English

Ap microblogio a rhwydweithio cymdeithasol am ddim yw Tumblr, lle gall defnyddwyr flogio am eu syniadau a'u diddordebau trwy gyfrwng testun, lluniau, dyfyniadau, dolenni, cerddoriaeth a fideos. Blogiau cryno ydyn nhw'n aml, sy’n cynnwys mwy o luniau na thestun hir yn aml. Mae Tumblr yn blatfform sy'n dod â llu o grwpiau â diddordebau amrywiol at ei gilydd, ac ar hyn o bryd mae'n cynnal dros 581.6 miliwn o flogiau gyda 12.8 miliwn o flogiau’n cael eu postio bob dydd. Mae proffiliau Tumblr yn dudalennau lle gall defnyddwyr arddangos eu diddordebau ac ail-bostio blogiau neu syniadau eraill sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Hefyd, gall defnyddwyr greu blogiau a rennir gydag eraill yn eu cymuned Tumblr. Mae'r ap yn ffordd dda i bobl ifanc feithrin eu hochr greadigol a mynegi hyn gydag eraill. Cafodd Tumblr ei dynnu o'r App Store yn flaenorol, gan fod cynnwys anaddas wedi ymddangos ar y platfform. Fodd bynnag, mae'r platfform wedi gwneud newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys ei logo, ac mae ar gael ar yr App Store a Google Play bellach, ond gyda sgôr oedran uwch.

Y terfyn oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Tumblr yw 16 yn y DU, ond does dim dulliau gwirio oedran trylwyr.

Ni fydd cynnwys, sydd wedi’i nodi fel deunydd anweddus naill ai gan ddefnyddwyr eu hunain neu gan Tumblr, ar gael i rai dan 18 oed.

Mae App Store yn rhoi sgôr o 17+ a Google Play yn rhoi sgôr 'Parental guidance'.

Mae pob cyfrif yn gyhoeddus yn ddiofyn, a gall holl ddefnyddwyr y platfform weld y cynnwys. Argymhellir eich bod yn newid hyn i osodiad preifat.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Mae plant a phobl ifanc yn mwynhau Tumblr fel ffordd o ddangos eu creadigrwydd a'r cyfle i fynegi eu hunaniaeth, eu diddordebau a'u creadigrwydd ar-lein. Pan fyddwch chi’n cofrestru gyda Tumblr gofynnir i chi nodi diddordebau ac yna bydd y platfform yn eich cyfeirio tuag at gynnwys mae'n credu y byddech chi’n hoffi ei ddarllen a'i archwilio. Mae'n gallu bod yn safle hynod apelgar a hygyrch i blant a phobl ifanc ymuno â chymunedau a grwpiau diddordeb, a all roi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw a chyfle i fynegi eu hunain. Mae'n arbennig o boblogaidd gyda 'fandoms' (dilynwyr sioeau, masnachfreintiau a llyfrau penodol ac ati) fel fforwm i drafod diweddariadau, cymeriadau a phlotiau neu bostio eu celf ffans. Mae gan y wefan ochr artistig hefyd lle gall defnyddwyr ddangos ffotograffiaeth a chreu estheteg sy'n bersonol iddyn nhw a'u blogiau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd y platfform yn ei chael hi'n anodd cystadlu gydag apiau newydd fel TikTok a bu gostyngiad yn nifer y defnyddwyr. Yn fwy diweddar, mae'r platfform wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc sydd eisiau mynegi eu hunain mewn ffordd wahanol, gan farchnata ei hun fel "welcome to weird".

  • Dyma rywun sy'n defnyddio Tumblr - ac mae'n cyfeirio at y dudalen proffil y gallwch ei haddasu gyda gifs, fideo, blogiau, dolenni a phethau rydych chi'n eu hoffi yn ogystal â phobl rydych chi'n eu dilyn.

  • Ffyrdd o ryngweithio o fewn Tumblr. Gallwch ddewis sgwrs grwp ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi ac ymuno â hi.

  • Gallwch anfon neges at ddefnyddiwr Tumblr arall trwy'r platfform os ydych chi wedi'ch cysylltu trwy'r platfform.

  • Gallwch ddewis a oes modd i eraill ddod o hyd i chi drwy Tumblr neu chwiliaduron eraill, neu fod yn gudd. Hefyd, gallwch ddewis gadael i eraill ofyn cwestiynau neu beidio.

  • Mae Tumblr yn caniatáu i ddefnyddwyr sefydlu mwy nag un blog a rhannu cynnwys ar y cyd ar flog grwp. Gall defnyddwyr gael un prif flog a hyd at 10 blog eilaidd. Dim ond prif flog sydd â'r prif nodweddion cymdeithasol a rhyngweithiol lle gall defnyddwyr hoffi negeseuon eraill, anfon negeseuon neu gyflwyno postiadau. Gellir sefydlu blogiau eilaidd hefyd fel Blogiau Grwp cydweithredol lle mae gweinyddwr yn gwahodd defnyddwyr eraill, yn dileu cynnwys ac yn ymateb i 'Asks’.

  • Mae eich 'Following page' yn dangos cynnwys y mae algorithm Tumblr yn credu y byddwch yn ei hoffi, yn ogystal ag unrhyw flogiau rydych chi wedi tanysgrifio iddyn nhw a'u dilyn.  

  • Mae'r nodwedd hon yn golygu bod rhai pobl rydych chi'n eu dilyn ar y platfform yn dilyn yr un cynnwys a argymhellir â chi hefyd.

  • Gall defnyddwyr ychwanegu tudalen 'Ask' at eu blogiau lle mae ymwelwyr yn gallu gofyn cwestiynau naill ai'n ddienw neu gyda'u henw’n weladwy. Mae modd ateb y rhain naill ai'n breifat neu'n gyhoeddus.

  • Gall defnyddwyr ychwanegu ‘Blaze’ at neges, i’w hyrwyddo a’i ddangos i fwy o ddefnyddwyr. Mae angen talu arian go iawn ar gyfer y nodwedd hon, ac mae’n agored i unrhyw ddefnyddwyr 18 oed a throsodd.

  • Dyma lle gall defnyddwyr ail-bostio blogiau a welwyd ac ychwanegu capsiwn.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr adael sylwadau ar bostiadau.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr hoffi negeseuon.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rannu post neu flog naill ai â defnyddwyr eraill ar yr ap neu ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill fel Facebook neu Twitter.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddal i fyny gyda defnyddwyr neu ffrindiau eraill.

  • Mae rhoi hashnod (#) ar bostiad yn caniatáu i'r holl bostiadau am yr un pwnc gan holl ddefnyddwyr Tumblr gael eu rhoi mewn grwp gyda’i gilydd. Yna gall defnyddwyr ddilyn yr hashnodau hyn i chwilio am unrhyw ddiweddariadau ar y pwnc.

  • Mae hyn yn cyfeirio at ffrwd sy'n llawn cynnwys wedi'i argymell i chi, yn seiliedig ar eich diddordebau gwylio blaenorol.

  • Y nodwedd hon yw proffil y defnyddiwr ar y platfform. Mae’n cynnwys deunydd wedi’i lanlwytho’n ddiweddar o gyfrifon sy’n cael eu dilyn a phostiadau poblogaidd a allai fod o ddiddordeb i’r defnyddiwr.

  • Mae’r nodwedd hon yn galluogi defnyddwyr i greu arolwg yn ymwneud ag unrhyw gwestiwn neu gynnwys. Gall defnyddwyr eraill ar y platfform ymateb i’r arolwg.

  • Mae’r rhain yn caniatáu i grewyr benderfynu pwy sy’n cael gweld eu cynnwys ac yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli beth maen nhw’n ei weld ar eu ffrwd.

  • Siop Tumblr sy’n caniatáu i ddefnyddwyr brynu nodweddion ychwanegol ar gyfer y platfform, fel bathodynnau proffil a thanysgrifiadau premiwm i’r platfform.

Mae Tumblr wedi'i fwriadu'n bennaf ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion, ac anogir mynegiant cwbl rydd a rhyngweithio. O'r herwydd, mae cryn dipyn o gynnwys anghyfyngedig a heb ei hidlo. Pan fydd defnyddwyr yn lawrlwytho'r ap am y tro cyntaf, mae'n gofyn iddyn nhw ddewis o leiaf pum maes cynnwys sydd o ddiddordeb iddyn nhw, er mwyn dechrau creu ffrwd o flogiau ar eu hafan. Anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am y diddordebau mae'n eu dewis, gan y bydd algorithm yr ap yn parhau i awgrymu mathau tebyg o gynnwys. Nid yw’r platfform yn cael ei gymedroli, sy'n gallu golygu bod plant a phobl ifanc mewn perygl o fod yn agored i gynnwys anaddas fel cynnwys treisgar neu anweddus, camwybodaeth  neu’n fwyaf arbennig, ddelweddau pornograffig neu gynnwys rhywiol. Mae'r platfform yn hynod boblogaidd gyda defnyddwyr sy'n postio blogiau ffuglen ffans a all fod o natur rywiol ac yn amhriodol i ddefnyddwyr iau. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu cael mynediad ato ar y platfform, mae'ch plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu gynnwys aeddfed nad yw'n addas i'w oedran. Fodd bynnag, efallai y bydd eich plentyn yn dal i fod yn agored i gynnwys anaddas gan gysylltiadau hysbys.

Mae blogiau'n gyhoeddus yn ddiofyn, sy'n golygu bod pawb sy'n defnyddio'r platfform yn gallu gweld unrhyw bostiadau sy'n cael eu rhannu gan ddefnyddwyr. Er bod modd cuddio blog unigol, mae hyn yn cyfyngu ar yr elfen ryngweithiol gyda ffrindiau a phwrpas y platfform yn y lle cyntaf. Mae'r platfform yn cynnwys nodwedd negeseua uniongyrchol hefyd, sy'n gallu achosi risg bellach os yw defnyddwyr yn cysylltu â phobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon cysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy yn eu blogiau neu sgyrsiau. Cofiwch annog eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu os yw wedi derbyn negeseuon sy'n peri gofid neu'n ei wneud yn anghyfforddus. Hefyd, mae'n bwysig adolygu'r gosodiadau amlygrwydd a phreifatrwydd i gyfyngu ar gysylltiad, sylw a sylwadau digroeso gan ddieithriaid.

Gall defnyddwyr greu tudalen 'Ask' ar eu blogiau hefyd lle mae defnyddwyr eraill yn gallu gofyn cwestiynau. Yna, gall perchennog y blog naill ai eu hateb yn breifat neu'n gyhoeddus. Perygl hyn yw bod modd i berchnogion blogiau alluogi togl  ‘allow anonymous questions’ lle mae defnyddwyr eraill neu hyd yn oed rai heb gyfrif Tumblr yn gallu gofyn cwestiynau heb ddangos pwy ydyn nhw. Gall yr elfen anhysbys hon annog defnyddwyr i ddweud neu ofyn pethau amhriodol neu sarhaus heb orfod delio â'r goblygiadau negyddol y byddent yn eu hwynebu’n bersonol fel arfer, sy'n gallu peri gofid i bobl ifanc. Rydym yn argymell yn gryf y dylid analluogi'r nodwedd hon ar gyfer pobl ifanc sy'n defnyddio Tumblr neu o leiaf sicrhau nad yw defnyddwyr yn gallu gofyn cwestiynau'n ddienw.

Fel llawer o wefannau blogio a chyfryngau cymdeithasol eraill, efallai y bydd defnyddwyr Tumblr am ddefnyddio'r platfform i ddangos eu personoliaeth a phersonoli eu cyfrif gyda phostiadau, eu hoff bethau a diddordebau y gallant wedyn eu rhannu a'u harddangos gyda ffrindiau. Mae nodwedd 'Tips' y platfform yn golygu y gall defnyddwyr wneud arian gan ddefnyddwyr eraill sy'n cynnig 'tip' am eu hoff negeseuon hefyd. I rai defnyddwyr, mae'r nodwedd hon yn gallu bod yn ysgogiad i bostio cynnwys eang ei apêl er mwyn gwneud arian. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sy'n addas, a ddim yn addas, i'w rannu a thrafodwch y dulliau gwahanol o ddiogelu ei hun ar y platfform. Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i bobl eraill dynnu sgrinlun o'r cynnwys sy'n cael ei bostio a’i rannu’n eang, a sut y bydd yn gadael cofnod digidol parhaol.

Mae Tumblr yn canolbwyntio ar gymunedau o ddiddordeb a thoreth o bytiau byr o gynnwys sydd ar gael yn barhaus. Mae'r ffaith fod pobl eraill yn hoffi ac yn ymateb i'w cynnwys yn atyniadol ac apelgar iawn i blant a phobl ifanc. Efallai y bydd yn ddefnyddiol gosod terfynau amser a helpu'ch plentyn i reoli faint o amser mae'n ei dreulio ar yr ap.

Pan fydd defnyddwyr yn lawrlwytho Tumblr am y tro cyntaf, maen nhw'n cael eu hannog i alluogi pob hysbysiad. Er mwyn helpu'ch plentyn i reoli ei amser ar y platfform, defnyddiwch y gosodiadau hysbysu yn yr ap. Mae'r gosodiadau diofyn yn golygu y bydd eich plentyn yn gweld hysbysebion ar y platfform hefyd. Mae Tumblr yn marchnata cyfleoedd pori heb hysbysebion, trwy wasanaeth tanysgrifio misol. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae hysbysebu'n gweithio, gan gynnwys hysbysebu wedi'i dargedu. Esboniwch wrth ddefnyddwyr iau sut mae'r platfform yn casglu gwybodaeth o'ch arferion gwylio i deilwra'r hysbysebion maen nhw’n eu gweld. Mae nifer o gyfleusterau ar y platfform hefyd sy’n annog defnyddwyr i wario arian yn gyfnewid am nodweddion ychwanegol, fel y gallu i gynnig cildwrn (‘tip’) i ddefnyddwyr neu gynnig ‘Blaze’ i bostiad. Mae ‘TumblrMart’ yn nodwedd arall sy’n annog defnyddwyr i brynu bathodynnau i’w harddangos ar eu proffiliau enu eu rhoi’n anrhegion i ffrindiau. Mae pryniadau ar borwyr gwe yn cysylltu defnyddwyr â phartneriaid talu eilaidd, tra bod defnyddwyr ar ffonau symudol yn gwneud y pryniadau hyn drwy Google Pay a’r Apple App Store. Gofalwch nad yw'ch plentyn wedi cysylltu unrhyw fanylion ariannol â'i gyfrif. Gofalwch nad yw'ch plentyn wedi cysylltu unrhyw fanylion ariannol â'i gyfrif.

Mewn cyfrifon newydd Tumblr, mae’r tab dangosfwrdd ‘For You’ wedi’i ragosod yn ddiofyn. Dim ond cynnwys argymelledig ar sail algorithm yr hyn rydych chi’n edrych arno neu’n ei hoffi mae’r tab hwn yn ei ddangos. Gall annog eich plentyn i dreulio mwy o amser na’r bwriad ar Tumblr, gan fod yr ap yn galluogi rhywun i sgrolio’n ddiddiwedd. Dylech drafod gosod terfynau amser ar Tumblr gyda’ch plentyn ac esbonio eich bod eisiau ei helpu i gael mwy o reolaeth o’i amser.

  • Does dim gosodiadau diogelwch rhieni ar Tumblr ac nid yw'n bosib gwneud blog yn breifat. Yn hytrach, gallwch ddefnyddio gosodiadau eraill i helpu i reoli rhyngweithiadau ar y platfform.

  • Mae ychydig o osodiadau a all helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys ar Tumblr. Gallwch atal pobl rhag chwilio amdanoch drwy'ch cyfeiriad e-bost a gallwch leihau gwelededd eich cyfrif Tumblr i leihau faint o sylw mae'n ei gael. Hefyd, gallwch gyfyngu ar bwy sy'n gallu anfon negeseuon uniongyrchol atoch chi a gosod hidlyddion cynnwys er mwyn cyfyngu ar beth mae'ch plentyn yn agored iddo.

    I analluogi pobl rhag dod o hyd i chi drwy eich cyfeiriad e-bost:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a dewis 'General settings'
    • dewiswch ‘Privacy’ a diffodd 'Let others find you by email’

    I dynnu eich blog o ganlyniadau peiriannau chwilio:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a dewiswch y blog
    • tapiwch ar yr eicon gêr a dewis 'Visibility' o blith yr opsiynau a restrir
    • trowch yr opsiwn 'Hide [blog name] from search results' ymlaen

    I newid gosodiadau negeseuon uniongyrchol:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a dewis 'General settings'
    • tapiwch 'Messaging' a dewis yr opsiwn 'Only Tumblrs you follow can message'

    Rheoli atebion:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a dewis 'General settings'
    • sgroliwch 'lawr i ‘Replies’ a dewis ‘Only Tumblrs you follow can reply’

    I analluogi 'Asks' neu gwestiynau:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a sgrolio i lawr i ‘Let people ask questions’
    • toglwch oddi ar yr opsiwn hwn

    I alluogi hidlyddion cynnwys:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a dewis 'General settings'
    • sgroliwch i lawr i ‘Filtering’ a defnyddiwch yr opsiwn ‘+New’ i ychwanegu'r tagiau a'r cynnwys yr hoffech ei hidlo (mae'r nodwedd hon mor ddibynadwy â'r tagiau a roddir i bostiadau, ac nid yw'n ddull saff a sicr o hidlo cynnwys)
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am gyfrif:

    • ewch i'r cyfrif rydych am gwyno amdano a dewiswch ei enw defnyddiwr a’r eicon person
    • pwyswch y tri dot wrth ei enw
    • dewiswch 'Report' a dilyn yr opsiynau i gwblhau'ch cais

    I gwyno am neges neu flog:

    • ewch i'r blog neu postiwch eich dymuniad i gwyno, a chlicio ar y tri dot yn y gornel uchaf ar y dde
    • dewiswch 'Report' a dilynwch yr opsiwn i gwblhau'ch cais

    I flocio neges neu flog:

    • ewch i'r post neu flog yr hoffech chi ei flocio
    • dewiswch y tri dot yn y gornel uchaf ar y dde
    • pwyswch 'block'

    I flocio cyfrif:

    • ewch i'r cyfrif yr hoffech ei flocio a chlicio ar yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Block' o'r opsiynau a restrir
  • Mae Tumblr yn caniatáu i ddefnyddwyr guddio pan maen nhw'n defnyddio'r platfform, er mwyn atal defnyddwyr eraill rhag gweld eu bod nhw yno. Gallwch reoli hysbysiadau yn yr ap hefyd.

    I reoli gosodiadau defnydd gweithredol:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif ac yna'r ddewislen 'General settings'
    • dewiswch ‘Privacy’ a diffodd yr opsiwn ‘Let others see that you’re active’

     I analluogi 'Tips’:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a sgrolio i lawr i 'Let people tip you'
    • gofalwch fod yr opsiwn hwn wedi’i doglo i ffwrdd

    I reoli hysbysiadau:

    • ewch i osodiadau eich cyfrif a dewis 'General settings’
    • sgroliwch i 'Notifications' ac ewch drwy'r rhestr o opsiynau sydd fwyaf addas i'ch plentyn
  • Os byddwch chi’n dileu cyfrif Tumblr, mae’n broses barhaol ac nid oes modd ei adfer. Does dim gosodiadau ar gael i ddadactifadu cyfrif defnyddiwr Tumblr am gyfnod dros dro.

    I ddileu cyfrif Tumblr (cyfrifiadur personol):

    • dewiswch ‘Settings’ o ochr chwith y sgrin
    • sgroliwch tan welwch chi ‘Delete Account’ a phwyso’r botwm hwn
    • teipiwch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair a chlicio ar ‘Delete everything’ i gadarnhau eich bod am ddileu’r cyfrif

    I ddileu cyfrif Tumblr (iOS ac Android):

    • dewiswch eicon y cyfrif (fector o berson) yn y gornel chwith isaf
    • dewiswch ‘General Settings’ (iOS), neu ‘Account Settings’ (Android)
    • sgroliwch lawr i ‘Delete account’
    • teipiwch gyfeiriad e-bost a chyfrinair eich cyfrif a dewis ‘Delete everything’

Cofiwch mai dim ond hyn a hyn o bethau allwch chi eu cyfyngu ar ap Tumblr, ac y gallai defnyddwyr ddod ar draws pob math o gynnwys addas i oedolion yn unig. Mae gofyn i chi fod yn hyderus bod eich plentyn yn ddigon aeddfed i ymdopi â'r cynnwys y gallai ei weld.

Y ffordd orau bob amser yw edrych ar Tumblr gyda'ch plentyn, i weld pa fath o gynnwys mae'n rhyngweithio ag ef a beth mae’n ei bostio. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus ei fod yn ei ddefnyddio'n ddiogel.