Efelychiad gwe-rwydo
Rydych chi wedi clicio ar ddolen a oedd yn rhan o efelychiad gwe-rwydo.
Peidiwch â phoeni, mae eich data personol yn parhau i fod yn ddiogel. Mae ysgolion, fel unrhyw sefydliad, yn agored i seiber-drosedd. Mae Hwb yn cynnal yr ymarfer hwn fel cyfle dysgu ac i'ch atgoffa i fod yn wyliadwrus yn erbyn bygythiadau gwe-rwydo go iawn.
Ebost gwe-rwydo yw pryd mae ymosodwr yn defnyddio parth ffug neu gyfeiriad e-bost sy'n dynwared sefydliad dilys. Mae'r e-bost yn aml yn cynnwys dolen i safle sy'n ymddangos yn ddilys, lle byddant yn gofyn i chi rannu eich gwybodaeth bersonol neu ariannol gyda nhw.
Amddiffyn eich hun a'ch ysgol
Gall bod yn ymwybodol o rai o'r technegau y mae seiber droseddwyr yn eu defnyddio i gael data personol, er enghraifft cyfrineiriau, manylion bancio neu wybodaeth sensitif arall eich helpu i adnabod ac osgoi sgamiau gwe-rwydo.
Gallwch ddarganfod mwy am y gwahanol ddulliau y gall ymosodwyr eu defnyddio ar ein tudalen gwe-rwydo. Gallwch hefyd gwblhau'r modiwlau hyfforddi isod.
Hyfforddiant ymwybyddiaeth gwe-rwydo
Bydd y modiwl hyfforddi hwn yn eich helpu i ddeall beth yw gwe-rwydo a sut mae'n gweithio, sut y gallwch adnabod negeseuon e-bost gwe-rwydo, gwahanol dechnegau gwe-rwydo a beth allwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun a'ch sefydliad.
Hyforddiant seiberdiogelwch i staff ysgol
Mae'r modiwl hyfforddi seiberddiogelwch hwn a gynhyrchwyd gan y National Cyber Security Centre (NCSC) wedi'i gynllunio i gefnogi staff ysgolion i helpu i wella gwytnwch seibr eu hysgol.
Mae'n bwysig bod yn rhagweithiol wrth nodi ac adrodd negeseuon gwe-rwydo posibl, ond safbwynt y NCSC yw na all unrhyw becyn hyfforddi, gan gynnwys efelychiadau gwe-rwydo, ddysgu defnyddwyr i adnabod pob ymgais gwe-rwydo.
Dyna pam mae cael strategaeth glir i ymateb i ymosodiadau seiber hefyd yn hanfodol.
Parodrwydd am ddigwyddiadau
Gyda'r ddibyniaeth gynyddol ar dechnoleg a gwasanaethau ar-lein, gall cael strategaeth glir ar sut i reoli digwyddiad seiber ddiogelwch helpu i leihau unrhyw darfu ar weithrediadau ysgolion. Dylai'r strategaeth hon fod yn rhan greiddiol o drefniadau cynllunio a rheoli ysgolion, gyda seiber ddiogelwch yn cael ei ystyried a'i gyfeirio ar draws polisïau perthnasol yr ysgol, gan gynnwys polisïau diogelu a diogelwch. Mae hefyd yn bwysig bod gan ysgolion gynllun rheoli digwyddiadau ar waith.
Adnoddau cefnogol
Gallwch ymgynghori â Safonau a Chanllawiau Digidol Addysg a'r canllawiau Seiberddiogelwch mewn ysgolion i helpu i gynllunio, datblygu a chynnal strategaeth effeithiol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau seiber.
Mae gwefan NCSC hefyd yn cynnwys canllawiau i gefnogi ymateb i ddigwyddiad seiber.
Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r adnodd 360 Safe Cymru ddwyieithog i hunanasesu eu darpariaeth diogelwch ar-lein ehangach, gyda’r elfen dechnoleg yn berthnasol i gefnogi datblygiad polisïau seiberddiogelwch eich ysgol.