Cyflwyniad i'r deunyddiau ategol ymarferol
Dyma sy’n esbonio'r deunyddiau ac yn amlinellu sut a pham y cawsant eu cynhyrchu.
Mae Camau i'r Dyfodol wedi dod ag ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid ynghyd ar draws y system addysg i gyd-ddatblygu gwybodaeth a dulliau newydd o gefnogi gwireddu'r cwricwlwm, ac yn arbennig, cynnydd.
Mae'r deunyddiau hyn yn ganlyniad i'r broses gyd-ddatblygu hon, ac maent wedi'u creu i'w defnyddio gan unigolion, ysgolion a chlystyrau i gefnogi dealltwriaeth ddyfnach o Gwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm a arweinir gan y dibenion, sy'n canolbwyntio ar broses. Ei nod hefyd yw cefnogi dulliau o feithrin cynnydd wrth gynllunio'r cwricwlwm.
Mae'r deunyddiau wedi'u cynllunio i gefnogi ymarferwyr ledled Cymru i:
- ymgymryd â'r un broses o ddysgu a meddwl am y cwricwlwm a chynnydd â chyfranogwyr yn y prosiect Camau i'r Dyfodol
- gallu defnyddio deunyddiau a grëwyd gan gyfranogwyr y prosiect, wedi'u cynllunio i gefnogi dealltwriaeth ymarferol a gwireddu cynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru
Cyflwyniad i'r deunyddiau hyn
Mae'r fideo hwn yn amlinellu natur a phwrpas y deunyddiau hyn ac yn rhoi trosolwg o gynnwys pob adran. Mae'r fideo hefyd yn trafod sut y cafodd y deunyddiau hyn eu creu.
- Cyflwyniad: trawsgrifiad fideo pdf 149 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Cyflwyniad: taflen sleidiau pdf 433 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Defnyddio'r deunyddiau ategol ymarferol
Mae tair rhan ac mae'r rhain wedi'u cynllunio i'w hystyried mewn trefn, gan adeiladu arnynt un ar y tro.
- Deall Cwricwlwm i Gymru
- Asesu a chynnydd mewn cwricwlwm a arweinir gan y dibenion
- Gwireddu'r cwricwlwm: o gyd-destunau cenedlaethol i gyd-destunau lleol
Mae'r diagram hwn yn dangos strwythur y deunyddiau.
- Diagram deunyddiau cymorth ymarferol pdf 101 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Mae pob adran yn cynnwys:
Syniadau allweddol
Mae'r rhain yn cyflwyno'r syniadau sy'n sail i Gwricwlwm i Gymru a'i ddull o asesu, cynnydd a gwireddu. Gall y rhain gael eu defnyddio gan ymarferwyr unigol, neu yn rhan o drafodaethau ehangach ysgolion neu glystyrau i ddatblygu dealltwriaeth.
Archwilio ymhellach
Mae'r canllawiau a'r gweithgareddau hyn yn caniatáu archwilio'r syniadau yn fanylach, gan gynnwys cwestiynau myfyriol ar adegau allweddol i gefnogi gwaith meddwl a thrafod am ddealltwriaeth ymarferol o Gwricwlwm i Gymru.
Meddwl ar waith
Mae'r adrannau hyn yn cynnwys deunyddiau a ddatblygwyd yn uniongyrchol gan ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a phartneriaid addysgol i gefnogi dealltwriaeth ymarferol o gynnydd, yn ogystal â chanllawiau a gweithgareddau sy'n tynnu syniadau cyfranwyr ynghyd. Gall y rhain gael eu defnyddio gan unigolion neu grwpiau o ymarferwyr i gefnogi gwireddu Cwricwlwm i Gymru yn ymarferol yn barhaus.