English

Mae ein Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn cynnwys aelodau rhwng 13 ac 17 oed. Yn ein grŵp, rydyn ni'n trafod llawer o bethau gan gynnwys pynciau llosg fel tueddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a Deallusrwydd Artiffisial. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc godi ymwybyddiaeth, mynegi barn a helpu Llywodraeth Cymru i ddeall y byd ar-lein o'u safbwynt nhw.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y ffurflen ymuno, ar gael ar wefan Cymru Ifanc.

Diweddariadau diweddar

Dyma rai o'n prif weithgareddau dros y misoedd diwethaf. Mae aelodau'r grŵp hefyd wedi mynychu cyfarfodydd cynllunio ar-lein.

  1. 2023 Hydref Cyfarfod grŵp ieuenctid 7 Hydref
  2. 2023 Tachwedd Digwyddiad yr NSPCC a chwrs preswyl Cymru Ifanc
  3. 2024 Ionawr Cyfarfod y Grŵp Ieuenctid 20 Ionawr
  4. 2024 Chwefror Digwyddiad Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 6 Chwefror yn Stadiwm Principality

 

Digwyddiad Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 6 Chwefror

Mynychodd ein grŵp ieuenctid ddigwyddiad cyffrous yn Stadiwm Principality ar 6 Chwefror.

Darganfyddwch fwy am sut y gwnaethon nhw dreulio'r diwrnod yn yr erthygl hon. Gellir gweld uchafbwyntiau pellach o'r diwrnod ar ein tudalen Dathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024.

Cytunodd rhai o'n haelodau grŵp ieuenctid i gyfweliad radio. Cafodd eu safbwyntiau am ba newidiadau yr hoffent eu gweld yn cael eu gwneud ar-lein eu cynnwys fel rhan o eitem newyddion am Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, cyfrannodd y grŵp ieuenctid at ffilm ar y cyd gyda Webwise, panel ieuenctid Iwerddon. Gellir gweld y ffilm isod.


 

Cyfarfod grŵp ieuenctid, 20 Ionawr

Ar 20 Ionawr, cyfarfu ein grŵp ieuenctid i baratoi ar gyfer dathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Yn ystod y sesiwn derbyniodd ein haelodau hyfforddiant hyder ac adeiladu tîm. Un o'r prif drafodaethau oedd 'Beth yw'r un newid yr hoffech ei weld ar-lein y Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel hwn?'.


 

Digwyddiad yr NSPCC

Ar 14 Tachwedd 2023, cafodd rhai o'n haelodau gyfle i fynd i ddigwyddiad yr NSPCC a gynhaliwyd yn y Senedd. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023.

Yn y digwyddiad hwn, cafodd aelodau’n grŵp ieuenctid gyfle i glywed barn siaradwyr a phobl ifanc eraill ar ddiogelwch ar-lein. Roedd y ffocws ar y risgiau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys technoleg ymgolli (AR a VR), a'r hyn y dylid ei wneud i amddiffyn pobl ifanc.


 

Cwrs Preswyl Cymru Ifanc

Ar 2 Tachwedd, mynychodd rhai o'n haelodau gwrs preswyl Cymru Ifanc yng Nglan-llyn. Gofynnwyd am eu barn am sut mae technoleg yn newid


 

Cyfarfod grŵp ieuenctid 7 Hydref

Ar 7 Hydref, cynhaliwyd sesiwn gyda'n Grŵp Ieuenctid ac un o'r prif bynciau oedd Deallusrwydd Artiffisial. Mae Deallusrwydd Artiffisial yn esblygu'n gyflym ac mae'r grŵp yn cydnabod ei fod yn dechrau ymddangos ym mhob agwedd ar fywyd. Trafododd ein haelodau y pethau cadarnhaol a'r pethau negyddol a'u teimladau ynghylch sut y gallai effeithio arnom yn y dyfodol.


 

Sesiwn holi ac ateb gydag un o aelodau’n grŵp

Darllenwch am sesiwn gyntaf grŵp ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein, a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023.