Deall y cwricwlwm ar waith: Camau i'r Dyfodol
Deunyddiau i gefnogi ysgolion i greu cwricwlwm a arweinir gan y dibenion, lle mae ffocws ar broses.
- Rhan o
Mae'r deunyddiau hyn wedi'u cynhyrchu yn sgil gwaith a syniadau cyfranogwyr ym mhrosiect Camau i'r Dyfodol, a sefydlwyd i ddod ag arbenigedd a phrofiad gweithwyr addysg proffesiynol at ei gilydd i feithrin gallu ar gyfer cynnydd dysgu. Eu nod yw cefnogi ysgolion i greu dealltwriaeth gyffredin o Gwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm a arweinir gan y dibenion, lle mae ffocws ar broses.
Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn datgan yn glir beth sy’n bwysig mewn addysg eang a chytbwys. Mae cwricwlwm ysgol yn cynnwys popeth mae dysgwyr yn ei brofi wrth weithio tuag at y pedwar diben. Mae’n gysyniad mwy na’r hyn rydym ni’n ei addysgu yn unig; mae hefyd yn cwmpasu sut rydyn ni’n addysgu – ac yn fwy na dim, pam ydyn ni’n ei addysgu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn ein herio i ystyried pam fod dysgu penodol yn bwysig, a beth yw hanfod y dysgu a’r cynnydd a ddylai fod yn sail i fathau gwahanol o wybodaeth, sgiliau, pynciau a gweithgareddau dysgu. Hanfod hyn yw dynesiad tuag at gynllunio cwricwlwm a arweinir gan bwrpas a phroses. Mae’r deunyddiau hyn yn deillio o’r dynesiad hwn, a bydd ein cefnogaeth barhaus i ddiwygio’r cwricwlwm yn ceisio cefnogi dealltwriaeth gyffredin o hyn a’r goblygiadau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu.
- Cyflwyniad
Dyma sy’n esbonio'r deunyddiau ac yn amlinellu sut a pham y cawsant eu cynhyrchu
- Deall Cwricwlwm i Gymru
Yn cynnwys modelau cwricwlwm a'r hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol i ddefnyddio dull proses ar gyfer cynllunio a gwireddu cwricwlwm yn y Cwricwlwm i Gymru
- Asesu a chynnydd mewn cwricwlwm a arweinir gan y dibenion
Yn cynnwys deunydd sy’n edrych ar ddulliau asesu a dulliau o ymdrin â chynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys deunyddiau sydd wedi’u datblygu gan ymarferwyr
- Gwireddu'r cwricwlwm: o gyd-destunau cenedlaethol i gyd-destunau lleol
Yn cynnwys safbwyntiau rhyngwladol yn ymwneud â gwireddu cwricwlwm a deunyddiau sydd wedi’u datblygu gan ymarferwyr yn ymdrin â datblygu ar y cyd a chefnogi cynnydd
- Cefndir y prosiect Camau i'r Dyfodol
Dyma sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y prosiect