Problemau a phryderon ar-lein: meithrin perthynas amhriodol ar-lein
Meithrin perthynas amhriodol yw pan fydd rhywun yn dod yn ffrindiau â phlentyn neu unigolyn ifanc, ac yn meithrin perthynas â nhw, oherwydd eu bod nhw eisiau eu twyllo neu roi pwysau arnynt i wneud rhywbeth rhywiol, neu rywbeth a allai eu brifo neu eu niweidio.
Beth yw meithrin perthynas amhriodol?
Gall meithrin perthynas amhriodol ddigwydd i unrhyw un ifanc, waeth beth fo eu hoedran, eu rhywedd, eu hil na’u lleoliad. Nid yw meithrin perthynas amhriodol yn beth iawn i'w wneud, ac nid yw byth yn fai ar y dioddefwr. Mae’n fath o gamdriniaeth. Gall ddigwydd mewn bywyd go iawn ond gall hefyd ddigwydd ar-lein mewn lleoedd sy’n boblogaidd ymysg pobl ifanc, fel y cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau grwp, gwasanaethau negeseuon, fforymau, ffrydiau byw a phlatfformau gemau.
Efallai y bydd pobl sy’n meithrin perthnasau amhriodol yn targedu un person a threulio llawer o amser yn bod yn gyfeillgar a gofalgar ac adeiladu perthynas. Neu, efallai y byddan nhw’n anfon neges at lawer o bobl ar yr un pryd ac yn aros i weld pwy fydd yn ateb. Gall ddechrau fel sgwrs ar blatfform cyhoeddus cyn gofyn i ti siarad gyda nhw’n breifat, neu anfon cais i fod yn ffrind.
Unwaith y mae’n meddwl dy fod di’n ymddiried ynddo, gall y sgwrs newid ac efallai y bydd yn gofyn cwestiynau rhywiol ac yn gofyn i ti anfon lluniau neu fideos noeth. Efallai y bydd yn ceisio cwrdd mewn bywyd go iawn hyd yn oed.
Pwy sy’n gwneud hyn?
Gallen nhw fod yn rhywun diarth neu’n rhywun rwyt ti’n ei adnabod ychydig, efallai drwy deulu neu ffrindiau, neu rywun ti’n adnabod ei ffrindiau. Gall fod yn fenyw neu’n wryw, yn hen neu’n ifanc, yn gyfeillgar ac yn ddoniol – does dim math penodol o berson!
Efallai ei fod yn esgus bod yn rhywun hollol wahanol. Mae hyn yn eithaf rhwydd i’w wneud ar-lein. Gall fod yn defnyddio ffug luniau, yn esgus eu bod yr un oed ac yn rhannu’r un diddordebau â thi. Gall fod yn anodd gwybod pwy i ymddiried ynddo ar-lein.
Sut i sylwi os wyt ti’n rhan o berthynas amhriodol
Nid yw cwrdd â phobl newydd ar-lein yn beth drwg bob amser. Mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd. Mae angen cadw mewn cof y risgiau i chdi dy hun i gadw dy hun allan o drwbl. Gall y cyffro o ran cwrdd â rhywun newydd, cael sylw ychwanegol a chael rhywun yn dweud pethau neis ei gwneud hi’n anodd adnabod os wyt ti’n rhan o berthynas amhriodol. Efallai dy fod yn credu dy fod mewn perthynas go iawn hyd yn oed.
Ceisia gymryd cam yn ôl ac edrych ar y sefyllfa. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ffrind neu frawd neu chwaer iau yn gwneud yr un peth. Fyddet ti’n meddwl bod yr ymddygiad yma’n ddiogel iddyn nhw?
Dyma rai pethau i edrych allan amdanyn nhw y mae pobl sy’n meithrin perthnasau amhriodol yn eu gwneud weithiau:
- anfon llawer o negeseuon
- dweud wrthyt ti i gadw’r sgwrs yn gyfrinach
- gofyn a oes gan rywun arall fynediad i dy ffôn/ tabled/ cyfrifiadur
- gofyn cwestiynau personol i gael gwybod mwy amdanat ti
- dweud pethau caredig wrthyt ti a siarad am dy gorff
- anfon anrhegion rhithwir neu go iawn
- siarad mewn ffordd rywiol – efallai y byddan nhw’n dechrau’n ysgafn drwy drafod cusanu
- gofyn am luniau neu fideos noeth neu rywiol
- twyllo ti i anfon lluniau neu fideos
- defnyddio bygythiadau neu flacmel i dy gael di i anfon lluniau neu fideos
- gofyn i gwrdd go iawn
Os yw rhywun yn ceisio siarad am ryw gyda thi, neu ofyn am luniau noeth, gofyn yn gyson i ti siarad yn breifat ar-lein, nid yw hyn yn iawn. Nid yw fyth yn iawn i rywun roi pwysau arnat ti i wneud rhywbeth rhywiol.
Efallai y bydd yn dy fygwth di neu dy deulu, yn dy flacmelio drwy fygwrth rhannu lluniau neu gynnwys rhywiol amdanot ti, yn dweud na fydd unrhyw un yn dy gredu, neu na fydd dy deulu byth yn maddau i ti. Mae hyn yn golygu ei fod yn ceisio dy reoli, ac nid yw hynny byth yn iawn. Rheola’r sefyllfa ac adrodda am y sefyllfa i’r gwasanaeth CEOP (Saesneg yn unig).
Beth os nad wyt ti’n meddwl ei fod yn broblem?
Efallai na fyddi di’n sylweddoli dy fod mewn perthynas amhriodol ac yn meddwl dy fod mewn perthynas arferol a hapus, heb unrhyw un yn gwneud rhywbeth o’i le.
Ond mae’n anghyfreithlon anfon, gofyn, arbed neu rannu lluniau a fideos noeth neu rywiol os wyt ti o dan 18 oed. Os yw rhywun yn gwneud hyn, maen nhw’n torri’r gyfraith. Waeth os wyt ti’n meddwl ei fod yn iawn neu beidio, mae’n anghyfreithlon ac maen nhw’n cymryd mantais, hyd yn oed os nad yw’n teimlo felly ar y pryd.
Efallai y bydd yn ceisio dweud wrthyt ti fod dy berthynas yn arbennig, ei fod yn dy garu di, na fydd dy deulu’n deall neu nad ydyn nhw’n gofalu amdanat. Mae’n anodd meddwl yn glir pan mae rhywun yn gwneud i ti deimlo’n arbennig, ond nid yw’n iawn. Os nad wyt ti’n siwr, siarada gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Os nad wyt ti’n gwybod sut i ddechrau sgwrs, dyma rai awgrymiadau.
Sut i gadw dy hun yn ddiogel
Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus, blocia, adrodda a dweda wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Dyma rai awgrymiadau i dy gadw’n ddiogel.
- Paid â rhannu gwybodaeth bersonol gyda phobl nad wyt ti’n eu hadnabod – er enghraifft dy rif ffôn, cyfeiriad neu ysgol.
- Sicrha bod dy osodiadau preifatrwydd yn uchel a bod dy gyfrifon yn breifat fel mai dim ond dy ffrindiau sy’n gallu gweld beth wyt ti’n ei rannu.
- Dewisa dy ffrindiau ar-lein yn ofalus – paid ag ychwanegu pobl i gynyddu dy niferoedd; ceisia sicrha dy fod yn gwybod pwy ydyn nhw mewn bywyd go iawn.
- Ymuna â grwpiau – beth am wneud ffrindiau newydd gyda diddordebau tebyg mewn grwpiau fel nad oes angen eu hychwanegu fel ffrind er mwyn sgwrsio.
- Does dim angen rhannu dy leoliad – diffodda dy osodiadau lleoliad a phaid â rhannu dy gynlluniau fel bod pawb yn gallu gweld.
- Os wyt ti’n cwrdd â rhywun nes di ddod i nabod ar-lein, cer â rhywun gyda thi a sicrha dy fod yn dweud wrth oedolyn am ble rwyt ti’n mynd.
- Rho wybod i CEOP os wyt ti’n meddwl dy fod di, neu rywun rwyt ti’n ei adnabod, yn rhan o berthynas amhriodol.
- Dweda wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo os oes unrhyw beth yn dy boeni neu’n gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus.
- Adrodda am unrhyw gamdriniaeth drwy’r platfform yr wyt ti’n ei ddefnyddio (dolenni uniongyrchol i adrodd ar blatfformau poblogaidd isod).
- Paid byth â rhannu lluniau neu fideos noeth neu rywiol gyda rhywun ar-lein, hyd yn oed os wyt ti’n ymddiried yn y person hwnnw.
Beth os wyt ti eisoes wedi anfon llun neu fideo noeth?
Os wyt ti eisoes wedi anfon lluniau neu fideos, mae rhai pethau y galli di ei wneud i helpu. Nid yw’n rhy hwyr chwilio am gymorth, hyd yn oed os wyt ti wedi cael dy dwyllo i ymddiried yn rhywun ar-lein, neu os ydyn nhw’n dy flacmelio drwy fygwth rhannu’r lluniau rwyt ti wedi eu hanfon. Nid yw bod yn rhan o berthynas amhriodol yn fai arnat ti. Paid â gadael i gywilydd dy stopio rhag dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen. Os wyt ti o dan 18 oed, ac mae llun neu fideo noeth neu rywiol wedi cael ei bostio ar-lein, rho gynnig ar yr adnodd Report Remove (Saesneg yn unig) er mwyn ei dynnu oddi ar y we.
Cyngor gan bobl ifanc eraill rhwng 12 ac 16 oed
Does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth os yw’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, a pheidiwch â bod ofn dweud na. Dylech dorri cysylltiad a thynnu eich hun o’r sefyllfa. Os mai ‘ffrind’ i chi sy’n rhoi pwysau arnoch chi, dylai ddeall os nad ydych chi eisiau gwneud rhywbeth.
Rhowch wybod i'r un sy'n rhoi pwysau arnoch a'i rwystro. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sgrinluniau ac yn cadw'r dystiolaeth o'r hyn rydych chi am ei riportio. Gall dweud wrth rywun beth sydd wedi digwydd atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd eto.
Mae’n iawn bod ofn riportio rhywbeth ond mae angen i chi fod yn ddewr. Siaradwch ag athrawon, rhieni neu oedolyn dibynadwy arall. Bydd y bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw rydych chi eisiau rhoi gwybod iddyn nhw yn deall ac ni fyddan nhw’n meddwl yn wahanol, neu’n dweud y drefn wrthych chi am y peth - maen nhw yno i’ch helpu chi.
Ble i fynd i gael cymorth
Os wyt ti’n chwilio am gymorth neu wybodaeth, ond yn poeni am ddechrau sgwrs gydag oedolyn, dyma rai awgrymiadau.
- Canllawiau apiau i deuluoedd – canllaw Hwb i’r apiau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys sgoriau oedran, risgiau a phethau i’w gwneud i dy gadw’n ddiogel
- Child Exploitation and Online Protection (CEOP) (Saesneg yn unig) - rhowch wybod iddyn nhw os ydych chi’n poeni am gam-drin rhywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn siarad â chi ar-lein
- Addysg CEOP (Saesneg yn unig) - cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed ar y rhyngrwyd a pherthnasoedd
- Childline (Saesneg yn unig) - llinell gymorth breifat a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU lle gallwch chi siarad am unrhyw beth – ffoniwch 0800 1111
- Internet Watch Foundation (Saesneg yn unig) – adrodd am gynnwys cam-drin plant yn rhywiol yn ddienw ac yn gyfrinachol
- Meic - llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru gyda chynghorwyr i’ch helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch
- Report Remove (Saesneg yn unig) – adrodd a dileu’r lluniau noeth sydd wedi cael eu rhannu ar-lein
- ‘Fe fuost ti’n noeth ar-lein, felly...’– canllaw ar beth i’w wneud os yw llun neu fideo noeth neu rywiol ohonot wedi cael ei rannu ar-lein
- Shore (Saesneg yn unig) - gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol i bobl ifanc sy'n poeni am feddyliau neu ymddygiad rhywiol
Ffonia 999 os wyt ti, neu rywun rwyt ti’n ei adnabod, mewn perygl brys
Gurls out Loud
Gwylia'r ffilm hon o ymgyrch 'Gurls out Loud' yr Internet Watch Foundation, sy'n cynnwys awgrymiadau ar sut i ymdrin â chyswllt amhriodol ar-lein.