English

Er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i gynllunio ar gyfer rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith, mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth mewn perthynas â’r hyn y dylai ysgolion ei wneud i gefnogi dysgwyr o dan y trefniadau asesu sy’n dirwyn i ben nes y bydd y gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn cyrraedd y grwpiau blwyddyn perthnasol.

Mae mwy o wybodaeth am gynllunio ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm i’w gweld yn yr adran Disgwyliadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm yn barhaus a’i adolygu yng nghanllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Cyfathrebu â rhieni a gofalwyr: y trefniadau o 2023 ymlaen

Mae darparu adroddiadau ysgrifenedig gan benaethiaid mewn perthynas â phob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod yn ofyniad statudol ar gyfer yr ysgolion hynny sydd heb gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru eto ar gyfer grwpiau blwyddyn perthnasol. I’r grwpiau blwyddyn sy’n gweithredu o dan y Cwricwlwm i Gymru, mae dyletswydd ar benaethiaid i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth am gynnydd blynyddol dysgwyr. Y pennaeth sy’n pennu’r ffurf fwyaf priodol ar gyfer darparu’r wybodaeth i rieni a gofalwyr, ynghyd ag amseriad y ddarpariaeth.

Mae'n dal yn ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir sy’n gweithio o dan Gwricwlwm 2008 ar gyfer Blwyddyn 9 i adrodd i rieni a gofalwyr ar ganlyniadau asesu athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (yr unig eithriad yw o ran deilliannau ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 mewn ysgolion arbennig). Bydd yn parhau’n ofynnol i benaethiaid adrodd ar ddyfarniadau cymwysterau, neu rannau o gymwysterau, a gyflawnwyd gan ddysgwyr.

Mae’r gofynion statudol ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr i’w gweld yn yr adran crynodeb o’r ddeddfwriaeth yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru.

O ran gwybodaeth am ddysgwyr unigol, rhaid i ysgolion a lleoliadau rannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr am y canlynol:

  • cynnydd eu plentyn
  • ei anghenion i wneud cynnydd i’r dyfodol
  • beth ellir ei wneud gartref i helpu i gyflawni’r anghenion i wneud cynnydd i’r dyfodol
  • ei fodlonrwydd cyffredinol yn yr ysgol

Rhaid rhannu gwybodaeth am ddysgwyr unigol gyda’u rhieni a’u gofalwyr o leiaf bob tymor, ac nid oes angen llunio adroddiadau ysgrifenedig hirfaith, ond dylai’r adborth gael ei roi ar y fformat sydd orau gan y pennaeth. Dylai fod ar ffurf hwylus sy’n sicrhau’r cyswllt mwyaf â rhieni a gofalwyr, ac sy’n sicrhau’r eglurder mwyaf posibl.

Dylid darparu crynodeb o’r wybodaeth am ddysgwyr unigol bob blwyddyn, a bydd y pennaeth yn pennu pryd ac ar ba fformat, gan sicrhau cynnydd mwyaf y dysgwr.

Mae cefnogi cynnydd pob dysgwr unigol yn ganolbwynt asesu parhaus o fewn cyd-destun dydd i ddydd. Bydd rhai trefniadau asesu yn parhau i fod ar waith ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 sy'n cael eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol presennol, nes bod y Cwricwlwm i Gymru wedi’i gyflwyno i Flwyddyn 9 ym mis Medi 2024. Mae'r adran hon yn egluro'r hyn sy'n ofynnol ac nad yw'n ofynnol fel rhan o'r trefniadau hyn.

Ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 a addysgir o dan Gwricwlwm Cenedlaethol 2008, rhaid i ysgolion barhau i wneud y canlynol:

  • Cefnogi dysgwyr, drwy asesu parhaus yn yr ystafell ddosbarth, i wneud cynnydd effeithiol ar draws y cwricwlwm presennol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd (gan ddefnyddio'r ‘Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol’)
  • Sicrhau bod dysgwyr ym mhob grwp blwyddyn yng Nghyfnod Allweddol 3 yn dal i ddilyn trefniadau 2008, a bod pob dysgwr sy'n symud i’r Cwricwlwm i Gymru, yn cymryd asesiadau personol mewn Darllen, Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu) yn unol â'r llawlyfr gweinyddu Mae'r asesiadau statudol hyn ar gael drwy gydol y flwyddyn academaidd i ysgolion eu hamserlennu ar adeg y maent yn ei hystyried yn fwyaf buddiol i gefnogi dysgu, addysgu a chynnydd
  • Ac eithrio mewn ysgolion arbennig, cynnal asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3
  • Ac eithrio mewn ysgolion arbennig, adrodd ar ganlyniadau asesiadau athrawon ar gyfer diwedd Cyfnod Allweddol 3 i’r awdurdod lleol.

Mae'r trefniadau hyn yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd i ysgolion.

Wrth gynllunio asesiad i gefnogi dysgwyr Cyfnod Allweddol 3, cofiwch:

  • nad oes raid i bob ysgol, ac eithrio ysgolion arbennig, ond asesu ac adrodd ar gyrhaeddiad dysgwyr yn erbyn disgrifyddion lefel y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd y cyfnod allweddol, hynny yw yn nhymor yr haf ym Mlwyddyn 9 (heb fod yn hwyrach nag 20 diwrnod gwaith cyn diwedd y tymor).
  • y gall ymarferwyr ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn flaenorol i gefnogi'r broses hon.
  • yn ystod y cyfnod allweddol, y dylai ymarferwyr ond defnyddio'r disgrifyddion lefel sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglenni astudio i lywio dysgu ac addysgu a helpu i gefnogi dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 i wneud cynnydd. Nid yw'n ofynnol i ymarferwyr asesu dysgwyr yn uniongyrchol yn erbyn lefelau yn ystod y cyfnod allweddol.
  • Nad oes gofyniad i ddyrannu 'is-lefelau' i ddysgwr nac i ddarn o waith yn ystod, neu ar ddiwedd, y cyfnod allweddol.

Mewn perthynas ag addysgu a dysgu o ddydd i ddydd a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd, gall ymarferwyr ddefnyddio'r dull asesu a amlinellir yn 'Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu' os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Sicrhau cysondeb mewn asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3

Gyda’r gofynion i gymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 yn cael eu dileu er mwyn creu mwy o hyblygrwydd i ysgolion uwchradd, rydym yn cynghori'n gryf bod ymarferwyr yn sicrhau dull cyson ar gyfer eu dysgwyr. Nid yw hyn yn golygu y dylid sefydlu proses ar wahân, ond yn hytrach bod ymarferwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol yn yr ysgol i sicrhau cysondeb yn y modd y caiff dysgwyr eu hasesu ac y caiff lefelau eu dyfarnu ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3.

I gefnogi'r trafodaethau hyn, efallai y bydd ymarferwyr am gyfeirio at y canllawiau a ddarperir ar gyfer pynciau'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae pob dogfen yn cynnwys enghreifftiau o waith dysgwyr i fod yn enghraifft o'r disgrifiadau a amlinellir yn y disgrifyddion lefel a dangos sut i'w defnyddio i roi lefel diwedd Cyfnod Allweddol 3 i ddysgwyr.

Wrth i ysgolion a lleoliadau baratoi ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol i'r hyn a amlinellir yn Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesui gefnogi eu cynllunio. Mae rhagor o ddeunyddiau ategol ymarferol ar gyfer y cwricwlwm, asesu a gwerthuso cynnydd dysgwyr yn awr ar gael.

Trefniadau asesu wrth i ddysgwyr ddechrau mewn ysgol neu leoliad

O dan y Cwricwlwm i Gymru, bydd y trefniadau asesu wrth i ddysgwr ddechrau yn rhan bwysig o drefniadau asesu cyffredinol ysgol neu leoliad i gynllunio a chefnogi dysgwr yn briodol i wneud cynnydd o fewn cwricwlwm.

I gefnogi hyn, o dan y trefniadau newydd rhaid i ysgolion a lleoliadau:

  • wneud a gweithredu trefniadau asesu sy'n helpu i greu darlun o alluoedd a doniau'r dysgwr mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol neu'r lleoliad
  • gweithredu'r asesiadau ar gyfer dysgwyr sydd newydd eu cofrestru mewn ysgol neu leoliad (ac eithrio dysgwyr Blwyddyn 6 sy'n pontio i Flwyddyn 7), gan gydnabod bod plant a dysgwyr yn mynd i mewn i ysgolion a lleoliadau ar wahanol adegau ar draws y continwwm rhwng 3 ac 16 oed
  • cynnal yr asesiadau o fewn 6 wythnos i ddysgwr gyrraedd ysgol neu leoliad i gefnogi dealltwriaeth o ddechrau taith y dysgwr
  • defnyddio canlyniadau'r asesiadau i gynllunio'r camau nesaf a theilwra’r dysgu a’r addysgu i alluogi cynnydd.

Er mwyn sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau yr hyblygrwydd i sicrhau bod eu trefniadau asesu wrth i ddysgwyr ddechrau yn cyd-fynd â'u cwricwlwm, ysgolion a lleoliadau fydd yn gyfrifol am bennu manylion y trefniadau hyn. Er hynny, rhaid i’r asesiadau fodloni’r canlynol:

  • bod yn addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • cefnogi sgiliau rhifedd
  • cefnogi sgiliau llythrennedd
  • cefnogi datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant a dysgwyr

Ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n pontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, dylid trosglwyddo gwybodaeth i gefnogi eu cynnydd ar hyd y continwwm dysgu fel rhan o drefniadau pontio a roddir ar waith rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Felly, mae cydweithio effeithiol ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd yn allweddol i gefnogi taith ddysgu esmwyth ar hyd y continwwm rhwng 3 ac 16 oed.

Datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

Gan adlewyrchu rôl sylfaenol cynnydd o fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyflwyno Cyfarwyddyd yn ymwneud â datblygu a chynnal cyd-ddealltwriaeth o gynnydd ym mis Mehefin 2022 sy’n ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion a lleoliadau roi trefniadau ar waith i alluogi ymarferwyr i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd. Mae disgwyliadau ar gyfer y trefniadau hyn ar gael yn ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’.

I baratoi ar gyfer hyn, dylai ysgolion a lleoliadau:

  • barhau i ddatblygu eu dull o ymdrin â chynnydd, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu egwyddorion cynnydd y Cwricwlwm i Gymru
  • adeiladu ar y berthynas a'r trefniadau presennol o fewn a rhwng ysgolion a lleoliadau er mwyn galluogi'r trafodaethau hyn rhwng ymarferwyr a sefydlu perthynas newydd os yw’n briodol.

Gofynion i wneud cynlluniau pontio

Daeth Rheoliadau Pontio o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022 (‘Rheoliadau 2022’) i rym ar 1 Gorffennaf 2022 ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo lunio cynlluniau pontio newydd i gefnogi'r broses o bontio dysgwyr Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7 ym mlwyddyn academaidd 2022 i 2023, gyda chynlluniau pontio newydd ar waith erbyn mis Medi 2022. Fe wnaeth y rheoliadau hyn ddisodli a dirymu’r Rheoliadau blaenorol, sef Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006.

Cafodd canllawiau pellach a deunyddiau ategol i hwyluso'r gwaith o ddatblygu’r cynlluniau pontio eu cyhoeddi yn ystod tymor y gaeaf 2022.