefnogi eu cynnydd ar hyd y continwwm dysgu fel rhan o drefniadau pontio a roddir ar waith rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Felly, mae cydweithio effeithiol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd yn allweddol i gefnogi taith ddysgu esmwyth ar hyd y continwwm rhwng 3 ac 16 oed.
Datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
Gan adlewyrchu rôl sylfaenol cynnydd o fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyflwyno Cyfarwyddyd yn ymwneud â datblygu a chynnal cyd-ddealltwriaeth o gynnydd ym mis Mehefin 2022 sy’n ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion a lleoliadau roi trefniadau ar waith i alluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Mae disgwyliadau ar gyfer y trefniadau hyn ar gael yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’.
I baratoi ar gyfer hyn, dylai ysgolion a lleoliadau:
- barhau i ddatblygu eu dull o ymdrin â chynnydd, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm i Gymru
- adeiladu ar y berthynas a'r trefniadau presennol o fewn a rhwng ysgolion a lleoliadau er mwyn galluogi'r trafodaethau hyn rhwng ymarferwyr a sefydlu perthynas newydd os yw’n briodol.
Gofynion i wneud cynlluniau pontio
Daeth Rheoliadau Pontio o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022 (‘Rheoliadau 2022’) i rym ar 1 Gorffennaf 2022 ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo lunio cynlluniau pontio newydd i gefnogi'r broses o bontio dysgwyr Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7 ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023, gyda chynlluniau pontio newydd ar waith erbyn mis Medi 2022. Fe wnaeth y rheoliadau hyn ddisodli a dirymu’r Rheoliadau blaenorol, sef Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006.
Cafodd canllawiau pellach a deunyddiau ategol i hwyluso'r gwaith o ddatblygu’r cynlluniau pontio eu cyhoeddi yn ystod tymor y gaeaf 2022.
Trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
Er mwyn sicrhau bod ymarferwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn gallu asesu cynnydd dysgwyr yn effeithiol, mae gwaith ar y gweill i gyd-ddatblygu trefniadau asesu priodol y gellir eu gweithredu ochr yn ochr â'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Dylai'r trefniadau gynnwys y canlynol:
- canllawiau i gefnogi lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
- canllawiau i gefnogi asesiad parhaus o gynnydd dysgwyr mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
- trefniadau asesu priodol wrth i ddysgwyr ddechrau mewn lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir.
Cyhoeddir y trefniadau asesu terfynol cyn mis Medi 2023, gyda chanllawiau interim ar gael i bob lleoliad a fydd yn defnyddio'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir ar 1 Medi 2022.